Dechre'r Diwedd
|
Sioc i’r system
ar fore Llun, iasol yw’r bore wrth gychwyn i’r gweithle i sdiwtant mor flinedig â thi. Awel gyfarwydd gysurus yn dy oeri fyny Penglais, yn gwrando ar gerddoriaeth hyll a hardd, yn fud i’r byd o’th amgylch. Dechre’r diwedd, diwedd y cyfnod o fyw yn yr hendref hon, y nostaglia melys yn dy gyffwrdd; ti’n barod yn galaru y gallu i arafu. Ti’n rhy gyfforddus yn dy gyfanrwydd ar fore dechre’r diwedd, yr un hen rwtîn yn yr hen orllewin mi fyddi cyn hir yn hasbin. |