Sgwrs â'r cerddor Bari Gwiliam
|
Cerddor profiadol a thalentog o Ynys Môn yw Bari Gwiliam. Mae wedi chwarae gyda rhai o fandiau pres gorau’r byd gan gynnwys Band Black Dyke, ac mae wedi bod yn aelod o Fand Pres Biwmares er pan oedd yn bum mlwydd oed. Yn ogystal â hynny mae wedi perfformio ac yn parhau i chwarae gyda nifer o fandiau roc a phop amlycaf Cymru a Lloegr megis Band Pres Llareggub.
Rhan arall o’i fywyd proffesiynol yw dysgu, mae wedi bod yn gweithio ym myd addysg er 1999. Ei swydd gyfredol ers bron i 9 mlynedd yw Cyfarwyddwr Cerdd i Sistema Cymru – ‘Codi’r To’ sef Elusen Cerdd sydd yn gweithio gydag ysgolion Glancegin (Maesgeirchen) a Maesincla (Caernarfon). Soniwch ychydig am y profiadau mwyaf cofiadwy ym mlynyddoedd cynharaf eich gyrfa ym Mand Biwmares. Yr atgof cyntaf sydd gen i o’r band ydi mam yn siarad efo’i chyfnither yn cwyno am ei mab, ‘Mae o’n niwsans, mae o yn band drwy’r amser!’ Rhyw pump oed o’n i adeg yna, ac o’n i’n licio’r syniad o fod yn boen! Felly dyna nes i. Dw i’n cofio gofyn i mam, ‘be ydi Band?’ a dyna’r cychwyn. Mouthpiece oedd gen i am y mis cynta oherwydd bod ganddyn nhw ddim offeryn. Felly’r atgof cynta ydi hynna, eisiau bod yn boen a buzzio am bedair wythnos a mynd ar nerfau pawb adra! Yr atgof nesaf, sy’n fwy trwiadol ydi pan wnaethom ni fynd i Wembley y tro cyntaf yn y 4edd adran. Dim ond deuddeg oed oeddwn ni, yn perfformio yn Wembley Conference Centre ar y sop [cornet soprano] ac ennill. Cawsom ni gymaint o groeso pan gyrhaeddom ni yn ôl ar y bws. Roedd hi’n hwyr, nos Sul, ysgol diwrnod wedyn ac roedden nhw wedi gwneud parti bach yn y Bulkeley ym Miwmares i ni. Roedd hynna yn anhygoel, bod y band yn cynrychioli Biwmares mewn cystadleuaeth dros y Deyrnas Unedig. Pa fath o newidiadau oedd angen i chi eu gwneud yn feddyliol i ymbaratoi eich hun gyfer newid eich rôl yn y band o fod yn chwaraewr i fod yn arweinydd? Dim llawer. Dw i wastad wedi teimlo perchnogaeth yn y band. Ein band ni ydi o, ’da ni yn deulu yn y band. Dw i wedi dysgu lot am sut i arwain a sut i beidio arwain, pethau sydd yn effeithiol a phethau sydd ddim, trwy wylio arweinwyr gwahanol. Mae Gwyn Evans wedi cael dylanwad mawr arna i. Yn y deg mlynedd diwethaf, trwy weithio efo Sistema Cymru – ‘Codi’r To’, dw i wedi gallu teithio i Sweden ac i Awstria a dysgu gan arweinwyr clasurol. Dw i wedi dysgu llawer o dechnegau bach am sut i ddelio efo pobl, hwnna ydi’r peth pwysig. Oherwydd fod pobl yn fy nabod ac yn gwybod mod i’n deall sut i chwarae, roedd yna ryw fath o barch o’r cychwyn. Trio cadw y ddesgil yn wastad ydi’r tric a sicrhau bod pawb yn gwybod lle dw i eisiau mynd, lle ’da ni eisiau mynd a bod pawb yn teimlo’n gyfforddus. Beth yw cyfrinach Band Biwmares sydd wedi caniatáu i’r band fod mor llwyddiannus? Hwyl, gwaith caled y chwaraewyr a gwaith caled tu ôl i’r llenni. Rhan o’r gyfrinach yw cefnogi ein gilydd, a bod yn realistig a chofio bod yna fwy i fywyd na’r band. Mae’r gerddoriaeth yn bwysig hefyd wrth gwrs, y mwynhad o greu sŵn anhygoel a pherfformiad anhygoel, un ai mewn cyngerdd neu mewn cystadleuaeth. Y gerddoriaeth sy’n bwysig yn y pen draw. Rhan arall o’ch gyrfa gerddorol yw chwarae gyda Band Pres Llareggub, sut cawsoch y syniad i ffurfio’r band hwn? Yn 2014, ges i decst gan Owain, sef Mr Llareggub ei hun, yn gofyn a faswn i yn licio bod yn rhan o fand, band fatha New Orleans – edgy, efo dipyn o rap. Dw i’n meddwl bod Ows wedi gwneud joban dda, er ein bod ni, chwaraewyr, yn cwyno weithiau, mae gennym ni gyd syniadau ein hunain ond Ows sydd biau Llareggub ac mae o wedi ei lywio fo mewn ffordd wych. Swydd arall sydd gennych yw Cyfarwyddwr Cerdd gyda ‘Codi’r To’ siaradwch ychydig am beth wnaeth i chi gymryd rhan mewn prosiect fel hwn? Cyn y swydd yma mi o’n i wedi bod yn athro cerdd mewn ysgol yn Bradford, Ysgol Brynrefail ac wedyn yn bennaeth adran a phennaeth blwyddyn yn Ysgol Gyfun Llangefni. Dw i’n meddwl bod y gwaith papur, dibwys yn fy marn i, wedi gwneud i mi benderfynu mod i eisiau gadael dysgu yn y ffordd yna. Roeddwn ni wrth fy modd yn dysgu plant, dw i dal wrth fy modd yn dysgu plant, ond doeddwn ni ddim eisiau treulio fy amser yn gwneud gwaith papur. Wedyn nes i weld y swydd yma a nes i edrych i mewn iddi, deall bod y cynllun yn digwydd yn Feneswela a’i fod o yn rhoi cyfleoedd i blant difreintiedig ddysgu offeryn. Felly nes i ddweud, ‘duwcs, waeth i fi drio fo’, a dw i wedi bod wrthi rŵan fel cyfarwyddwr cerdd ers bron i ddeg mlynedd a dw i wrth fy modd. Pa effaith mae’r prosiect hwn yn ei gael ar y plant? Mae gan y plant fwy o ddiddordeb o’i gymharu ag o’r blaen mewn cerddoriaeth yn yr ysgolion uwchradd oherwydd eu bod nhw wedi bod yn rhan o ‘Codi’r To’. Mae nhw yn datblygu sgiliau fel dyfalbarhau, gweithio mewn grŵp, sgiliau canolbwyntio, cadw amser, mae’r rhain i gyd yn sgiliau bywyd. Mae pawb yn gwybod erbyn hyn fod cerddoriaeth a’r celfyddydau yn rhoi sgiliau bywyd mor amhrisiadwy ond mae nhw yn anodd i’w mesur. Mae yna thema amlwg ym mhob rhan o’ch bywyd, sef cerddoriaeth; sut mae cerddoriaeth wedi siapio eich bywyd? Dw i’m yn gwbod be faswn i’n ei wneud hebddo. Dw i mor angerddol am gerddoriaeth. Mae o wedi rhoi swydd a gyrfa i mi. Dw i’m yn gwybod be arall faswn i wedi neud i fod yn onest os faswn i ddim efo cerdd. Mae o wedi llywio pob rhan o’m mywyd. Pam mae cerddoriaeth mor bwysig i chi? Mae’r elfen gymdeithasol yn bwysig, cael hwyl ac mae teulu’r band yn grêt yn y band ac yn yr ysgolion hefyd. O’n i gweld hynna yn bwysig, achos o’n i yn cael fy mwlio yn yr ysgol, ond pan o’n i gweld un o’r chwarewyr hŷn a hwythau’n dweud helo, mi oedd o’n gwneud imi deimlo’n saff ac mae hynna wedi digwydd i mhlant i hefyd. Mae cerddoriaeth yn ffordd mae llawer iawn o bobl yn ymlacio, ond dyma yw eich gwaith chi, felly sut ydych chi yn dewis ymlacio? Mae’r tywydd yn gwella rŵan sydd yn golygu y bydda i’n gallu mynd yn ôl ar y beic a dw i yn methu hynna achos mae yn amser fedri di beidio meddwl am ddim byd arall heb law am natur. Dw i wrth fy modd yn coginio hefyd, y rhan fwyaf o’r amser pan dw i’n deffro yn y bore, dw i’n meddwl, be sy’ i fwyd heno? Hefyd, mynd i gigs, ond dw i ddim yn mynd i lawer o gigs oherwydd does gen i ddim llawer o amser. Mae beicio a choginio yn rhan fawr o’m bywyd i erbyn hyn. Petai hi’n bosib i chi rhoi cyngor i chi eich hun pan oeddech yn ifanc, beth fyddai’r cyngor hwnnw? Dos amdani! Paid â phoeni am be’ mae pobl yn ei feddwl ohona chdi, dal ati, dal i ymarfer, dal i weithio yn galed a gweld hwyl yn y gwaith. |