Y Cwm
|
Edrychai Angharad ar ei hadlewyrchiad yn nrych y car unwaith eto. Gwirio’r colur, tacluso’r gwallt, ymarfer yr wyneb cyd-deimladwy. Sgleiniodd ei dannedd perl wyn yng nghanol y môr coch. Sicrhau bod colur y llygaid wedi para’r siwrne hyd yn hyn, sicrhau nad oedd un peth o’i le. Sgleiniai ei gwallt melyn yng ngolau’r car, y cwrls a phopeth wedi aros yn eu lle yn berffaith. Yn wir roedd Angharad yn bictiwr, pob manylyn, pob owns o golur a phob stribyn o wallt yn ei le … yn berffaith. Roedd gwneud argraff heddiw yn bwysig.
Sleifiodd Angharad y car i mewn i gêr a llithro allan o’r gwasanaethau i barhau â’r daith yn ôl i’r Cwm, yn ôl adre. Trist oedd clywed y newyddion bod Gwenno Harries, un o’i ffrindiau gorau yn yr ysgol wedi mynd, a byddai’n mynychu ei hangladd yn ystod yr oriau nesaf. “Dyna ddwy o’r criw wedi mynd, cyn inni hyd yn oed gyrraedd 40!” meddyliodd. Crwydrodd ei meddwl ’nôl i haf crasboeth ugain mlynedd yn ôl. Noson ddathlu canlyniadau Lefel A, noson colli Catrin … Tybed ble roedd y tair arall erbyn hyn? Doedd hi ddim wedi cadw mewn cysylltiad. Eisiau gadael y rhan honno o’i bywyd ar ei hôl. Roedd y chwech ohonynt yn griw mor agos yn yr ysgol ond roedd marwolaeth Catrin wedi’u hysgwyd i’r carn. Roedd hi, Angharad, wastad ar gyrion y grŵp, yn dawel ac yn falch o gael lledaenu’i hadenydd. Yr unig beth ar ei meddwl oedd dianc ar ôl y golled arswydus, a byw ei bywyd yn ei ffordd ei hun heb fod yng nghysgod y lleill. Cymuned fechan oedd ganddynt yn y Cwm, pawb yn adnabod pawb. ‘Pobl sy’n gwneud cymuned’ maen nhw’n ei ddweud ond os nad ydych chi’n un o’r bobl hynny sy’n ffitio, dydych chi ddim yn rhan o’r gymuned, ydych chi? Edrychodd a sylwodd ei bod hi wedi cyrraedd Y Cwm … Estynnodd Angharad am y sodlau sgleiniog du yr oedd wedi bod yn eu llygadu o sedd y pasenjyr ers gadael Llundain. Newidiodd allan o’i ’sgidiau dreifio gan lithro’i thraed i mewn i’r sodlau, gan roi un sychiad olaf iddyn nhw er mwyn denu sylw, creu argraff, edrych yn berffaith. Camodd allan o’i char gan lygadu’r fynwent a llifodd teimladau a phrofiadau blaenorol Angharad o’r eglwys i’w phen gan ei bwrw’n galed a’i mogi. Doedd hi ddim wedi bod yn y Cwm ers angladd Catrin … Wrth gerdded yn ofalus gan wylio lle'r oedd hi’n troedio yn y sodlau drud, ffasiynol yn y fynwent, clywai Angharad ei henw. Rhewodd. Roedd hi’n nabod y llais yn syth. Mari Powell. Safodd am ennyd gan baratoi’i hun. Yna trodd yn ei hunfan i weld y tair ohonyn nhw yn eu dagrau yn gwmws fel yr oedden nhw ugain mlynedd yn ôl ond heb Gwenno druan y tro hwn … A dyna ble roedden nhw i gyd gyda’i gilydd yn y fynwent yn galaru am ffrind, fel y tro d’wetha’ … *** “Anest odd jest yn gweud ei bod hi’n hollol anghredadwy bod Gwenno wedi cymryd ei bywyd fel ’na,” meddai Mari’n llawn emosiwn. Ychwanegodd Nerys, “’Dwi’n methu cal ’y ’mhen i rownd y peth. ’O’dd hi mor … gyffyrddus.” “’Dw i’n gwybod,” atebodd Mari yn syllu’n syth ymlaen gyda thristwch tawel yn ei llygaid, “’O’dd ei bywyd hi’n ddigon syml ac ro’dd hi i’w gweld yn hapus iawn. Gweinyddes mewn caffi yn y pentre odd hi, Angharad. Rhan o bob pwyllgor a chlwb sydd yn y cwm ’ma. Do’dd dim byd yn ormod iddi, tase fe lan iddi hi byddai hi’n dal swydd cadeirydd, ysgrifenyddes a thrysorydd, gwneud y cwbl lot!’’ Gofynnodd Angharad yn llugoer, gan deimlo ychydig fel ditectif busneslyd, “Problemau gatre falle?’’ “O naaa’’ neidiodd Anest i mewn fel bwled. “Dyw hi erioed wedi eisiau plant. Na, odd hi a Gareth yn gwpwl bach lyfli, hapus. A dwi’m yn deall sut oedd hi’n gallu fforddio byw’r bywyd o’dd hi’n byw cofia.’’ Pwysodd Angharad gan symud pwysau’i chorff o un droed i’r llall gan astudio’i sodlau unwaith eto. “’Doedd neb yn deall sut oedd cymaint o arian gyda hi. O’dd arian bownd o fod wedi cael ei gadel iddi gan ei rhieni neu rywbeth,’’ sibrydodd Mari. “’Yn gwmws! Felly beth oedd yn bod? Beth oedd y broblem? Beth ’nath arwain iddi gymryd ei bywyd?” Llefodd Anest, gan afael yn dynn ym mreichiau’i ffrindiau. “Mae’n dangos na dy’ ni byth gwir yn nabod unrhyw un go iawn, ydyn ni?’’ Sibrydodd Angharad o dan ei hanadl. “Nid aur yw popeth melyn …’’ *** Gadael y Cwm … Dringodd yr Aston Martin i fyny llethrau cul y Cwm. Crafangodd ei hewinedd coch lyw y car moethus, du. Sleifiodd y car yn llyfn i lawr y briffordd yn ôl i Lundain. Mynnodd y sodlau ei sylw unwaith eto o sedd y pasenjyr a sgleiniai fel perlau o lo. Teimlodd ryddhad wrth adael y lle afiach yna. Roedd ailymweld â’r Cwm wedi cadarnhau nad oedd byth am ddychwelyd eto. Gwenodd. Meddyliodd yn ôl i’r bore a’r teimlad iasoer a’r tensiwn anghyffyrddus, poenus wrth iddi groesi Pont Hafren. Aeth yn ôl ugain mlynedd i’r noson dyngedfennol honno, noson canlyniadau Lefel A, yn ôl i pan gollon nhw Catrin … Y noson feddwol. Dathlu yn nhafarn y Brithyll ger yr afon. Catrin brydferth, garedig: ffefryn pawb. Roedd ei bywyd yn berffaith, canlyniadau gwych, sboner golygus, roedd ganddi bopeth. Oherwydd hynny, roedd yn rhaid i Angharad gael Cai, ac aeth ar ei ôl y noson honno, prynu diodydd iddo a’i feddwi a’i gusanu’n wyllt yn y tywyllwch y tu ôl i’r dafarn. Ond gwelodd Catrin y gusan a rhedodd bant tuag at afon y cwm. Doedd neb arall o gwmpas felly aeth Angharad ar ei hôl, gan adael Cai yn feddw gaib y tu ôl i’r sied. Dechreuodd Catrin weiddi arni, dweud nad oedd neb yn ei hoffi, ei bod yn hunanol ac yn meddwl amdani hi a’i hedrychiad a’r esgidiau ffansi trwy’r amser. Esgidiau. Yr esgidiau, doedd dim hawl gan Catrin i siarad amdanyn nhw fel ’na. Roedd yr esgidiau yn bwysig, esgidiau mam. Yr unig beth oedd ar ôl i’w hatgoffa o’i mam a aeth ar goll yr holl flynyddoedd hynny yn ôl. Doedd dim hawl iddi wneud sbort am ei phen. Roedden nhw ar lannau’r afon erbyn hyn a dagrau Catrin yn llifo a dicter yn ei llais. Gwylltiodd Angharad yn ei thymer. Gwthiodd. Cwympodd Catrin i’r afon. Ymbiliodd ar Angharad i’w hachub. Rhewodd Angharad. Gwyliodd y dŵr ymosodol, trefnus yn hawlio Catrin. Llifodd y dŵr drosti gan ei gwthio’n ddyfnach i grafangau’r afon. Wrth wylio’r bywyd yn llifo allan o Catrin fel dŵr yn llifo dros raeadr, edrychodd Angharad ar ei hesgidiau brwnt. Sgrialodd o lannau’r afon, tuag at y dafarn a mynnodd ei sgidiau mwdlyd, euog, pwdr ei sylw. Stopiodd y tu ôl i goeden i’w sychu. Edrychodd o gwmpas yn frysiog gyda’i llygaid yn gwibio i’r chwith ac i’r dde, rhag ofn bod rhywun wedi’i gweld, ond doedd neb i’w weld yn unman. Distawrwydd. Cerddodd ’nôl at y parti ac yn syth at y bar i gael chwisgi dwbl. Roedd ei ffrindiau ar wahân, roedd pawb wedi meddwi ac yn dawnsio’n wyllt. Doedd neb yn sylwi bod Catrin ar goll. Yfodd chwisgi arall a sbeciodd ar ei hesgidiau - doedd dim mwd i’w weld, roedden nhw’n edrych yn berffaith. Dawnsiodd. Yfodd. Llewygodd … Daethon nhw o hyd i gorff Catrin y diwrnod wedyn. Roedd y Cwm o dan gwmwl. Damwain drasig. Marw trwy ddamwain yn ôl yr heddlu. Wedi yfed gormod o gwrw. Dim arwyddion o drais yn ei herbyn. Roedd hi wedi crwydro i lawr i’r afon a chwympo i mewn a doedd neb yno i’w hachub. Roedd pawb mewn sioc. Yr angladd fwyaf i’r Cwm ei gweld erioed. Cai yn torri’i galon, methu cofio dim am y noson honno. Angharad a’i ffrindiau mewn sioc lwyr. Fyddai bywyd byth yr un peth eto. Gadawodd Angharad y Cwm y diwrnod ar ôl yr angladd i fyw gyda’i chyfnither yn Llundain. Teimlai fel pysgodyn mas o ddŵr yng nghymdogaeth y Cwm. Gwthiodd y gyfrinach i gefn ei meddwl a dechrau byw bywyd newydd yn y ddinas yn bell o’r bobl nad oedd yn eu deall na’n eu hoffi hyd yn oed. Doedd hi byth yn bwriadu dod yn ôl i wynebu culni’r bobl oedd yn byw yno. Ond eto, roedd rhaid dod heddiw i weld Gwenno yn ei bedd. Gweld gyda’i llygaid ei hun, ei bod hi wedi mynd am byth … *** Cyrhaeddodd ’nôl i strydoedd amhersonol Llundain ac aeth yn syth i’r garej, roedd rhaid i’r car fod ’nôl erbyn 6yh neu byddai’n rhaid iddi dalu £100 ychwanegol am fynd dros yr amser llogi arferol. Ffarweliodd â’r car perffaith du a cherdded tuag at ei fflat un ystafell ar gyrion y ddinas. Byddai’n rhaid iddi fynd â’r siwt yn ôl yfory, a byddai’r colur wedi mynd oddi ar ei hwyneb erbyn hynny hefyd. Yr unig beth oedd ganddi oedd ei hesgidiau. Blynyddoedd o dalu Gwenno a oedd yn golygu nad oedd ganddi ddim ar ôl iddi hi ei hun. Roedd yr esgid fach yn gwasgu braidd. Dim arian am ddillad ffansi, car, fflat foethus, dim ond crafu byw. Roedd bywyd yn felys yn y ddinas nes iddi dderbyn amlen a llythyr y tu fewn iddi wedi’i deipio - LLOFRUDD - DW I’N GWYBOD BETH WNEST TI! BYDD YN RHAID I TI DALU AM HYN. Roedd rhywun wedi ei gweld hi wedi’r cwbl y noson honno! Diolch byth bod Gwenno nawr mas o’r golwg. Nawr o’r diwedd byddai’n gallu bod yn rhydd o grafangau’r Cwm, rhydd o’r cadwynau a oedd yn eu cadw’n gaeth i’r gorffennol. Amser byw ac anghofio’r gorffennol, anghofio’r Cwm … *** Gwawriodd y bore a gwenodd Angharad arni’i hun. Bu’n ymarfer y wên hon yn y drych ers misoedd. Roedd y gorffennol y tu ôl iddi ac amser i edrych ymlaen at y dyfodol. Sbeciodd ar ei hesgidiau sgleiniog a oedd wedi bod gyda hi ers dros 20 mlynedd, ei chyfeillion trwy’r cwbl. Nawr gallai brynu dillad i gyd-fynd â nhw a fflat hyfryd i fyw ynddi yn lle’r dymp ’ma. Gwelodd y dyn post y tu allan a chwympodd y llythyron ar y mat. Ymbalfalodd ei bysedd ar y mat i weld beth oedd yno. Rhewodd. Syrthiodd llen goch dros ei llygaid. Tagodd. Roedd amlen a llythyr y tu fewn iddi wedi’i deipio - LLOFRUDD - AR ÔL I GWENNO FARW, DAETH LLYTHYR GAN EI CHYFREITHIWR. MAE WEDI DWEUD POPETH WRTHYF I. YR UN TREFNIANT FYDD HI O RAN TALU. OND BYDDA I MEWN CYSYLLTIAD YN FUAN. Eisteddai Angharad gyda’i phen yn ei dwylo. Tybed faint fyddai’n ei gostio i drefnu damwain car? … |