Sgwrs â'r bardd Aneirin Karadog
|
Bardd, sgriptiwr ac ieithydd yw Aneirin Karadog. Bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Rhydychen, lle cafodd radd mewn Ffrangeg a Sbaeneg cyn cychwyn ei yrfa ym Menter Iaith Rhondda Cynon Taf ac efo’r cwmni teledu ‘Tinopolis’ yn cyflwyno rhaglenni adnabyddus S4C megis ‘Wedi 7’ ac ‘Heno’. Cawsom ein cyflwyno i'w lenyddiaeth yn 2004 pan enillodd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd ac ers hynny, bu’n Fardd Plant Cymru, enillydd gadair Eisteddfod yr Urdd yn 2005 yn ogystal ag enillydd cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy 2016, i enwi rhai o’i lwyddiannau. Bellach, mae’n yn astudio am ddoethuriaeth mewn ysgrifennu creadigol Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.
I ddechrau, diolch am gytuno i gwrdd â fi i ateb cwpl o gwestiynau. Yn wreiddiol o Bontypridd, ble a phryd daeth yr awydd i ysgrifennu? Cefais fy magu ar aelwyd aml-ieithog ym Mhontardawe yn yr wythdegau cyn symud i Bontypridd, ond ar yr aelwyd roedd fy mam yn siarad Llydaweg â mi, fy nhad yn siarad Cymraeg â mi a hwythau'n siarad Ffrangeg â'i gilydd. Gyda hoffter o iaith felly daeth hoffter o lenyddiaeth. Cofiaf hefyd ddod ar draws Cyfansoddiadau a Beirniadaethau yr Eisteddfod Genedlaethol, cael fy nenu gan y cloriau lliwgar ac yna mynd i ddarllen awdlau a phryddestau. Roeddwn yn fy arddegau hefyd yn ysgrifennu caneuon pop, ond daeth y sylweddoliad taw barddoni ro'n i am ei wneud wedi i fi ennill cadair eisteddfod yr ysgol ym mlwyddyn 10 pan yn Rhydfelen. Digwydd sgwennu'r gerdd y noson gynt fel gwaith cartref wnes i heb ddisgwyl unrhyw wobr am y gwaith. Sut brofiad oedd ennill y Gadair yn Eisteddfod Sir Fynwy yn 2016? Roedd yn brofiad gwefreiddiol a bythgofiadwy. Rwyf wedi eistedd yn seremoni'r cadeirio fel aelod o'r gynulleidfa sawl gwaith ond roedd cael y fraint o wybod beth oedd i ddigwydd yn y seremoni hi’n yn braf. Y peth brafiaf oedd cael gwybod fod y tri beirniad yn meddwl fod y cerddi yn deilwng o'r gadair. Mae'n syndod faint sy'n dilyn seremoni'r cadeirio ac yn cysylltu i longyfarch wedi'r ddefod. Ond byddai'n brafiach byth meddwl fod pawb a wyliodd y seremoni yn mynd i ddarllen y cerddi, ond ysywaeth nid wy'n credu fod hynny'n wir. Bellach, rydych wedi ysgrifennu sgriptiau, llyfrau i blant a llawer o farddoniaeth, ond pa un yr hoffech ysgrifennu fwyaf? A pham? Wrth farddoni rydw i yn fy elfen ac yn fwyaf cyffyrddus. Mae wastad rhywbeth newydd i'w ddweud a ffordd newydd o'i ddweud e. Yn ei hanfod, mae'r grefft o farddoni yn benthyg ei hunan fel sail i bob math arall o lenyddiaeth ac felly mae mwynhad i'w gael yno. Mae sgwennu awdl yn debyg iawn i sgriptio ffilm neu ddrama, rhaid creu plot, creu stori neu linyn drwy'r cyfan a defnyddio gwrthdaro geiriol a delweddol i greu cyffro. Ond wy'n dal i drio creu 'y gerdd berffaith' felly ymlafnio â barddoni sy'n mynd â fy mryd. Wrth gyhoeddi eich cyfrol o farddoniaeth Bylchau, dywedoch mai colled bersonol wnaeth eich sbarduno i ysgrifennu, Ble ‘rydych yn cael eich ysbrydoliaeth? Mae pob math o bethau’n fy ysbrydoli, ond mae'r pynciau a'r cerddi yn codi o'r emosiynau ac o brofiadau personol. Os nad yw dyn yn canu o brofiad, mae'n debygol na fydd y geiriau yn cynnwys dyfnder emosiynol. Ar ôl llwyddiant ‘Y Barf’ ar S4C yn 2014, Beth yw pwysigrwydd llenyddiaeth yn eich barn chi i blant Cymru? Mae cael plant i fwynhau llenyddiaeth yn hollbwysig am gymaint o resymau. Yn gyntaf, mae'n atgyfnerthu ac ehangu cyrhaeddiad yr iaith ymysg y boblogaeth. Yn ail, mae'n meithrin dychymyg a ffordd eangfrydig o weld y byd. Gall hoffter o lenyddiaeth hefyd rwystro pobol fel Donald Trump rhag dod i rym - dyna rym llenyddiaeth. Ond mae angen hefyd i blant sylweddoli fod llenyddiaeth yn sail i bopeth maen nhw'n ei fwynhau, o gemau fideo, i ffilmiau Hollywood. O operâu sebon i gymaint o fideos youtube, sydd gan fwyaf yn cael eu sgriptio. Mae'r cyfan yn dechrau gyda gair ar bapur. Ac fe ellir ystyried barddoniaeth lafar, geiriau caneuon a rap yn llenyddiaeth hefyd. Mae gennych nifer o lwyddiannau i’ch enw bellach, megis Bardd Plant Cymru, enillydd cadair Eisteddfod yr Urdd a chadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Beth yw uchafbwynt eich gyrfa? Rwy'n gobeithio fod uchafbwynt fy ngyrfa yn dal i fod o fy mlaen ac nad ydw i eto wedi ei brofi. Ydy, mae ennill gwobrau a chlod am waith yn beth braf ond nid dyna'r rheswm dros farddoni. Yr uchafbwynt bob tro yw pan fydd cerdd yn cyffwrdd â rhywun. Mae'n dangos bod modd i farddoni gael effaith gwirioneddol ar bobol ac ar gymdeithas. Beth allwn ni fel darllenwyr ddisgwyl yn y dyfodol agos? Oes yna gyfrol newydd o farddoniaeth ar y gweill? Mae sioe gerdd yn yr arfaeth gyda Theatr Menter Cwm Gwendraeth o'r enw 'Shgwl!' ac mae'n delio gyda'r cyfryngau cymdeithasol a'r effaith negyddol bosib ddaw o hynny. Fel rhan o fy ymchwil ar gyfer PhD yn Adran Gymraeg Prifysgol Abertawe rwyf wedi bod yn llunio cyfrol o gerddi. Mae gen i 180 o gerddi i'w hidlo lawr i gyfrol o ryw 80 cerdd. Gobeithiaf allu cyhoeddi'r gyfrol honno yn y flwyddyn neu ddwy nesaf pan ddaw cyfle drwy gyhoeddwr fel Barddas yn ddelfrydol. Ond hoffwn hefyd weithio ar gyfrol o gerddi am Lydaw fel fy mhrosiect nesaf. Ryw ddydd, hefyd, fy uchelgais yw creu 'rapra', sef opera rap yn Gymraeg. Mae Hamilton yn hynod boblogaidd ac rwy'n credu fod yna botensial aruthrol i greu rhywbeth cofiadwy yn Gymraeg. Mae podlediad Clera, rwy'n ei wneud gydag Eurig Salisbury, hefyd yn mynd i barhau ac rydyn ni'n cael mwynhad mawr o drafod barddoni a phob agwedd ar farddoni ar y podlediad. Ac i orffen, wrth edrych ymlaen at eich gyrfa yn hir dymor beth sydd nesaf i Aneirin Karadog? Yn hirdymor y bwriad yw parhau i wella fel bardd a hefyd gwneud cymaint â phosibl gefnogi'r to nesaf o feirdd yng Nghymru. |