Sgwrs â'r newyddiadurwr a'r gohebydd Siôn Jenkins
|
Cafodd Siôn ei fagu yn Llandysilio, Sir Benfro. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Brynconin, ac yna yn Ysgol Gyfun Ddwyieithog y Preseli, Crymych, lle cafodd ei ethol yn Brif Fachgen yn ystod ei flwyddyn olaf. Aeth dros Glawdd Offa i fynychu Prifysgol Durham ac astudiodd Ffrangeg ac Eidaleg am bedair blynedd. Roedd y cwrs yn cynnwys blwyddyn dramor, ac yn ystod ei drydedd flwyddyn, bu'n byw ac yn gweithio yn Lyon, Ffrainc, am saith mis, a Milan yn yr Eidal am dri mis. Graddiodd o Brifysgol Durham yn 2015 gyda gradd BA (Hons) 2:1. Ar ôl hynny, symudodd ’nôl i Gymru heb syniad o’r hyn yr oedd am ei wneud fel gyrfa. Yna, ym mis Tachwedd 2015, cafodd gynnig swydd fel newyddiadurwr dan hyfforddiant gydag ITV Cymru Wales yng Nghaerdydd. Ar ôl cyfnod o dri mis yn hyfforddi fel newyddiadurwr, dechreuodd ohebu ar raglen materion cyfoes Hacio ar S4C cyn iddo gael ei benodi’n brif gyflwynydd y rhaglen. Ers hynny, mae wedi bod yn gweithio fel newyddiadurwr a gohebydd rhaglenni newyddion ITV Cymru Wales megis Coast & Countryac yn gyflwynydd rhaglen materion cyfoes ei hun o’r enw Ein Bydsydd newydd gychwyn ei hail gyfres ar S4C.
Beth yw’r elfen orau o dy swydd? Mae sawl elfen wych i fy swydd, ond y ddau beth gorau yw’r cyfle i deithio’r byd a’r cyfle i gwrdd â chymeriadau diddorol. Rwy’ bellach wedi bod yn gweithio fel newyddiadurwr am dair blynedd ac yn yr amser hynny rwy’ wedi teithio dramor sawl gwaith. Yn ystod ffilmio cyfres gyntaf Ein Byd, ar ôl bod i Magaluf yn Sbaen a Pharis yn Ffrainc, hedfanais i Las Vegas gyda Bethan, fy nghynhyrchydd, am 10 diwrnod. Yn sgil y lladdfa yn y ddinas fis Hydref 2017, penderfynom wneud rhaglen ar ddeddfau gwn America. Roedd y pwnc dan sylw yn un hynod drist a difrifol, ond roedd cael treulio cymaint o amser yn y ddinas enwog hon yn brofiad heb ei ail. Fel mae’r dywediad yn ei ddweud, “Work hard, play hard” – er i ni weithio’n galed yn ystod ein hamser yno, cawsom y cyfle i fwynhau Las Vegas a diwylliant unigryw yr Unol Daleithiau. Mae’r un peth yn wir am ein hamser yn Istanbul yn Nhwrci wrth ffilmio ar gyfer ail gyfres Ein Byd. Y pwnc dan sylw y tro hwn oedd syrjeri cosmetig tramor a thriniaeth o’r enw Brazilian butt lift. Mae cael profi cymaint o ddiwylliannau gwahanol yn fraint – rwy’n ddiolchgar iawn ac yn hollol ymwybodol pa mor lwcus ydw i. Pobl sy’n creu straeon. Mae newyddiadurwyr yn delio gyda phobl bob un dydd ac mae hi wir yn fraint cael cwrdd â chymaint o bobl wahanol o bob cwr o’r byd. Mae dysgu am brofiadau pobl yn fy niddori i’n fawr iawn, ac rwy’ wrth fy modd yn dod o hyd i bobl ddiddorol sydd â rhywbeth i’w ddweud. Mae cwrdd â phobl o bwys a phobl enwog yn grêt, ond y bobl gyffredin sydd â straeon arbennig i’w hadrodd sy’n rhoi’r pleser mwyaf i mi. Fel y Cymro yn Las Vegas a’i gasgliad o ddrylliau; y fenyw 55 oed o ardal Castell-nedd sydd wedi bod yn gaeth i gyffuriau ers pan oedd hi’n blentyn; a “Mrs Jones” – yr escort 61 oed oedd yn arfer gweithio fel athrawes cyn troi at weithio yn y diwydiant rhyw. Mae hi wir yn fraint cael canfod a chwrdd â chymaint o bobl ddiddorol a’u helpu i adrodd eu straeon. Rhaid dweud, gan fy mod i’n gweithio’n bennaf yn y Gymraeg, mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o’r bobl rwy’n cyfweld â nhw siarad Cymraeg. Mae hyn yn gallu bod yn rhwystr, ond mae’n fy synnu i gymaint o siaradwyr Cymraeg sydd wedi’u plannu o gwmpas y byd – ry’n ni ym mhobman! Sut brofiad oedd cyflwyno’r rhaglen arloesol Ein Byd ar S4C? Mae cyflwyno Ein Bydyn freuddwyd o swydd – rwy’ wir yn teimlo mor lwcus i gael y cyfle i weithio ar raglen fywiog, ffres, ifanc ei naws, sydd â hunaniaeth sicr. Fel wyneb y rhaglen, mae’n rhaid i mi atgoffa fy hun o bryd i’w gilydd pa mor wallgo o lwcus ydw i! Rwy’n teimlo rhyw fath o berchnogaeth drosti ac yn ei thrin hi fel fy mhlentyn – rwy’n teimlo’n hynod falch o’i gweld yn llwyddo, yn gwneud mor dda, ac yn ennyn ymateb, ac rwy’ am iddi barhau i dyfu ac esblygu wrth i amser fynd heibio. Rydyn ni wedi ceisio gwneud rhywbeth gwahanol gydag Ein Byd ac mae dylanwad rhaglenni newyddiadurwyr megis Louis Theroux a Stacey Dooley yn gryf arni. Mae’r hyn rwy’n ceisio’i gwneud ar y rhaglen yn fwy na chyflwyno “traddodiadol”. Mae ’na grefft i gael pobl i siarad yn onest ar gamera. Mae gan bob newyddiadurwr ei ffordd ei hun o’i wneud (does dim ffordd “gywir”), ond dyna yw’r her. Mae’n anodd weithiau cael pobl i agor lan gan eu bod, yn amlach na pheidio, yn sôn am bethau personol a phreifat; ond dwy’ ddim yn trin cyfweliadau fel sgyrsiau difrifol, ond yn hytrach, fel sgyrsiau anffurfiol, naturiol, lle rwy’n gadael i fy chwilfrydedd gymryd drosodd. Dyna sy’n arwain at gyfweliadau cryf – pan mae’r person sy’n cael ei gyfweld yn teimlo’n hollol gartrefol ac yn anghofio am bresenoldeb y camera. Yn ogystal â’r cyfle i gwrdd ag amryw o bobl wahanol, mae pethau fel ymchwiliadau cudd yn gyffrous dros ben. Yn ystod cyfres gyntaf Ein Byd, cynhalion ni ymchwiliad i mewn i ffenomenon newydd o’r enw Sex for Rent, lle’r oedd landlordiaid yn cynnig ffafrau rhywiol am le i fyw yng Nghaerdydd. Roedd yr ymchwiliad yn cynnwys yr hyn ry’n ni eu galw’n doorsteps, sef y foment rwy’n dod wyneb yn wyneb â’r person ry’n ni wedi bod yn ffilmio’n gudd ac yn taflu cwestiynau atynt wrth iddynt geisio ffoi (hynny sy’n digwydd bob tro bron). Dywedwn i mai doorstep yw’r peth mwyaf cyffrous all newyddiadurwr ei wneud. Mae yna beryg o hyd y bydd pethau’n mynd yn draed moch, ond mae’n gyfle euraidd, ac er mor ddifrifol yw’r sefyllfa, yn gyfle i gael ychydig bach o sbort drwy ddatgelu ymddygiad anghyfreithlon. Wedi i’r ymchwiliad hwn gael ei ddarlledu, cawsom dipyn o sylw, gyda sianeli teledu o’r Almaen, Rwsia, a Tsieina, hyd yn oed, yn darlledu ein darganfyddiadau! Roedd hynny yn brofiad hollol swreal. A oes unrhyw eiriau o gyngor gennyt i ni’r Cymry ifanc brwdfrydig? Beth bynnag wnewch chi yn eich bywyd, peidiwch byth ag anghofio’ch gwreiddiau a’r rheiny sydd wedi’ch helpu chi ar hyd y daith. Ac un peth arall fydden i’n ei ddweud yw peidiwch â phoeni’n ormodol am yr hyn mae pobl eraill yn meddwl ohonoch chi a pheidiwch ag ofni bod yn wahanol neu fynd yn groes i’r graen. Os ca’i fod ychydig yn uchel-ael ac yn pretentious fan hyn, rwy’ newydd orffen darllen cyfrol hollol wych Lleucu Roberts Jwg ar Seld. Yn y stori ‘Yr Eliffant yn y Siambr’, mae’n dweud, ‘Rhyfedd sut mae’n well gan bobl fod yn ddim byd yn lle bod yn rhywbeth. Tanlinellais i’r frawddeg honno, achos mae hi mor wir. Mae’n gas gen i weld pobl ifanc yn cydymffurfio drwy’r amser â’r hyn sy’n “normal” neu’n “boblogaidd”. Mae unigoliaeth a bod yn driw i’ch hun a’ch credoau yn beth da. Mae’r hyn mae cymdeithas yn ei alw’n normalrwydd yn boring. Ceisiwch fod yn rhywbeth yn lle’n ddim byd. Fel dywedodd Gore Vidal, yr awdur o America – ‘Style is knowing who you are, what you want to say, and not giving a damn.’ Dweud da. |