Sgwrs â'r bardd a'r cyfieithydd Megan Elenid Lewis
|
Merch ifanc o gefn gwlad Ceredigion yw Megan Elenid Lewis, sy’n byw yn Llanfihangel y Creuddyn ger Aberystwyth ac yn gweithio bellach fel cyfieithydd. Mynychodd Ysgol Gynradd Llanfihangel y Creuddyn ac Ysgol Gyfun Penweddig cyn mynd ymlaen â’i hastudiaeth addysg uwch yma i Brifysgol Aberystwyth gan ddilyn cwrs BA Cymraeg Proffesiynol. Derbyniodd radd dosbarth cyntaf cyn dilyn cwrs gradd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol. Mae wedi ennill nifer o gadeiriau a choronau am ei dawn greadigol, ond y llynedd, yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Ceredigion a Chymru, enillodd y Gadair a’r Goron! Y tro cyntaf i hynny ddigwydd yn hanes y ddwy Eisteddfod. Mae’n aelod ffyddlon o C.Ff.I. Trisant ac yn ysgrifennu dramâu a sgetsys y Clwb. Yn ddiweddar mae hi wedi cynorthwyo ar y fferm deuluol ynghyd â threulio amser gyda’i chŵn Cymreig.
1. Disgrifia dy hun mewn tri gair. Merch cefn gwlad! 2. A oedd gennyt ddiddordeb mewn ysgrifennu creadigol yn gynnar yn dy fywyd? Dw i wastad wedi mwynhau darllen, ac mae'n siŵr bod yr awydd i ysgrifennu wedi deillio o hynny. Mae ’na syniadau neu gymeriadau yn cronni yn fy mhen drwy'r amser, ond yr eisin ar y gacen yw cael yr amser i'w meithrin a'u rhoi ar bapur. 3. Pwy yw/oedd dy arwr llenyddol? Ydy rhywun wedi dylanwadu ar dy weithiau? Mae'n siŵr bod arddull wledig Caryl Lewis wedi dylanwadu'n fawr arnaf. O ran barddoniaeth, dw i'n edmygu gwaith sy'n ymateb i bynciau llosg y dydd ac sy'n rhoi rhywbeth i ni gnoi cil drosto. Dw i hefyd yn mwynhau darllen nofelau cyfoes Saesneg, ac yn mwynhau gwaith yr awdur Cynan Jones o gyffiniau Aberaeron sy'n feistr ar ffurf y stori fer hir! 4. Sut wyt ti yn mynd ati i ysgrifennu? Oes yna drefn benodol rwyt ti’n ei dilyn? Does yna ddim trefn benodol, ond mae'r syniadau gorau bob amser yn dod o'r lleoedd mwyaf annisgwyl, a byddaf bob amser yn ceisio eu dehongli a'u datblygu yn fy mhen cyn mentro rhoi'r un gair ar bapur. 5. Erbyn hyn, rwyt yn llwyddiannus yn barddoni ac yn ysgrifennu straeon byrion. A oes un arddull yn mynd â dy fryd yn fwy na’r llall? Ysgrifennu straeon byrion yw fy nghariad cyntaf, ac mae'n dal i fod yn ffefryn gen i oherwydd mae'n gyfle i greu cymeriadau o bob lliw a llun a chael camu i'w byd nhw am ryw ychydig. Er hynny, mae barddoniaeth yn cynnig llwyfan hollol wahanol, ac rwy'n cael blas ar ddefnyddio cerddi i wyntyllu syniadau mewn modd cryno a chynnil, gan ymateb i destun cyfoes. 6. A wyt wedi ystyried cyhoeddi unrhyw weithiau megis y stori fer a'r gerdd fuddugol yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc y llynedd? Mae'r gerdd a detholiad o'r stori fer a gafodd lwyddiant yn Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc yn 2018 wedi cael eu cyhoeddi yng nghylchgrawn wythnosol Golwg. Roedd hynny'n bwysig iawn i mi, oherwydd roedd y gerdd yn ymwneud â phwnc llosg iawn, sef Seisnigeiddio enwau lleoedd Cymreig, a'r stori fer yn ymwneud â damweiniau ar y fferm, testun cyfoes arall. Felly, ni allwn feddwl am ddim gwell na'u cyhoeddi yn y cylchgrawn er mwyn rhoi cyfle i ddarllenwyr eu darllen. 7. Sut deimlad oedd hi i greu hanes yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Ceredigion a Chymru drwy ennill y Gadair a’r Goron? Roedd yn deimlad afreal, ond yn un y byddaf yn ei drysori am byth. Mi gefais fwynhad mawr o ysgrifennu'r gerdd a'r stori fer, felly roedd y daith gyfan yn un llawn pleser a chyffro i mi. 8. Ynghanol yr holl brysurdeb, sut wyt yn ymlacio? Beth yw dy ddiddordebau? Rwy'n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Trisant yng ngogledd Ceredigion, ac mae holl weithgareddau'r mudiad yn mynd â'r rhan fwyaf o'm hamser. Mae hefyd yn fudiad sydd wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi - o lenydda, i berfformio i siarad yn gyhoeddus. Ond does dim yn well gen i na mynd am dro o gwmpas fy ardal leol yn Llanfihangel-y-Creuddyn, gan fwynhau'r awyr iach yng nghwmni fy nghi defaid Cymreig, Nel. Wrth grwydro'r caeau, rwy'n cael cyfle i glirio'r meddwl … a hel syniadau newydd! 9. A oes yna weithiau/dymuniadau i’w cyflawni yn y dyfodol? Yn y dyfodol, rwy'n gobeithio dal ati i ysgrifennu, oherwydd dw i'n mwynhau'r creadigrwydd a'r rhwydd hynt y mae dalen lân yn ei chynnig i mi. Dw i'n teimlo'n gryf bod cymaint i'w ddweud yma yng nghefn gwlad, a bod angen i ni leisio'r materion hynny. Mae 'na stori ymhob un ohonom, wedi'r cwbl! 10. Beth yw’r cyngor gorau yr wyt ti wedi ei dderbyn? Deuparth gwaith yw ei ddechrau - mae hynny'n hollol wir wrth ’sgwennu! |