Y Fedal Gelf
|
Penderfynais gystadlu eleni am y Fedal Gelf wedi i mi ddod yn ail y llynedd ond hefyd oherwydd dyma’r Eisteddfod Ryng-golegol olaf i mi fel myfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roeddwn yn ysu am gael creu darn newydd o waith yn seiliedig ar y thema ‘Y Môr’ ac fe es ati i gasglu syniadau ar unwaith. Mae celf yn rhywbeth dwi’n ymddiddori ynddo ers sawl blwyddyn bellach. Rwyf wedi cael sawl cyfle i gystadlu mewn eisteddfodau lleol yn ogystal ag ar lefel genedlaethol yn sgil Mudiad y Ffermwyr Ifanc a’r Urdd. Deilliodd fy ysbrydoliaeth o fy Nain sydd wedi bod o gymorth mawr i mi ar hyd fy nyddiau yn yr ysgol uwchradd, a gallaf ddweud yn bendant fod cael athrawes Gelf yn yr ysgol uwchradd a oedd yn hynod frwdfrydig hefyd yn werthfawr iawn i mi allu cyflawni fy ngwaith hyd orau fy ngallu.
|
Fe fues i’n pendroni am sbel am ba fath o lun yr oeddwn am ei wneud. Fe wnes i yrru dau ddarn o waith i mewn i’r gystadleuaeth. Un o’r ddau lun yr oeddwn wedi eu trio oedd rhywbeth oedd gennyf wedi ei wneud eisoes ar gyfer fy mhortffolio Lefel A: llun oedd yn adlewyrchu dyfnderoedd y môr a’r gwahanol wead oedd i’w weld o dan frig y don. Er i mi fod ag un llun a oedd yn barod i’w roi i mewn i’r gystadleuaeth, roeddwn yn dal am greu darn o’r newydd.
Meddyliais y byddai’n neis cyfuno hwiangerdd gyda’r gwaith. Heb os nac oni bai, ‘Fuoch chi ’rioed yn morio?’ oedd fwyaf addas i gyd-fynd â’r thema. Wedi i mi gwblhau’r darn o waith, dyma oedd y darn yr oeddwn i’n ei hoffi orau a’r darn yr oeddwn fwyaf hyderus y byddai’n derbyn gwobr pe bawn i’n ddigon ffodus. Y math o arddull a ddefnyddiais i greu’r darn o gelf oedd tecstiliau. Rwyf yn hoff iawn o wnïo a phwytho ac roedd y darn buddugol yn adlewyrchu oriau o waith caled yn pwytho’n ddiflino. Nod y darn buddugol ydy trosiad o feddwl unigolyn yn seiliedig ar y môr. Mae’n ddarn gorffenedig mor brysur ac mae’n cymryd amser i werthfawrogi pob manylyn ynddo. Mae edrych ar y darn am y tro cyntaf yn mynd i fod yn wahanol i’r ail neu’r trydydd tro yr edrychwch arno, ac mae hynny yn bwrpasol. Yn union fel y môr, fe ddaw ton ar ôl ton ond does neb yn gwybod pa mor ffyrnig neu esmwyth y bydd. Roeddwn am geisio cyfleu hyn drwy ddangos prysurdeb bywyd. Derbyniais neges gan Anna Wyn, Llywydd UMCA, nos Iau cyn yr Eisteddfod yn nodi fy mod wedi dod yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Fedal Gelf: roeddwn yn gegrwth. Roedd meddwl am orfod cadw’n ddistaw tan y seremoni ar y prynhawn dydd Sadwrn yn yr Eisteddfod yn anodd, ond fe wnes i fwynhau pob eiliad o chwarae dirgelwch llwyr. Wrth gwrs roedd yn rhaid i mi gael dweud wrth rywun, a Mam oedd honno. Roedd hi’n hynod falch o glywed y neges ac yn ysu am gael dweud wrth bawb gartref hefyd. Un peth a oedd yn ddirgelwch llwyr i mi tan y seremoni oedd gwybod gyda pha ddarn o waith y des i yn fuddugol. Roeddwn i’n meddwl mai’r darn gyda’r hwiangerdd a fyddai’n ennill ond cefais sioc arall pan ddechreuodd y seremoni a chlywed fy mod wedi derbyn y drydedd wobr yn ogystal â’r gyntaf. Dyma pryd y sylweddolais mai darn o waith yr oeddwn wedi ei wneud i fy mhortffolio Lefel A oedd wedi dod i’r brig. Syndod mawr a dweud y lleiaf. ‘Storm Drofannol’ oedd ffugenw’r darn buddugol a oedd â dwy ystyr. Roedd lliwiau’r darn yn cyfleu’r storm o deimladau o fewn y gwaith ac wrth gwrs byddai pob aelod o UMCA yn ymwybodol mai diod yn Yr Hen Lew Du ydy’r Storm Drofannolac felly roedd UCMA i gyd wedi dyfalu’n syth fod y wobr yn dod yn ôl i’r Coleg ger y Lli. Pan gyhoeddon nhw fy enw roedd hi’n foment anhygoel clywed UMCA i gyd yn bloeddio yn dilyn fy llwyddiant. Er i’r Eisteddfod gael ei phortreadu yn wael yn gyhoeddus ac ar y newyddion, roedd llawer o aelodau UMCA wedi gweithio mor galed gan sicrhau cipio llawer o brif wobrau’r Eisteddfod. Llongyfarchiadau mawr i bawb a ddaeth yn fuddugol ar y diwrnod ac yn arbennig i Gruffydd Rhys Davies a ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Goron. |