Llên meicro
|
Dod i Drefen
Roedd bwcio ‘stafell grand mewn gwesty’n syniad da ar y pryd. Disgwylia Brenda ddod o hyd i’r achubiaeth gyfriniol rhwng egyptian cotton y cynfasau. Gobeithiai y byddent hwy ill dau yn cofio’r wefr o fod yn gariadon ifanc eto a mynd ati i lapio’u coesau am gyrff ei gilydd a chusanu’n frwd. Ond yno, £85 yn dlotach, y gwir amdani oedd bod y pedair wal wen yn union yr un fath â’u pedair wal magnolia adre. Yn ddim byd ond caets am eu problemau priodasol. * * * Blew Ar ‘i Jest Byseddodd y blewiach ar ei jest a diolch i ba bynnag dduw goruchaf drefnodd eu bod yn cwrdd. Y boi aros-mewn-gwestai-crand a’i prynodd gyda’i foteli Prosecco ac anrhegion drud. Roedd hi wrth ei fodd yn gwmni arbennig iddo. Yn gwneud ymdrech i wisgo fel dol mewn sodlau main a ffrogiau byrion. Rouge ar ei bochau, minlliw yn drwch. Roedd sêr niferus y gwestai crand yn wincio arni wrth iddi ddringo’r grisiau gydag e. Teimlo’n sbeshal, am unwaith. Gorweddai yno’n gwenu. Yn gwenu a thrio peidio â meddwl am yr un dyn hwnnw yn mynd â merched eraill i westai eraill... Heno, roedd y bri a’r blewiach mân yn perthyn iddi hi, ac iddi hi yn unig. * * * R’un Sbit Er iddi bacio’r llyfr lliwio’n unswydd i ddiddanu’r fechan, rhegodd Betsan am fod yn ddigon stiwpid i anghofio’r creons ar ford y gegin. Ffycin hel, o bob blydi dim. Gweddïodd bod ‘na Sbar gerllaw yn rhywle er mwyn dod o hyd i rywbeth – unrhyw beth! – i daweli’r fechan oedd yn cicio a strancio a llenwi’r gwesty cyfan gyda sŵn ei sgrechian. ‘FisheDadiFisheDadiBleMaeDadiFisheDadiNAWR!’ Gwyliodd y groten yn rhwygo tudalennau’r llyfr lliwio’n eira mân. ‘Steddodd Betsan ar erchwyn y gwely, yn gwybod yn iawn bod Meical yn gwneud yr un mosiwns adre yn y gegin o weld ei stwff wedi mynd a’r creons ar y ford. Yn gwybod yn iawn, serch ei heglu hi o ‘na, na fyddai hi byth yn llwyddo i ddianc. |