Cefais Flodau Heddiw
|
Cefais flodau heddiw.
Doedd hi ddim yn ben-blwydd arna i, nac yn unrhyw ddiwrnod arbennig arall. Cefais dusw o rosod rhuddem oherwydd cawsom ein dadl gyntaf neithiwr. Dywedodd lawer o bethau creulon a wnaeth fy mrifo: ‘Pam wnest di gyrraedd adre’hanner awr yn hwyr heddiw? Ti’n gweld rhywun arall tu ôl fy nghefn yn’dwyt, y bitsh fach?’ Ond nid oedd ei eiriau mor boenus â’i ddwrn. ’Dw i’n gwybod ei fod yn teimlo’n wael ac nad oedd yn golygu’r geiriau hallt a boerodd arna’i neithiwr, oherwydd cefais flodau ganddo heddiw. Cefais flodau eto heddiw. Doedd hi ddim yn ben-blwydd arna’i, nac yn unrhyw ddiwrnod arbennig arall. Neithiwr, fe daflodd fi at wal a dechrau fy nhagu, gan geisio’i orau i wasgu pob gronyn o aer o’m hysgyfaint, nes i smotiau du ddechrau cymylu fy llygaid. Gwasgodd ei wyneb yn agos at fy wyneb i, a theimlais ei anadl wyllt yn boeth yn erbyn fy nghnawd oer. Yna, fe’m gollyngwyd, a chrychais fel pyped wedi’i ryddhau yn sydyn o’i linynnau ar lawr. Yr unig beth rwy’n ei gofio wedyn yw teimlo’r llawr llechwedd llwyd yn oer ar fy moch, cyn i’w ddwrn gwrdd â fy wyneb, ac aeth y byd yn ddu. Deffrois pan oedd haul cynnar y bore’n pipio drwy’r llenni. Cropiais fel llo newydd-anedig at y drych, a gwelais fod briwiau porffor wedi blaguro ar fy ngwddw, pedwar ohonynt ar bob ochr lle’r oedd ei fysedd wedi bod, yn ogystal â briwiau ar fy moch a llygad ddu oedd wedi chwyddo ynghau. Nid oeddwn eisiau credu’r peth. Os oedd e’n fy ngharu, pam yr oedd ef yn fy nhrin fel bag dyrnu? Gafaelais yn y gadair o fy mlaen, a chrynais wrth geisio mygu fy nagrau. Cymaint ag y ceisiais reoli fy emosiynau, daeth y boen yn gynnwrf o’m gwddf ar ffurf sgrech fud. Llithrodd y gleiniau dŵr hallt o’m llygaid, gan deimlo fel llafnau metel oer yn rhwygo trwy fy nghnawd ar fy mriwiau ffres, gan ryddhau’r tristwch a’r boen oedd wedi cael ei chynnal y tu mewn i mi. Penderfynais bryd hynny bod yn rhaid i mi ei adael, ond sut? I ble byddwn yn mynd? At bwy y byddwn yn medru troi? Yr unig beth oedd yn sicr oedd bod yn rhaid i mi ei adael yr eiliad honno. Ond wnes i ddim ei adael. Doedd gen i mo’r nerth i wneud hynny – roeddwn yn dal i’w garu. Pan ddaeth ef adre’n hwyrach, roedd ei lygaid yn goch ac wedi chwyddo, ac roedd ei amrannau trwchus megis coesau pryfaid cop wedi glynu at ei gilydd mewn clystyrau fel pe bai wedi bod yn nofio. Roedd stribedi o snotdyfrllyd clir yn llifo o’i ffroenau i lawr ei groen brith coch at ei wefusau crynedig. Roedd ei fwcedi cryfion o ddwylo a oedd unwaith wedi gwneud cymaint o niwed i mi bellach yn anwesu fy ngwallt yn ysgafn ac yn ymbil arnaf i faddau iddo. Ac roedd yn amlwg ei fod yn edifarhau, oherwydd cefais flodau ganddo. Gwnaeth e addo i mi’r diwrnod hwnnw na fyddai’n fy nghuro eto. Celwyddgi. Cefais flodau eto heddiw. Neithiwr, fe’m curodd yn waeth nag unrhyw dro arall, nes i’m hesgyrn dorri’n yfflon ac i’m gwaed ffrydio’n goch gan adael craith ysgarlad ar y carped gwyn. Neithiwr, ag ergyd farwol i fy mhen, fe lwyddodd i’m curo i farwolaeth. Roedd heddiw yn ddiwrnod arbennig iawn - roedd hi’n ddiwrnod fy angladd. Pe bawn i ond wedi magu digon o ddewrder i’w adael, ni fyddwn wedi cael blodau heddiw |