Dyfrig Roberts: ffug fywgraffiad
|
Cyfeira’r ffug fywgraffiad hwn at ambell drosedd go iawn yn hanes Cymru, a hynny â'r nod o sicrhau fod y cymeriad yn un credadwy a diddorol. Wrth lunio stori bywyd y cymeriad, roeddwn yn wreiddiol wedi bwriadu y buasai'n ei ladd ei hun yn dilyn cyfnod o broblemau iechyd meddwl, ynghyd â’r trawma o golli ei frawd yn y rhyfel, ond penderfynais yn y pen draw ddarlunio marwolaeth fwy cynnil ac annisgwyl sydd, serch hynny, yn berthnasol i’w waith.
Roberts, Dyfrig Huw (1931–90) Enw: Dyfrig Huw Roberts Dyddiad geni: 1931 Dyddiad marw: 1990 Priod: Luned Mair Jones Rhiant: Maldwyn Roberts Rhiant: Eirian Roberts Rhyw: Gwryw Galwedigaeth: Cyfreithiwr, Barnwr Maes gweithgaredd: Y Gyfraith Ganwyd Dyfrig Huw Roberts ar 24 Tachwedd 1931 ar fferm Brynbugail, Llandeilo, sir Gaerfyrddin, yn fab ieuangaf i Maldwyn ac Eirian Roberts ac yn frawd i Gareth Llŷr (a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd, 1943). Cafodd ei addysg yn ysgol Dyffryn Aman ac fe’i hysbrydolwyd gan farwolaeth drasig ac anghyfiawn ei frawd i astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Warwick. Wedi iddo raddio, cafodd gyfle i wneud prentisiaeth gyda chyfreithwyr yng Nghaerdydd, lle bu'n gweithio ar achosion domestig am ychydig flynyddoedd, a lle cwrddodd â’i wraig, Luned Mair Jones. Cafodd gyfle i weithio ar achos blaenllaw yn 1955, sef achos llofruddiaeth enwog Kevin a Paul Robinson. Roedd yr achos yn un adnabyddus iawn, yn sgil dod o hyd i gyrff Stacey Chapman, Leanne Jenkins a Victoria Brown mewn coedwig wrth ymyl yr M4. Cafodd ganmoliaeth fawr am ei broffesiynoldeb ac, yn sgil hynny, cafodd waith ar nifer o achosion difrifol eraill. Yn 1967, dechreuodd hyfforddi i fod yn farnwr, ac fe gafodd waith yn Llys y Goron ym Mryste. Yn ystod ei flwyddyn gyntaf yno, cafodd ei achos difrifol cyntaf fel barnwr, pan gafwyd y pedoffeil Kingsley Vincent yn euog o ecsbloetio a chymryd mantais ar ferched ifanc oed cynradd. Dedfrydwyd Vincent i 21 o flynyddoedd yn y carchar. Cafodd Dyfrig Huw ei feirniadu yn sgil yr achos hwnnw yn sgil diffyg tystiolaeth gadarn a thystion rhagfarnllyd. Ychydig flynyddoedd wedyn, fe wynebodd erchylltra yn y llys wrth farnu achos o ddynladdiad merch a oedd yn gyd-ddisgybl i un o’i blant. Roedd yr achos llys hwnnw'n un emosiynol ac yn un o heriau mwyaf ei yrfa, a dedfrydwyd John O’Callaghan i wyth mlynedd dan glo am y drosedd. Un o achosion mwyaf blaenllaw ei yrfa, heb os, oedd sgandal cyffuriau gorllewin Cymru, ‘Operation Julie’, yn 1976. Yn dilyn ymchwiliad cudd am dros flwyddyn gyfan, arestiwyd dros gant o bobl am gynhyrchu a dosbarthu dros 90% o holl gyffuriau LSD y farchnad Brydeinig. Daeth yr achos yn enwog ar draws y byd, ac fe urddwyd Roberts yn Farchog gan y Frenhines am ei waith yn sicrhau cyfiawnder. Priododd Luned Mair Jones o Gaerdydd ar 10 Medi 1956, a chawsant dri phlentyn: Miriam (g.1957), Gareth (1960–2015) ac Eifion (g.1962). Fe lofruddiwyd Dyfrig Roberts yn 1990, gan y pedoffeil Kingsley Vincent, un o’r troseddwyr cyntaf iddo’i ddedfrydu. |