Rhoi
|
Mae llu o resymau dros beidio â rhoi.
Mi rois i o’r blaen. Mae’r we’n ara’ deg. On’d yden ni i gyd yn ymladd â’r cloi? Mae digon yma’n byw o’r llaw i’r geg. A Duw a ŵyr, does ganddyn nhw ddim hawl Ar lywodraethau ffiaidd sy’n gadael I’w pobl fregusaf oll fynd i’r diawl. Roedd sôn yma am dyrru cyrff yn uchel. I’r un man y down. Mae’r hen fyd yn fwy O bentref nag erioed, a gwerth y bunt Eleni’r un – a’r blaned ar y plwy’ – Ag oedd yn nyddiau’r Ficer Prichard gynt: Rho’r hyn a fedri, lawer neu ronyn, A’i roi yn llawen, heb ddim gwarafun. |