Geiriau ar Gerrig
|
Traeth y De, Aberystwyth – 15/02/17
Roedd pelydrau’n marw ar y môr a ninnau’n gwylio llongau’r cymylau’n sglefrio dros wyneb y dŵr, ac roedd yr iaith yn fywiocach nag o’r blaen, am fod y cwbl yn newydd i ti, a gair o’r newydd ar bob cragen yn disgwyl. Mae’r cregyn a’r cerrig mân mor frau yn nwylo’r môr, ond os daw fory gysgod gair i ffurfio gwên ar dy wefus ansicr, mi godwn gestyll newydd ddydd ar ôl dydd ar y traeth. |