Gymerwch chi Sigarét?
|
Ydi cerddi fel sigaréts?
Rhai’n felys-fwyn o fwg y rollies, Rhai’n freuddwydiol oFalboros? Yn awdlau mawrion y Classic Cigars, Neu rai yn nosbarth cynta’ Y Steddfod –Silk Cut? Mae’n leitar rhad i danio eiliad o ddiddordeb, A’i adael i fudlosgi Yna ei fodio rhwng bys a bawd Ein dychymyg. Anadlu cystrawennau ei fwg melys Neu dagu ar gynghanedd ddyrys A chwythu teimladau llwyd O grombil yr ysgyfaint Cyn ei ddarfod. Yna, gwasgu’r llwch A gadael dim ond stwmp. |