Prexit
|
Yma erioed yn fy mro – ni welais
Drigolion yn syrthio, Tref hen glên heb ddrws ar glo, A’r rheswm? Pawb a’i groeso. Trysor oedd drysau agored – heb os, Pawb yn byw’n ddiniwed  gras, bythol barch at gred, Annwyl oedd ein cymuned. Nawr daeth oes ddudew a newid – distaw, Didostur, diofid, A hunanol gynhenid Yw’n hil, yn werin ddi-hid. Am Ewrop bu’r camarwain – a mudo Fel Madog ar adain  braw, yn dianc fel brain, Ac wele – nefoedd celain. Pobl hiliol a’u waliau – yn ofer Fe dyfwn ein muriau, I estron codwn rwystrau, I’r rhain yn awr mae sarhau. Dinas wag heb ddrws ar agor – a’i llef Yn llafar, pob brodor Yn chwerw fel carcharor Mewn cell ymhell dros y môr. Yn welw, llwydliwiau welaf – hen dref Yn drist, a meddyliaf Bod gwayw bywyd gaeaf Yn hir, ond gwn y daw haf. |
Llongyfarchiadau mawr i Heledd am ennill â'r gerdd hon gystadleuaeth y Gadair yn yr Eisteddfod Ryng-golegol 2020, a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth. Clicia fan hyn i ddarllen darn rhyddiaith buddugol y Goron gan Twm Ebbsworth.
|