Sgwrs â'r prifardd a'r cyhoeddwr Dyfan Lewis
|
Llenor, bardd a chyhoeddwr yn wreiddiol o Graig-cefn-parc ger Clydach yw Dyfan Lewis, sydd bellach wedi ymgartrefu yn ein prif ddinas brysur. Cipiodd Dyfan Goron yr Eisteddfod Amgen yn 2021, a hynny gyda’i gasgliad o gerddi ar y testun gosod ‘Ar wahân’. Dechreuodd yn Ysgol Gynradd Felindre a gorffennodd ym Mhrifysgol Caerdydd lle’r astudiodd y Gymraeg. 2018 oedd cychwyn ei daith ar gyhoeddi pan rannodd ei waith â’r byd drwy ei gyhoeddi â’i wasg ei hun, Gwasg Pelydr, sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol hyd heddiw.
Mae eisteddfodwyr wastad yn dadansoddi ffugenwau beirdd a llenorion. A oes arwyddocâd i ‘Mop’, y ffugenw ddewisoch chi ar gyfer yr Eisteddfod Amgen eleni? Roeddwn i eisiau gair unsill, ac roeddwn i’n chwarae drwy ddweud geiriau unsill imi fy hun. Roedd sŵn o ddŵr a phethe yn y cerddi ac roeddwn i’n credu ei bod yn ddoniol ’mod i’n defnyddio Mop, a hefyd y cysylltiad gyda’r gair Saesneg mope achos mae rhai o’r cerddi yn eithaf digalon. Mae eisiau rhywbeth i ysgafnhau‘r holl bethau trwm sydd yn y gerdd, a’r ffugenw oedd y lle i wneud hynny. Elinor Wyn Reynolds oedd un o’r beirniaid, a dyma ei geiriau hi a’i beirniadaeth: ‘Dyma gyfres o gerddi trydanol, cyhyrog, deallus.’ Sut byddech chi‘n disgrifio eich casgliad buddugol o gerddi, a beth mae’r cerddi yn eu golygu i chi ar lefel bersonol? Mae geiriau Elinor yn garedig iawn, chwarae teg iddi. Sai’n gwybod fel byddwn i’n eu hesbonio nhw mewn geiriau ansoddeiriol, ond i mi maent yn mynegi rhyw fath o flinder gyda sut rydym yn ein trefnu ein hunain fel pobl. Y ffaith bod budd cyfalaf arian preifat yn cael ei roi uwchlaw buddion pobl gyffredin a chymuned. Felly, dyna oedd yr ysgogiad mewn ffordd. Roeddwn i’n dod lan at ddeng mlynedd o fyw yng Nghaerdydd ac roeddwn i eisiau archwilio fy mherthynas i â’r lle. Pan aethoch chi ati i lunio‘r casgliad o gerddi ar y tesun ‘Ar wahân’, beth ddaeth gyntaf, teitlau neu themâu ar gyfer cerddi, ynteu’r cerddi eu hunain? Allech chi ein tywys ni drwy‘r broses greadigol? Y cerddi ddaeth yn gyntaf mewn gwirionedd. Mae’r broses greadigol yn eithaf anarchaidd mewn ffordd. Dwi ar fy ffôn i yn defnyddio nodiadau, fel arfer pan dwi’n methu cysgu yn y nos, yn mynd bach yn obsessed gyda’r sgwennu yng nghanol nos tua un o’r gloch y bore, yn darllen dros y notes appyn mireinio pethau dwi wedi bod yn eu sgwennu dros yr wythnosau diwethaf. Ni fyswn i’n argymell hynny fel ffordd o sgwennu, ond mae’n gweithio i fi! Dwi’n meddwl ei bod hi lan i’r unigolyn i ffeindio ffordd i weithio. Dwi’n meddwl bod ffyrdd gwell i gael – falle dylwn i eu trio nhw. O ran y teitlau, daeth y rheiny mewn rhyw ddeng munud, chwarter awr, cwpl o ddiwrnodau cyn y dyddiad cau. Roeddwn i’n gweithio arnynt heb deitlau am amser hir. ’Nes i benderfynu dweud yn blwmp ac yn blaen am beth roedd y cerddi. Dyma yw thema’r gerdd a dwi jyst am ddweud hynny. Dwi’n meddwl ei fod wedi gweithio. Roeddwn i’n methu meddwl am unrhyw beth gwell ar y pryd ac felly dyna beth ddigwyddodd. Mae gennych chi deulu llenyddol iawn. Wrth gwrs mae eich tad, Emyr Lewis, yn fardd ac rydych chi hefyd yn perthyn i T.H. Parry-Williams. Oes gennych chi unrhyw atgofion llenyddol penodol o’ch plentyndod sydd wedi aros gyda chi neu sydd wedi bwydo i’ch gwaith ? Mae teulu llenyddol gen i. Mae Mam hefyd yn awdur; roedd Mam-gu yn cystadlu yn yr eisteddfodau. Roedd fy nain hefyd yn athrawes Saesneg ac roedd hi hefyd yn dyfynnu gwaith John Dunn a Shakespeare pan oeddwn i’n mynd draw. Doedd dim byd yn sefyll mas. Caiff llenyddiaeth ei derbyn fel peth. Roedd hi jyst yn rhan naturiol o’n bywydau ni; roedd hi’n beth naturiol i fy mynegi fy hun drwy ysgrifennu. Mae hwnna’n fraint, nag yw e? Nid pawb sy’n cael yr amgylchedd yna wrth iddyn nhw dyfu lan. Mae dyled fawr i fy athrawes Saesneg, Siwan Elis, sydd wedi ein gadael ni bellach, oedd wedi cymryd y peth ’ma oedd yn yr aer yn fy nheulu i, a’i adnabod e a thanio gwir ddiddordeb mewn llenyddiaeth a barddoniaeth, pwysigrwydd iaith a mynegiant. Felly, dim byd penodol ond jyst y fraint yna o fod mewn teulu lle bu’n rhywbeth naturiol. Nid yn unig rydych chi’n fardd dawnus, ond rydych chi hefyd yn gyhoeddwr. Rwy’n deall bod stori ddiddorol y tu ôl i sefydlu Gwasg Pelydr? Hoffech chi rannu’r stori honno? Daeth Gwasg Pelydr allan o gamgymeriad mewn gwirionedd. Ar y pryd, roeddwn i’n defnyddio lot o gamera ffilm. Sai’n gwybod os wyt ti wedi defnyddio camera ffilm o’r blaen, ond os wyt ti’n defnyddio’r hen gamerâu ffilm, mae golau yn gallu cyrraedd y ffilm drwy ffyrdd gwahanol heblaw’r lens, sy’n creu rhyw fath o effaith nefolaidd, rhyfedd gan fod golau yn dod ar draws y print a phethe. Fe welais i brint oedd yn cael ei ddatblygu, a chael yr ymateb rhyfeddol yma iddo fe ac roeddwn i’n gorfod sgwennu rhywbeth, a sgwennais eiriau oedd yn mynd gydag ef. ’Nes i ffeindio’r broses yma mor ddiddorol a mor hwyl, ’wnes i ffeindio rhagor o brints lle roedd hyn wedi digwydd, ac ysgrifennu geiriau yn ymateb iddyn nhw, a mynd ati i gymryd lluniau a chreu camgymeriadau o fwriad drwy ddefnyddio caeadau gyda thyllau ac yn y blaen er mwyn gwneud siapiau gwahanol ar y print, a rhoi’r ffilm mewn dŵr halen a chwarae o gwmpas. Ac wedyn roedd y casgliad yma gen i, ac roeddwn i’n meddwl beth ydw i am wneud gydag ef? Roeddwn i eisiau ei rannu fe gyda’r byd. Dwi ddim yn meddwl bysai cyhoeddwyr Cymru yn neidio ar y cyfle i gyhoeddi’r pamffled o waith rhyfeddol hyn, felly o’n i’n meddwl baswn i’n ei ’neud e fy hun! Dyna beth ’nes i. Dyna o ble ddaeth Gwasg Pelydr. ’Nes i eu gwerthu nhw yn yr Eisteddfod a llwyddo i ariannu fy mheint i fel ’na. Os wyt ti eisiau gwneud rhywbeth dros y ’Steddfod nawr, cael bach o ffordd i ariannu dy Steddfod di, baswn i’n argymell creu pamffled bach. Ga i ofyn beth sy’n rhoi’r dileit mwyaf i chi, y barddoni ynteu’r cyhoeddi? Mae’r ddau ohonyn nhw wedi bod ynghlwm â’i gilydd tan yn ddiweddar iawn, achos mae Gwasg Pelydr wedi cyhoeddi gwaith Morgan Owen. O ran fy ngwaith i, dwi’n methu gwahaniaethu rhyngddyn nhw. Mae’r ddau yn dod o swyddogaethau a dyletswyddau gwahanol. Dwi ddim hyd yn oed yn siŵr os dwi’n mwynhau barddoni cymaint â ’ny gan ei bod hi’n broses mor boenus! Dwi’n dweud wrthot ti, dwi lan yn hwyr yn y nos yn meddwl am y geiriau iawn. Mae fe hefyd yn broses rwystredig, ond dwi dal yn ei ’neud e felly mae’n rhaid ’mod i’n ei fwynhau rywsut. Diolch o galon ichi, Dyfan. Mae wir wedi bod yn bleser siarad â chi. Bydd darllenwyr yn sicr o gadw llygad barcud ar Wasg Pelydr, ac edrychwn ymlaen at gael gweld cyfraniadau newydd i’r byd llenyddol eto yn y dyfodol. |