Clymau
|
Do’dd hyn ddim yn broblem pan oedd o yma. Y cwestiynu di-ben-draw ’ma. Ama’ fy hun ’lly. ’O ni’n teimlo fel bo’ fi’n ganol ryw romcom shit ond god ʼo ni’n hapus. ʼOdd o jysd yn g’neud i mi deimlo petha’ deimlis i ʼrioed o’r blaen, a NA dim yn y ffor’ fela, ych. G’neud i mi deimlo bo’ na ryw werth i fywyd tu hwnt i bolisho canwyllbrenna’, a bo’ na ryw werth i minna’ hefyd. ʼTha pan ma’r hogan nerdy yn ca’l yr hogyn ar ddiwedd un o’r ffilms Americanaidd ʼna o’r 90au. Ac ma’ hi rywsut ne’i gilydd yn troi’n uffar o beth handi dros nos wedyn ac ennill Prom Queen ne’ be bynnag. Dwmbo be’ ʼsa’r ferswin Gymraeg chwaith. Anrhydeddu’n rhan o’r orsedd ella? Ond eniwe, fel’a. FEL’A o’dd o’n g’neud i mi deimlo. Rhywun finally yn fy n’allt i! Rhywun i afa’l yn ’n llaw i a d’eud ʼsa bob dim yn iawn. Rhywun i fynd â fi am dro a g’neud i mi chwerthin tan ʼo ni yn fy nybla’n chwerthin ʼtha Peppa Pig.
Ond what a shock ʼnath o’m aros naddo. ʼMond wsos o wylia’ efo’i Hen Nain yn Y Felin. Ma’ siwr bod o ʼdi ffansio bach o arbrofi, ne’ ella bod o ʼr’un mor wallgo’ o bored â finna’ fel bod o ’di cychwyn gweld rhyw linyn trôns o hogyn capel yn ddel. Welai’m bai arno fo. ʼOddi’n unai fi ne’ Mrs Jenkins drws nesa’ ond un, sy’n edrych ddigon hen i fod yn chwaer i Mair Magdalen. Ond d’wetha glywis i, o’dd o ʼdi shackio fyny efo rhyw blondan ʼn ôl yng Nghwm Taf – pob bendith ar honno. Pathetig o’ ni de, yn meddwl ʼsa hynna’n mynd i r’wla. Ond, yng ngeiriau’r tad, mi ddysgis i wers yndo – dw i’m yn licio gingers. A ges i gadarnhad hwylus ʼmod i’n raging queer. Ac os ʼsw ni’n ei weld o eto wel ’sa… “Iw hw! Cariad!” Fuck sakes. “Ia Mami?” “Ni’n gadel nawr – ti’n siwr ti ddim moyn dod mas am wâc?” “Na iawn ’chi, diolch.” “Ow beth os welwn ni un o’r merched pert ne o’r ysgol?” “Cofiwch fi atyn nhw? Dwmbo, ’myn meddwl bo’ ’r’un yn gwbo’ pwy ydw i ʼchi.” “O dere ʼmlan, wnei di joio!” “ʼSa well gen i weld un o’r hogia.” “O fi mor falch bod ʼda ti ffrindie’ bach. Olreit, ni’n mynd.” “Ie, ie. Ta.” Waw. Dwn i ddim pa mor amlwg alla i ʼneud o bellach. Un cam i ffwr’ o fframio llun o David Beckham a g’neud calon fawr o’i gwmpas o. Ond bet sa hi ʼmond yn ca’l rhyw wefr wedyn bo’ fi yn dangos gymaint o frwdfrydedd mewn ffwtbol. Ia, oce, ella bo’ mam yn ychydig o dwpsan. Ond mai’n cymryd math sbeshal o dwp i fagu mab mewn tŷ capel, ei stopio fo rhag dilyn ffasiyna’, cael dim llai na phum tiwtor personol iddo fo, cael pregethwr fel tad iddo fo, ei wahardd o rhag mercheta nes ma’n o leia’ un ar bymtheg, a’i nadu o rhag cael unrhyw fath o gyswllt efo’r byd go iawn... oll iddo fo droi allan mor gam â phiso mochyn. One-way ticket i Hergest ar f’union fysa hi petai Robert yn clwad - ʼfo Beibl ar y pen ôl wrth ddianc dros y stepan drws. Mi a i o’ ʼma ryw ddiwrnod, ar fy liwt fy hun de. Dw i’n gaddo. I fi’n hun, ʼlly. Fy’ raid i mi, bydd, ne’ fydda i ʼdi mynd yn ‘seico’ go iawn. I Lundain ʼfalla. Lot o hogia’ del yn fanno medda’r cylchgrona’ sy’n byw’n gytûn rhwng dau spring distawa’r fatras ’ma. A ʼsa’n ddigon pell na fyddai’n cael fy llusgo i’r sêt fawr bob yn ail dydd Sul i adrodd ryw adnod am bechaduriaid ne’ bysgod a rhyw lol. Pwy a ŵyr be’ wna’ i tan hynny chwaith. Ond mi ʼna i adael. ʼSa’m ama’ hynny. Ryw dd’wrnod, ryw dd’wrnod. |