Hydref
|
Mae hi’n pydru mewn steil yn y sedd fawr,
oren ei gwallt yn britho fel dail yr Hydref, ond ei gwefus yn goch fel afal mawr lleithog yn barod am … Y Capel, fel coed noeth yr Hydref yn llawn seddi gwag, y dail i gyd yn eu tro wedi disgyn … ond mae ambell un yn dal yn dynn yn erbyn chwiwiau’r oes. Mae ei phersawr yn fflach o flas yr haf, ond mae’r sbarc yng nghannwyll ei llygad wedi hen bylu. Er hynny saif y llances fawr yng nghysgod y gweinidog bytholwyrdd. Fel gwiwer yn hel ei chnau, diolcha wrth bawb, wedi iddi swatio mewn côt ffwr fel protest, i'w harbed rhag y gwynt, ac mae'n cwestiynu'r degau o deuluoedd sy'n mynychu'r capel ar lein fel cysgaduriaid, a hithau ond yn Hydref. |