Eira
|
Dwy ferch yn yr eira,
Chwerthin dibryder, Diwrnodau o gemau annirnad. 'Paid â dringo, cariad! Byddi di’n crychu dy ffrog!' Dwy ferch yn yr ysgol Gwahaniaethau anweledig Dillad rygbi cêl y tu ôl i ffrogiau rhy dynn. 'Be’ ti wedi neud gyda dy wallt? Ti’n edrych fel bachgen!' Dwy ferch yn y coleg Cusanau cudd Croes gostus dros ddrws y cartref. 'Dal dim cariad mewn golwg? Ti mor bert, rhaid i’r bechgyn sefyll mewn rhes!' Dwy fenyw o flaen yr allor O’r diwedd Eglwys lawn o ffrindiau, ac aelod neu ddau o deulu. Sylwadau o dan y lluniau gyda #friendshipgoals 'Hyfryd! Oes llun o’r priodfeibion hefyd?' Dwy ferch yn yr eira, Gemau cyfeillesau Dan lygaid barcud eu mamau. 'A gofi’r diwrnod pan gwrddon ni?' 'Ydw. Wnest ti stwffio eira i lawr fy nghrys.' |