'The Power' gan Naomi Alderman: cyfieithiad
|
Cyflwynwyd y gwaith y mae’r darn hwn yn rhan ohono yn brosiect ar gyfer MA Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol gan Awen Llŷr Evans.
Cyfieithiad yw hwn o ddechrau nofel 'The Power' gan Naomi Alderman, nofel lwyddiannus a gyhoeddwyd yn 2016 ac a enillodd wobr Women’s Booker Prize. Nofel yn 'genre' y ffuglen wyddonol yw 'The Power' sy’n ein tywys ni ledled y byd, i Brydain, America, Nigeria, Saudi Arabia a Moldova, ar drywydd helyntion y prif gymeriadau. Apêl y nofel hon yw bod iddi gysyniad gwahanol a newydd hynod ddiddorol sy’n mynd â’r stori ar drywydd gwahanol i ddisgwyliadau’r darllenydd. Mae’n edrych ar y byd fel petai gan fenywod oruchafiaeth a rheolaeth yn hytrach na dynion ar ôl iddynt ganfod y pŵer i gynhyrchu trydan yn eu cyrff, a’r gallu i anafu â blaenau eu bysedd, boed hynny’n ddifrifol neu beidio. Roxy Mae’r dynion yn cloi Roxy yn y cwpwrdd tra'u bod nhw yno. Dydyn nhw ddim yn gwybod ei bod hi wedi cael ei chloi yn y cwpwrdd hwn o’r blaen. Dyma ble bydd ei mam yn ei rhoi pan fydd Roxy’n camymddwyn. Dim ond am ychydig funudau. Nes iddi gallio. Yn araf deg yn ystod yr oriau a dreuliodd yn y cwpwrdd, rhyddhaodd y clo trwy roi ewin neu glip papur yn y sgriws. Gallai fod wedi tynnu’r clo i ffwrdd unrhyw bryd. Ond wnaeth hi ddim oherwydd byddai ei mam wedi rhoi bollt ar y tu allan. Roedd hi’n ddigon hapus ei byd yn gwybod, wrth eistedd yn y tywyllwch, y gallai ddianc petai hi wir eisiau. Mae’r wybodaeth honno lawn cystal â rhyddid. Felly, dyna pham mae’r dynion yn meddwl eu bod nhw wedi ei chloi yn ddiogel yn y cwpwrdd. Ond bydd hi’n dianc. Dyna sut mae hi’n gweld pethau. Cyrhaedda’r dynion am hanner awr wedi naw yr hwyr. Roedd Roxy i fod wedi mynd at ei chefndryd y noson honno. Cafodd ei drefnu ers wythnosau ond roedd wedi ffraeo â’i mam am beidio â phrynu’r teits iawn o Primark, felly dywedodd ei mam, ‘Ti ddim yn mynd, ti’n aros gartre.’ Fel petai Roxy eisiau mynd at ei chefndryd ta beth. Pan yw’r dynion yn cicio’r drws i lawr ac yn ei gweld hi yno’n pwdu ar y soffa wrth ochr ei mam, dywed un ohonynt, ‘Ffyc, mae’r ferch ’ma.’ Dau ddyn sydd yno, un yn dalach ag wyneb fel llygoden ffyrnig, a’r llall yn fyrrach â gên sgwâr. Dyw hi ddim yn eu hadnabod nhw. Cydia’r un byr yn ei mam wrth ei gwddf; mae’r un tal yn rhedeg ar ôl Roxy i’r gegin. Mae hi bron â chyrraedd y drws cefn pan gydia’r dyn yn ei chlun; mae hi’n cwympo ymlaen ac yntau’n cydio am ei chanol. Mae hi’n cicio ac yn gweiddi ‘Ffyc off, gad fi fynd!’ a phan yw’n rhoi ei law dros ei cheg, mae hi’n ei gnoi mor galed nes iddi flasu gwaed yn ei cheg. Rhega, ond nid yw’n gollwng ei afael. Mae’n ei chario drwodd i’r ystafell fyw. Erbyn hyn, mae’r un byr wedi gwthio ei mam yn erbyn y lle tân. Teimla Roxy’r peth yn cyniwair y tu mewn iddi'r adeg honno, er nad yw’n siŵr beth yw’r peth hwnnw. Dim ond teimlad ar flaenau ei bysedd, pigau yn ei bodiau. Mae’n dechrau sgrechain. Mae ei mam yn dweud, ‘Paid ti neud dolur i Roxy, paid ti ffycin neud dolur iddi. Does gyda chi ddim syniad beth chi wedi dechrau. Bydd hyn yn dod lawr mor drwm arnoch chi nes byddwch chi’n difaru’r diwrnod cawsoch chi’ch geni. Bernie Monke yw ei thad hi, er mwyn Duw.’ Chwardda’r un byr. ‘Fel mae’n digwydd, ’dyn ni ’ma â neges i’w thad.’ Mae’r un tal yn taflu Roxy i’r cwtsh dan stâr mor gyflym fel nad yw hi’n gwybod beth sy’n digwydd nes i’r tywyllwch gau amdani, ac arogl llychlyd-felys yr hwfyr. Dechreua ei mam sgrechain. Mae Roxy’n anadlu’n gyflym. Mae arni ofn, ond mae’n rhaid iddi gyrraedd ei mam. Mae’n troi un o’r sgriwiau yn y clo â’i hewin. Un, dau, tri thro, ac allan â hi. Neidia gwreichionen rhwng y sgriw metel a’i llaw. Trydan statig. Teimla’n rhyfedd. Mae ei ffocws hi’n glir, fel petai’n gallu gweld â’i llygaid ynghau. Y sgriw gwaelod, un, dau, tri thro. Mae ei mam yn dweud, ‘Plîs, plîs paid. Plîs. Beth yw hyn? Dim ond plentyn yw hi. Dim ond plentyn yw hi, er mwyn Duw.’ Chwardda un o’r dynion yn isel. ‘Doedd hi ddim yn edrych fel plentyn i fi.’ A sgrechiodd ei mam â sŵn fel metel mewn injan wael. Ceisia Roxy weithio allan ble yn union yn yr ystafell mae’r dynion. Mae un gyda’i mam. A’r llall … mae’n clywed sŵn ar ei hochr chwith. Ei chynllun yw dod allan yn isel, taro’r un tal tu ôl i’w bengliniau, cicio ei ben, yna bydd dwy ohonynt yn erbyn un. Os oes ganddyn nhw ynnau, ’dyn nhw ddim wedi eu dangos. Mae Roxy wedi bod mewn codwm o’r blaen. Mae pobl yn siarad amdani. Ac am ei mam. Ac am ei thad. Un. Dau. Tri. Sgrechia ei mam eto, ac mae Roxy yn tynnu’r clo oddi ar y drws a’i hyrddio ar agor cyn galeted ac y gallai. Mae hi’n lwcus. Trawodd y dyn tal o’r tu ôl gyda’r drws. Mae e’n baglu, syrthio, a chydia hithau yn ei droed dde wrth i’r droed godi, a chwympo’n galed ar y carped. Daw clec, ac mae e’n gwaedu o’i drwyn. Mae’r dyn byr yn gwasgu cyllell yn erbyn gwddf ei mam. Wincia’r llafn arian a gwenu arni. Lleda llygaid ei mam. ‘Rhed, Roxy,’ mae’n dweud braidd yn uwch na sibrydiad, ond mae Roxy’n ei glywed fel petai’n ei glywed yn ei phen: ‘Rhed. Rhed.’ Dyw Roxy byth yn rhedeg rhag ffrae yn yr ysgol. Os wyt ti’n gwneud hynny, bydd dim stop ar y bobl yn canu, ‘Mae dy dad di’n grwc, dy fam di’n hwren. Watsha dy hunan, wrth Roxy gei di glipen’. Mae’n rhaid eu sathru nes eu bod nhw’n erfyn arnat ti. Paid â rhedeg. Mae rhywbeth yn digwydd. Gall glywed y gwaed yn pwmpio yn ei chlustiau. Mae teimlad fel pinnau bach yn lledu ar hyd ei chefn, dros ei hysgwyddau, ac ar hyd pont ei hysgwydd. Mae’n dweud wrthi: rwyt ti’n gallu gwneud hyn. Mae’n dweud wrthi: rwyt ti’n gryf. Neidia dros y dyn sydd ar y llawr, yn griddfan ac yn cyffwrdd â’i wyneb. Mae hi’n mynd i gydio yn llaw ei mam a dianc. Dim ond cyrraedd y stryd sydd ei angen. Gall hyn ddim digwydd y tu allan yng ngolau dydd. Ân nhw i chwilio am ei thad; wneith e ddelio â hyn. Dim ond ychydig o gamau. Mae’n bosibl. Cicia’r dyn byr ei mam yn galed yn ei stumog. Mae hi’n ei dyblau mewn poen, a syrthia i’w phengliniau. Chwifia’r gyllell at Roxy. Griddfana’r dyn tal. ‘Tony. Cofia. Dim y ferch.’ Cicia’r dyn byr y llall yn ei wyneb. Unwaith. Dwywaith. Tair gwaith. ‘Paid. A ffycin. Gweud. ’Yn enw i.’ Tawela’r dyn tal. Daw swigod o waed o’i wyneb. Mae Roxy’n gwybod ei bod hi mewn trafferth nawr. Gwaedda ei mam, ‘Rhed! Rhed!’. Teimla Roxy’r peth fel pinnau bach ar hyd ei braich. Fel pigiadau bychan o oleuni o’i hasgwrn cefn i bont ei hysgwydd, o’i gwddf i’w phenelinoedd, ei harddyrnau a blaenau ei bysedd. Mae’n disgleirio ar y tu mewn. Mae’r dyn yn estyn amdani ag un llaw, a'r gyllell yn y llaw arall. Mae hithau’n paratoi i’w gicio neu ei fwrw, ond mae rhyw reddf yn dweud rhywbeth newydd wrthi. Mae’n cydio yn ei arddwrn. Mae’n troi rhywbeth yn ddwfn yn ei brest, fel petai hi wastad wedi gwybod sut oedd gwneud. Ceisia’r dyn wingo o’i gafael ond mae’n rhy hwyr. Hyhi a gwpana’r fellten yn ei llaw. Hyhi a’i gorchmynna i daro. Fflach a chlec. Sŵn fel chwip. Gall Roxy arogli rhywbeth yn debyg i storm o law ac ychydig fel gwallt yn llosgi. Mae blas orennau chwerw yn cronni o dan ei thafod. Mae’r dyn byr ar y llawr nawr. Mae’n grwnan rhyw gri di-eiriau. Ei ddwrn yn agor a chau. Mae yna graith hir goch yn rhedeg o’i arddwrn ar hyd ei fraich. Gall ei weld hyd yn oed o dan y blew golau ar ei fraich: patrwm ysgarlad, fel rhedyn, dail a thendril, a blagur a changhennau. Mae ceg ei yn agored, mae hi’n rhythu a’i dagrau’n dal i syrthio. Tynna Roxy ar fraich ei mam ond mae hi’n araf ac mewn sioc, amae ei cheg yn dal i ddweud, ‘Rhed! Rhed!’. Dyw Roxy ddim yn gwybod beth mae hi newydd ei wneud, ond mae hi yn gwybod y dylet ti ddianc os wyt ti’n ymladd yn erbyn rhywun cryfach na ti ond maen nhw ar y llawr. Ond dyw ei mam ddim yn symud yn ddigon cyflym. Cyn i Roxy ei helpu ar ei thraed, mae’r dyn yn dweud, ‘O nag wyt, ddim.’ Mae e’n codi ar ei draed yn bwyllog, yn hercian rhyngddynt a’r drws. Mae un fraich yn gorwedd yn llipa wrth ei ochr, ond mae’r llaw arall yn cydio yn y gyllell. Mae Roxy’n cofio sut deimlad oedd gwneud beth wnaeth hi, beth bynnag oedd hwnnw. Tynna ei mam y tu ôl iddi. ‘Beth sydd gyda ti fan ’na, ‘merch i?’ gofynna’r dyn. Tony. Byddai hi’n cofio’r enw er mwyn dweud wrth ei thad. ‘Batri?’ ‘Cer mas o’r ffordd,’ dyweda Roxy. ‘Ti'n dod nôl am ragor wyt ti?’ Cymer Tony gam neu ddau yn ôl gan lygadu ei breichiau. Ceisia edrych i weld os oes ganddi rywbeth y tu ôl i’w chefn. ‘Ti wedi ’i ollwng e, nagwyt ti, bach?’ Cofia sut deimlad oedd e. Y tro, y ffrwydrad yn ymwthio am allan. Mae’n camu tuag at Tony. Yntau’n sefyll yn ei unfan. Cymer gam arall tuag ato. Tafla Tony gipolwg ar ei law lipa. Mae’r bysedd yn dal i blycio. Mae'n ysgwyd ei ben. ‘Does dim byd gyda ti.’ Amneidia tuag ati gyda’r gyllell. Mae hithau’n estyn ac yn cyffwrdd â chefn ei law dda. Mae hi’n gwneud yr un tro. Does dim byd yn digwydd. Chwardda Tony. Mae’n dal y gyllell yn ei ddannedd. Cydia yn ei harddyrnau ag un llaw. Mae hi’n gwneud un ymdrech arall. Dim. Mae e’n ei gorfodi i’w phengliniau. ‘Plis.’ Dywed ei mam yn ysgafn. ‘Plis. Plis paid.’ Ac yna, mae rhywbeth yn ei tharo ar gefn ei phen. Tywyllwch. Mae’r byd ar ei ochr pan yw hi’n deffro. Dyna’r lle tân, fel arfer. Y ffrâm bren o’i amgylch. Mae’n gwasgu i mewn i’w llygad, ac mae ganddi gur pen ac mae ei cheg wedi ei wasgu i mewn i’r carped. Gall flasu gwaed ar ei dannedd. Mae rhywbeth yn dripian. Mae hi’n cau ei llygaid. Wrth agor ei llygaid unwaith eto mae’n gwybod bod mwy nag ychydig funudau wedi pasio. Mae’r stryd tu allan yn dawel. Y tŷ yn oer, ac ar ei ochr. Archwilia’i chorff. Mae ei choesau i fyny ar gadair. Ei hwyneb yn hongian i lawr, wedi ei wasgu i mewn i’r carped a’r lle tân. Ceisia godi, ond mae’n ormod o ymdrech felly mae’n gwingo gan adael i’w choesau gwympo i’r llawr. Mae’n gwneud dolur, ond o leiaf mae ei chorff i gyda ar yr un lefel. Cofia bopeth mewn fflachiadau cyflym. Y boen, yna achos y boen, wedyn y peth a wnaeth hi. Yna ei mam. Mae’n gwthio’i hun ar ei heistedd yn araf, a sylwa wrth wneud bod ei dwylo’n ludiog. Ac mae rhywbeth yn dripian. Mae’r carped yn sopen ac yn drwch â’r staen coch sy’n gylch mawr o amgylch y lle tân. Dyna’i mam, ei phen yn llipa dros fraich y soffa. Ac mae yna ddarn papur yn gorwedd ar ei brest gyda llun briallu wedi ei dynnu gyda beiro. Mae Roxy yn bedair ar ddeg. Hi yw un o’r ieuengaf, ac un o’r cyntaf. |