Ffiniau
|
Bws beunyddiol, di-nod,
a’i gynnwys eiddgar, brwd yn barod i brofi mwy. Cyffur dysg sy’n denu, a hithau’n awchu am wybod, am ddeall, am wthio’i ffiniau. Brwdfrydedd tawel ydyw; ond mae min malais ar y daith a bygythiad yn dawch dinistriol. Sgrech bwled yn gosb am ryddid barn, am herio’r drefn; am wthio eu ffiniau. Difa gobaith, a diffodd golau. Y cyffro fu’n ei cherdded, yn cyniwair ynddi, yn pylu, am ennyd. Yng ngwead ei bod, mae grym geiriau yn graig, yn ymffurfio yn obaith byw. A ninnau, a’n diogi dyddiol, yn cwyno a llusgo traed o un arholiad i’r llall; heb ddeall gwerth y gair na grym gwybodaeth. |