Sgwrs â'r ffarmwr-ymgyrchydd Gareth Wyn Jones
|
Ffarmwr, dylanwadwr ac ymgyrchydd dros amaeth yw Gareth Wyn Jones o Lanfairfechan. Mae nifer fawr yn ei adnabod fel wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau cymdeithasol wrth iddo ffilmio clipiau fideo yn ymateb i bobl yn ei herio. Mae hefyd yn gwneud cryn dipyn o waith teledu, megis ei ymddangosiad ar 'Good Morning Britain' ar 13 Mai 2021. Yn y cyfweliad hwn, fe ddown i adnabod y dyn ei hun, sydd bellach yn wyneb cyfarwydd ar draws y byd oherwydd ei farn gadarn.
Ble cawsoch eich geni a'ch magu, a pham y penderfynoch fynd i mewn i'r byd amaeth? Cefais fy magu yma yn Nhyn Llwyfan. Mae'r teulu wedi bod ar y fferm am 370 o flynyddoedd. ’Dwi wrth fy modd yn dilyn ôl troed fy nhad, a doeddwn i ddim eisiau gwneud dim byd arall ers pan oeddwn i'n hogyn bach. Mae o'n ffordd o fyw bendigedig. Rwyt ti'n cael bod allan yn yr awyr iach, gweld y tymhorau ... am ffordd braf o fyw. Pwy wnaeth ddylanwadu arnoch pan oeddech yn ifanc? Mae yna lawer iawn o bobl yn y plwyf a dweud y gwir. Roeddwn yn edrych i fyny at fy hen ewythrod, Yncl Wili, Yncl Lloyd ... Roedd gen i frodyr fy nhad, ac yn ffodus iawn i fod mewn partneriaeth gyda nhw. Roedd gan bob un ohonynt sgiliau gwahanol. Roeddwn yn magu hyder, dysgu sut i siarad ac ymdopi hefo pobl. Dim un tad oedd gen i, ond pedwar ohonynt mewn ffordd. Mae o'n rhoi rhyw orwelion gwahanol iti o fywyd, dy fod ti'n gallu dysgu cymaint mewn ychydig iawn o amser. Pam eich bod mor hoff o Ferlod y Carneddau? Fel ’dwi'n mynd yn hŷn, mae gen i fwy o barch atyn nhw. Maen nhw wedi bod yma ers adeg y Celtiaid, yn cael dim dwysfwyd ac yn byw yn eu ffordd eu hunain, ac fel rhywun sydd ar y mynyddoedd bob dydd, rwyt ti'n gweld nhw yn eu teuluoedd ac yn addasu i'w cynefin. Mae o'n fywyd caled iddyn nhw. ’Dan ni wedi bod yn ffilmio nhw'n ddiweddar yn yr eira, ac rwyt ti'n gwylio'r ferlen yn crafu er mwyn cael at y borfa, yna'r cyw yn ei gwylio ac yna'n gwneud yr un peth. Rwyt ti'n dysgu rhywbeth bob dydd gan y merlod ac maen nhw'n rhan annatod o hanes Cymru, felly mae'n bwysig inni edrych ar eu holau. Dim ond 220 sydd ar ôl yn eu cartra gwyllt ar y mynyddoedd. Dydy o ddim llawer. Pam cychwyn cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol megis Gweplyfr a Thrydar? Mae o'n ffordd dda inni fel diwydiant ddangos be ’dan ni'n ei gynhyrchu ac ailgysylltu gyda phobl sydd efallai wedi colli cysylltiad hefo sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a sut mae amaeth yn gweithio. Mae angen pontio a dod â phobl yn ôl. Mae yna ormod o wahaniaeth rhwng pobl yn y dref a phobl yng nghefn gwlad, felly mae angen dod â nhw at ei gilydd. Dydy'r Llywodraethau a'r archfarchnadoedd ddim wedi helpu'r sefyllfa, ac mi ydw i'n teimlo bod y cyfryngau cymdeithasol yn agor drysau. Mae gen ti gyfle i wneud beth wyt ti eisiau ei wneud a dangos i bobl beth sydd gen ti. ’Dwi wedi bod yn ffodus iawn. ’Dwi'n gweithio i amryw o gwmnïau rŵan, Oil for Wales, Honda, cwmnïau dillad. Maen nhw'n gyrru pethau fel dillad a wellingtons er mwyn cael eu hysbysebu gen i. Mae gen i dros 50 mil o ddilynwyr ar fy nhudalen busnes Gweplyfr, pum mil ar fy nghyfri personol, 36 mil o bobl ar Trydar, 11 mil ar Instagram a chwe mil ar TikTok. Rwyt ti'n sôn am dros 100 mil o bobl yn braf, ac mae o'n dangos bod yna dipyn o bŵer y tu ôl i’r cyfryngau cymdeithasol. Sut ydych chi mor llwyddiannus ac adnabyddus ar y cyfryngau cymdeithasol? ’Dwi'n onest ac felly dydy pawb ddim yn fy hoffi i, ond mae'n rhaid i ti fod yn ti dy hun. Does yna ddim byd dwi wedi'i ddweud ar y cyfryngau cymdeithasol na fyswn i'n dweud i wyneb rhywun. Dydw i ddim eisiau eistedd ar y ffens. Ond, am fy mod i pwy ydw i, dim ond rhai pobl sydd eisiau gweithio gyda mi. ’Dwi'n lwcus iawn, am nad ydw i'n ddibynnol ar y swydd yn y cyfryngau, ac fel rhywun sy'n ei ystyried ei hun yn ffarmwr yn gyntaf ac yn gwneud ychydig o waith teledu, os ydw i eisiau dweud rhywbeth, ’dwi'n ei ddweud o. Roedd Nain yn dweud bod neb yn hoffi'r gwir, ac mae yna wir mewn hynny, ond weithiau mae'n rhaid i ti fod yn gwbl onest. Yn sgil fideo a gafodd ei gwylio gan dros filiwn o bobl, rydych nawr yn cydweithio gyda chynllunydd dillad o Ynys Môn. Oes modd i chi ymhelaethu ymhellach ar eich bwriad a'r neges sydd tu ôl i'r cynnyrch hwn? Fe wnaeth Sarah, Rabbit Shed gysylltu a dweud ei bod hi'n awyddus i wneud rhywfaint o waith ar y cyd. Felly fe ddaethon nhw fyny gydag ystod o gynnyrch yn dilyn y thema, 'Gareth's Countryside Code'. Mae pobl yn cael hwyl hefo fo, ac mae neges y tu ôl i beth sydd yn cael ei greu. ’Dan ni'n trio ffynnu a lledaenu'r neges o bwysigrwydd cau giatiau, mynd â sbwriel adref a chadw cŵn ar dennyn yng nghefn gwlad. Beth yw eich gobeithion yn y dyfodol, nid yn unig ar gyfer y byd amaeth, ond hefyd gyda'ch gyrfa? ’Dwi wedi cael gyrfa wych, a does yna ddim llawer o neb wedi gwneud be’ ’dwi wedi'i wneud. Ysgrifennu llyfr, bod yn faer yn Llanfairfechan, teithio i Seland Newydd i wneud rhaglen. ’Dwi'n ddigon hapus a dweud y gwir, ac ar ganol gwneud gwaith i 'Countryfile' rŵan. Efallai mwynhau ychydig yn fwy ar fywyd? ’Dwi wedi mwynhau'r flwyddyn ddiwethaf, a nes i ddim sylweddoli faint o waith roeddwn i'n wneud hyd nes y cyfnod clo. ’Dwi'n mwynhau ffarmio ac wrth fy modd yn cael bod gartref ar y Carneddau. Mae o'n lle bendigedig. Felly, yn gryno, dewis be’ ’dwi eisiau gwneud a mwynhau nhw yw'r ateb i dy gwestiwn. O ran amaeth, fel diwydiant ’dan ni wedi bod yn ddistaw gan roi ein pen yn ein plu, oherwydd mae yna ddigon o waith papur sydd angen cael ei wneud, digon o waith edrych ar ôl anifeiliaid, tyfu cnydau a ’dan ni ddim eisiau ychwanegu i'r llwyth. Ond i mi, mae angen inni wneud. Mae'n rhaid inni ddangos be ’dan ni'n wneud. Rhaid defnyddio be sydd ar gael yma i dyfu bwyd o'r safon gorau a'i werthu. Yna, bod y budd yn dod yn ôl i'r gymuned ac i'r bobl sydd yn y pridd yn tyfu llysiau, ac yn cynhyrchu bwyd ar y fferm. |