Dyddiadur
|
Dydd Mawrth, 2 Chwefror 2002
Pan fydd eich enaid yn gadael eich corff ac rydych yn teimlo fel eich bod yn arnofio uwchben y byd, am unwaith chi sy’n cael y gorau ar bethau. Ond weithiau mae pwysau’r byd ar eich ysgwyddau, a byth yn rhoi cyfle i chi gymryd anadl ddofn. Wel, dyna sut y dechreuodd y diwrnod hwn yn bendant. Dim byd ond newyddion drwg, naws drwg a phen tost. Dim teimlad yn unman a sŵn gwan y seirenau ambiwlans yn cynyddu i’m cyfeiriad. Rwyf wedi byw yn y tŷ hwn ers blynyddoedd lawer, mwy nag yr wyf yn ei gofio. Ac wedi aros yn yr un ystafell hyd fy oes, ond tan nawr, nid wyf erioed wedi cael amser i astudio fy ystafell o’r ongl hon, er bod fy ymennydd yn cau i lawr yn araf a’r teimlad o farwolaeth yn dod yn fwy normal nag erioed, rwy’n dal i orwedd yma yn archwilio’r un ystafell y treuliais y 18 mlynedd diwethaf ynddi. Mae’n anodd credu, er bod yr ystafell hon heb dyfu modfedd, eto rywsut, wedi tyfu gyda mi, wedi fy ngweld yn fy nghyfnodau rhyfeddaf. Dydych chi ddim yn sylweddoli’r pethau hyn, nes i chi gael eich rhoi yn y sefyllfa honno lle mae’n rhaid sylwi’n union ar y pethau sydd yn union o’ch cwmpas drwy’r amser. Y peth a newidiodd fy mywyd am byth oedd darganfod tiwmor yn fy ymennydd. Dydd Gwener, 5 Chwefror 2002 Heddiw, deffrais. Y tro cyntaf imi gofio mewn dyddiau. Ymgasglodd teulu o amgylch fy ngwely, gan syllu yn uniongyrchol arnaf fel corff mewn casged. Ai hwn oedd fy angladd? A yw’r tiwmor hwn wedi fy meddiannu? Wrth imi edrych o gwmpas yr ystafell ac astudio’r wynebau o amgylch y gwely, llygaid suddedig, gwenu gorfodol, gwefusau’n crynu. A yw’n hunanol imi ddweud fy mod yn dymuno i bawb adael, mynd adref i orffwys, dw i’n ddigon isel yn gorwedd yma, dw i ddim angen y wynebau prudd yn syllu yn ôl arnaf. Daeth y prynhawn yn araf bach, a daeth y doctor o’r diwedd i ddifetha fy niwrnod gan esbonio’r gwahanol fathau o lawdriniaeth sydd efallai yn mynd i’m gwella neu fy rhoi yn y ddaear. Efallai bod hynny yn swnio’n afiach, ond dyma fy nheimladau yn fy nyddiadur personol. Er i’w geg symud yn ddi-stop am hanner awr, ni chlywais ei lais o gwbl, ni chymerais sylw o’r wybodaeth. Syllais allan o’r hyn roeddwn i’n gobeithio fyddai’n ffenestr dros dro, sylwais ar goeden gerllaw, roedd teulu o adar ond nid oedd y babi bach yn gallu hedfan ymaith gyda’r gweddill, canodd yr adar i ddenu’r adar eraill yn ôl. Ond ni wnaeth. Ai dyma beth oedd yn mynd i ddigwydd i mi? A yw fy nheulu yn mynd i gefnu arna’i os na allaf wella? Ar ôl colli sylw o’r meddyg yn siarad am y peth pwysicaf yn ôl pob tebyg, sef fy mywyd, daeth fy mam â mi yn ôl i realiti gan ofyn i mi a oedd gennyf unrhyw gwestiynau. A bod yn onest ni allwn ofyn dim achos doedd gen i ddim clem am beth yr oedd y boi yma wedi bod yn trafod, felly ysgydwais fy mhen i ddangos fy mod yn deall pob dim. 10 Chwefror 2002 A bod yn onest, rwyf wedi colli trefn ar y dyddiau erbyn hyn. Swatio yn synau artiffisial ystafell ysbyty, yn dal i aros i rywun wneud penderfyniad. Am yr wythnos ddiwethaf rwyf wedi byw a bod mewn a mas o beiriannau MRI, mae fy nghorff wedi ei orchuddio gan farciau nodwydd, rwyf bellach yn llwyr deimlo effaith cael cymaint o waed wedi’i dynnu o’m corff. *** Ar ôl rhoi fy nyddiadur lawr y bore yma am y dydd, gan nad oes llawer i ysgrifennu amdano, daeth y doctor yn ôl i’m stafell gyda rhyw fath o newyddion da a drwg. I gychwyn, y newyddion drwg. Mewn ffordd syml, heb lawer o dermau meddygol, y tebygolrwydd y byddaf fyw ar ôl fy nhriniaeth yw tua 40-45% a does neb yn yr ysbyty yma erioed wedi cynnal y math hwn o lawdriniaeth erioed – sydd bach yn iasol imi, ac yn hynod o ofidus i’m rhieni. Hyd yn hyn dw i’n cyfaddef, rydw i wedi bod yn negyddol dros ben ond wrth imi ddysgu y gallwn i fod yn un mewn canran fach o bobl i ddod allan ar yr ochr gywir a chicio’r tiwmor hwn yn ei din, mae hyn wedi rhoi ychydig o obaith imi – sydd yn dod â ni at y newyddion da, yn gyntaf fi yw’r person cyntaf ar y rhestr (wel, yr unig berson) ond rydyn ni’n bod yn bositif fan hyn. A dyna’r cwbl a bod yn onest. 19 Mawrth 2002 Wel, dyma ni. Y diwrnod mawr, y diwrnod sydd yn mynd i newid fy mywyd er gwell neu er gwaeth. Ar hyn o bryd, does neb ar y ddaear yma yn gwybod yr ochr arall. Fy nheimladau? Dros yr wythnosau diwethaf rwyf wedi bod yn rhy wan i wneud unrhyw beth, i godi, i fwyta, i fodoli. Er gwaetha’ fy nghyflwr, un peth dw i yn siŵr amdano yw bod fy nheulu wedi eistedd wrth ochr fy ngwely bob diwrnod, bob awr, bod eiliad. Hoffwn pe gallwn argraffu llun ohonof fi nawr, dim gwallt, ffrog ysbyty las sy’n agor ar fy mhen ôl. Ar y cyfan, mae fy meddylfryd yn weddol lonydd. Un peth arall, er bod y dyddiadur yma yn bersonol imi, dw i wastad wedi meddwl amdano fel blog bach quirky i gynulleidfa a oedd â diddordeb yn fy mywyd. Os yw’r llawdriniaeth yma yn mynd o chwith neu os bydd fy nghorff yn methu gwella ar ei ôl, rwyf wedi gofyn i’m teulu ysgrifennu darn bach i deimlo’n agos ataf pe bawn i’n mynd. Hwyl am y tro, fy ffrind gorau … 20 Mawrth 2002 … 14 Mehefin 2002 … 4 Medi 2002 … 23 Medi 2002 (SYMUD I BRIFYSGOL!!) … 25 Rhagfyr 2002 … 7 Ionawr 2003 Nid oes unrhyw eiriau i ddisgrifio sut mae’r deg mis diwethaf wedi bod, y profiad o bob math o emosiynau, yn uchel rai dyddiau ond yn cael fy atgoffa’n gyflym o’r gwir emosiwn. Trwy’r holl broses ni ddychmygais erioed y byddwn i’n profi’r fath deimlad mor ifanc, nid oedd colli erioed wedi croesi fy meddwl. Yn nawr, rydym i gyd yn wynebu llawer o golledion. Fel mam dydych chi byth yn meddwl am y profiad o golli plentyn, na’r syniad o’ch plentyn yn dioddef. Rheol ddieiriau rhiant yw amddiffyn eu plant trwy bopeth, ond pan fyddwch yn sefyll wrth ochr gwely ysbyty a’ch plentyn yn gorwedd yno yn fregus ac nid oes dim y gallwch ei wneud ond yfed coffi ysbyty erchyll, dewis yr un frechdan bob diwrnod. Ond mae’r pethau bach yma sydd yn galed i ni, yn ffracsiwn o beth mae eich plentyn yn dioddef. Y teimlad a gefais wrth imi olwynio fy unig ferch i mewn i lawdriniaeth a’r peth olaf a ofynnodd hi oedd i mi ysgrifennu yma, dywedais y byddem yn ysgrifennu yma gyda’n gilydd. Ond heddiw, 10 mis wedyn, rwyf yn eistedd yma yn ei hystafell yn ysgrifennu yn unig. Tra ei bod wedi symud ymlaen i fywyd ar ôl marwolaeth heb unrhyw boen. Fy annwyl ferch, dw i’n dy golli di ac yn dy garu di bob dydd a gwnaf hyd y dydd y cawn ein haduno. |