Sgwrs ag Angharad Alter, un o siaradwyr newydd y Gymraeg
|
Magwyd Angharad Alter yn Swydd Efrog, cyn i’w theulu symud i Reading i fyw. Wedi iddi fynd i’r Brifysgol yng Nghaerdydd, fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg. Mae hi bellach yn rhugl, ac yn byw bron yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg gyda’i gŵr, Dewi.
Pam y dewisoch ddod i Gymru yn y lle cyntaf? Des i Gymru i astudio yn y Brifysgol yng Nghaerdydd. Ymwelais â’r Brifysgol a’r ddinas ar ddiwedd fy mlwyddyn gyntaf yn y chweched, ar ddiwrnod braf a heulog. Gwnaeth y tywydd ddylanwadu arnaf ac roedd Caerdydd yn edrych mor bert! Ar ôl derbyn cynnig i astudio Hanes a Ffrangeg, gwnes i roi Caerdydd fel fy newis cyntaf. Hefyd, astudiodd dwy o fy nghyfnitherod yng Nghaerdydd a gwnaethon nhw ei argymell imi. Beth wnaeth eich ysgogi i ddechrau dysgu Cymraeg? Roedd rhaid imi ddewis pwnc ychwanegol i astudio yn fy mlwyddyn gyntaf yn y Brifysgol. Roedd gen i ddiddordeb yn y Gymraeg oherwydd cysylltiadau teuluol (cafodd fy mam-gu ei magu yn siarad Cymraeg), ac felly dewisais i wneud y cwrs Cymraeg i Ddechreuwyr. Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, gwnes i gwrdd â Dewi, sydd bellach yn ŵr imi, ac sy’n Gymro Cymraeg. Parhau wnes i astudio’r Gymraeg o’i herwydd e. Sut aethoch chi ati i ddysgu Cymraeg? Dilynais gyrsiau Cymraeg yn y Brifysgol a thrwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Ond, y pethau oedd wedi gwneud gwahaniaeth mawr oedd ffeindio cymuned Gymraeg mewn capel Cymraeg, a threulio amser gyda Dewi a’i deulu, a ffrindiau sydd yn siarad Cymraeg. Beth oedd y rhwystrau mwyaf a wyneboch wrth ddysgu Cymraeg? Diffyg hyder ynof fi fy hunan! Roeddwn i yn swil iawn wrth siarad Cymraeg i ddechrau. Dw i’n ffodus oherwydd fy mod i wedi cael llwythi o gyfleoedd i siarad a meithrin perthnasau gyda Chymry Cymraeg; ond i ddechrau, doeddwn i ddim eisiau swnio’n dwp neu wneud camgymeriadau. Pryd wnaethoch chi sylweddoli eich bod yn rhugl yn y Gymraeg a sut newidiodd hyn eich meddylfryd wrth siarad Cymraeg? Dim ond yn ddiweddar iawn rydw i wedi meddwl fy mod i efallai yn rhugl yn y Gymraeg. Dw i’n gwybod dyw fy Nghymraeg ddim yn berffaith ond mae gen i’r hyder i gyfathrebu. Dw i’n defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith ac wedi gwneud sawl cyflwyniad am fy ngwaith yn y Gymraeg. Nawr fy mod i’n defnyddio’r Gymraeg ym mhob elfen o fy mywyd, dw i’n meddwl fy mod i’n weddol rugl. Mae gen i lawer mwy o hyder i siarad a dydw i ddim yn cyflwyno fy hunan fel dysgwr neu yn dweud fy mod i wedi dysgu’r iaith fel oedolyn wrth gwrdd â rhywun am y tro cyntaf. Dw i’n gwybod fy mod i’n gallu cyfathrebu a mynegi fy hunan yn y Gymraeg, ac felly er fy mod i’n gwneud camgymeriadau o hyd, dydw i ddim yn meindio cymaint! Beth ydych chi’n credu y gall Cymry Cymraeg ei wneud i annog a chefnogi dysgwyr Cymraeg? Yn syml, gallent siarad Cymraeg â dysgwyr er mwyn rhoi’r cyfle iddyn nhw ymarfer. Mae’n hawdd troi i’r Saesneg a’u cefnogi nhw yn y Saesneg ond y peth gorau yw gwneud yr ymdrech i’w cefnogi nhw yn y Gymraeg. Mae’n rhoi hyder i’r dysgwyr i ddechrau sgyrsiau yn y Gymraeg. Sut mae siarad Cymraeg yn dylanwadu nawr ar eich bywyd o ddydd i ddydd? Dw i’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd nawr a dw i’n disgrifio fy hunan fel Cymraes erbyn hyn. Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rai sydd yn bwriadu dechrau dysgu Cymraeg? Ewch amdani! Ffeindiwch bobl o’ch cwmpas chi mewn cymuned leol, cymuned ar-lein ac ati i siarad Cymraeg gyda nhw |