Sgwrs â'r actor a'r canwr Meilir Rhys Williams
|
Actor, canwr a pherfformiwr yw Meilir Rhys Williams sydd wedi dychwelyd i’w bentref genedigol er na ddychmygodd y byddai’n gwneud hynny ddeunaw mlynedd yn ôl. Bellach, drwy gyfrannu at ddiwylliant y pentref mewn amrywiol ffyrdd, mae’n ymfalchïo yn ei hunaniaeth a’i ardal.
Sut y dylanwadodd eich magwraeth arnoch i fod y person yr ydych chi heddiw? Cefais fy magu ar aelwyd ac mewn cymuned greadigol iawn ac fe gafodd hynny gryn ddylanwad arnaf. Mae’r dylanwad hwnnw wedi parhau hyd heddiw wrth i mi ddilyn gyrfa broffesiynol ym myd y celfyddydau. Roedd fy nhad yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn a fy mam yn aelod o’r cwmni, felly treuliais lawer o amser yno pan oeddwn yn blentyn. Cefais flas ar theatrau Cymru gan brofi proses ymarfer theatrig, techneg llwyfan a chynnwrf llwyfannu yn gyffredinol. Roedd yn fyd hudolus iawn a dyna oedd y dynfa fwyaf. Cafodd y diddordeb hwn ym myd y celfyddydau hefyd ei feithrin yn yr ysgol wrth i mi fwynhau perfformio mewn cystadlaethau eisteddfodol ac mewn cyngherddau lleol. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r athrawon a’r hyfforddwyr hynny hyd heddiw am roi cymaint o gyfleoedd i mi a’m cyd-ddisgyblion pan oeddwn yn iau. Pa mor bwysig oedd dychwelyd i’ch cynefin yma yn Llanuwchllyn? Rhaid i mi fod yn onest a chyfaddef nad oeddwn yn bwriadu dychwelyd adre i Feirionnydd i fyw pan adewais yn ddeunaw oed i fynd i astudio diploma perfformio yn y Liverpool Institute for Performing Arts. Ar y pryd, nid oeddwn yn teimlo fy mod yn perthyn nac yn gallu bod yn gwbl agored am bwy oeddwn i. Ond, fe roddodd blynyddoedd oddi cartref yn byw yn Lerpwl, Llundain, Caerdydd a Chaernarfon gyfle i mi dyfu fel unigolyn a rhoddodd hynny safbwynt gwahanol i mi ar fy mro enedigol. Cefais gyfle i werthfawrogi llawer o’r gwerthoedd rwy’n falch ohonynt o ganlyniad i’m magwraeth. Rwyf bellach wedi dychwelyd i fyw yn y pentref ers tua phedair blynedd ac rwyf mor falch o fod adre! Mae fy mywyd cymdeithasol mor fywiog a phrysur ag erioed, ac er fy mod ymhell o unrhyw ddinas, mae’n rhoi cyfle i mi ddangos fy ngwerthfawrogiad o fy ardal enedigol drwy gyfrannu at ddiwylliant y pentref mewn amrywiol ffyrdd. Roedd eich tad, Derek Williams, yn un o’r tri a sefydlodd Cwmni Theatr Maldwyn. Soniwch am yr awyrgylch pan oedd y tri yn cynllunio sioe. A gafodd hyn effaith arnoch chi? Pan oedd fy nhad yn mynd ati i greu sioe gerdd newydd gyda Penri Roberts a Linda Gittins, roedd hi’n broses hir a llafurus iawn i’r tri. Byddai sioe fel arfer yn cymryd o leiaf blwyddyn i’w chyfansoddi cyn hyd yn oed dechrau ar y gwaith cynhyrchu. Byddai’r tri yn cyfarfod bob pythefnos, o leiaf, i rannu a gwerthuso cynigion ei gilydd. Roedd fy nhad o hyd yn canmol gallu’r tri i fod yn gwbl onest â’i gilydd wrth rannu’u gwaith, gan mai’r prif nod oedd sicrhau sioe orffenedig o safon. Eto, roedd hwn yn brofiad gwerthfawr tu hwnt i mi, oherwydd roeddwn yn cael bod yn dyst i weld egin syniad sioe yn datblygu’n gynhyrchiad enfawr gyda chast ar gyfartaledd o gant o bobl yn teithio theatrau Cymru. Rwyf yn defnyddio’r sgiliau hynny hyd heddiw wrth fynd ati i ysgrifennu neu gynhyrchu gwaith creadigol. Rydych yn wyneb cyfarwydd iawn ac yn actio yn y gyfres deledu Rownd a Rownd ar S4C fel Rhys y mecanydd. Trafodwch drefn eich diwrnod arferol ar y set. Rwyf yn chwarae rhan Rhys ar gyfres Rownd a Rownd ers saith mlynedd bellach ac mae pob diwrnod yn wahanol. Mae’r cynhyrchiad yn dechrau pan gaiff yr amserlen ei anfon atom sy’n amlinellu amseroedd cyrraedd, gwisgo, colur a threfn golygfeydd y diwrnod canlynol arni. O ddilyn yr amserlen, byddaf yn mynd i’r adran wisgoedd a derbyn gwisg a fydd wedi’i dewis yn barod i mi gan staff yr adran, cyn mynd draw i’r adran goluro i steilio fy ngwallt a chael olew (colur) ar fy nwylo os mai ffilmio yn y garej y byddaf y diwrnod hwnnw! Byddaf yna yn teithio i ba bynnag set yr wyf yn ffilmio arni gyntaf. Mae gennym dri phrif lleoliad ffilmio i gyd - Cilbedlam ym Mhorthaethwy ble mae’r set enwog ar y stryd; stiwdio Llangefni ble caiff golygfeydd mewnol y tai i gyd eu ffilmio, ac yna stad Cibyn yng Nghaernarfon, ble caiff nifer o olygfeydd yr ysgol ac unrhyw olygfeydd ysbyty eu ffilmio. Ar gyfartaledd rydym yn recordio rhwng chwech ac wyth golygfa bob diwrnod ac yn recordio pennod gyfan mewn dau neu dri diwrnod. Rydych bellach yn aelod o’r grŵp Cabarela. Soniwch sut ffurfiwyd y grŵp a beth yw’r broses o ran cyfansoddi a chyfarwyddo’r perfformiadau. Cafodd Cabarela ei ffurfio drwy bartneriaeth rhwng Lisa Angharad a’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2017. Cafodd Lisa wahoddiad i gynnal noson gomedi yng Nghaffi Maes B dan arweiniad ei grŵp acapella Sorela sy’n cynnwys ei chwiorydd. Roedd y noson yn llawn artistiaid amrywiol ar y dechrau, ond bellach mae’r cast yn gymharol barhaol sef y chwiorydd Lisa Angharad, Gwenno Healy a Mari Gwenllian; Elain Llwyd, Miriam Isaac, Iestyn Arwel a minnau fel y Difas ac yna’r digrifwr cerddorol Hywel Pitts. Mae’r sioeau yn cynnwys unawdau, ensembles a chaneuon torfol amrywiol ond prif thema’r noson yw comedi cyfredol, cerddorol, ffraeth, heb flewyn ar dafod ar gyfer cynulleidfa dros ddeunaw! Fel arfer, byddwn yn gweithio dros Zoom mewn parau neu grwpiau llai i wyntyllu syniadau cyn mynd ati’n unigol neu mewn parau i ysgrifennu’r deunydd. Bydd aelodau cerddorol y grŵp yn recordio traciau harmonïau i bawb er mwyn ymarfer yn unigol, cyn ymgynnull ar brynhawn cyntaf ein taith i fwrw golwg ar y cyfan gyda’n gilydd cyn perfformio’r noson honno! Ar raglen ‘Mas ar y Maes’, dywedoch na fyddech chi erioed wedi dychmygu gwisgo sodlau, ffrog ac wyneb llawn colur ar lwyfan y Pafiliwn yn 34 blwydd oed. A yw’r profiad hwnnw yn Nhregaron yn parhau’n swreal ichi a sut deimlad oedd perchnogi’r llwyfan y noson honno ac agor y llifddorau i gynulleidfa o Gymry ehangach? Er mor anarferol oedd perfformio sioe Cabarela ar lwyfan y Pafiliwn yn fy ngwisg arferol, roeddwn yn teimlo’n gwbl gyfforddus ar y llwyfan a hynny’n bennaf oherwydd cefnogaeth anhygoel y gynulleidfa’r noson honno. Rydym weithiau fel Cymry yn cael ein beirniadu am fod yn gul neu’n hen ffasiwn ac ar ei hôl hi o ran gwerthoedd cymdeithasol, ond roedd pawb yn y Pafiliwn y noson honno eisiau ymfalchïo yn y ffaith nad yw’r honiadau hynny amdanom fel cenedl yn wir (ar y cyfan). Rwyf hefyd yn meddwl bod y blynyddoedd diwethaf yma wedi bod yn rhai cyffrous iawn i’r Eisteddfod Genedlaethol wrth iddi barhau i ddenu cynulleidfaoedd newydd ac ehangu’r arlwy gelfyddydol yn ystod yr Ŵyl. Roedd y ras i brynu tocynnau Cabarela a’r ymateb i’r sioe yn brawf o hynny. Teg yw nodi eich bod yn agored iawn am eich rhywioldeb. I chi, pa mor bwysig yw codi ymwybyddiaeth o’r gymuned LHDTC+ a chreu gwahaniaeth? Y rheswm pam ydw i mor angerddol am gynrychiolaeth ac ymwybyddiaeth o’r gymuned LHDTC+ yw na theimlais y presenoldeb hwnnw pan gefais fy magu yng nghefn gwlad Cymru. Cafodd hyn effaith negyddol iawn ar fy iechyd meddwl ac fe fûm yn dyst i’r effaith ddinistriol y gall anwybodaeth ei gael ar unigolion a chymdeithas. Addysgu ac uniaethu yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddad-wneud y niwed hwn. Caiff anwybodaeth ei ddefnyddio fel arf wleidyddol i greu rhwyg rhwng carfanau o gymdeithas er mwyn eu cadw o dan reolaeth. Heddiw, gallwn ddeall sut mae’r ddadl am hawliau pobl trawsryweddol wedi troi’n frwydr gas iawn. Mae’r gwrthwynebiad i’w hawliau wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn ymosodiadau yn erbyn y gymuned LHDTC+ a deillia hyn yn uniongyrchol o gynllun strategol gan y cyfryngau prif ffrwd asgell dde. Fel rhywun sydd wedi dioddef ymosodiadau corfforol a geiriol oherwydd fy hunaniaeth, nid oes gen i ddewis ond gwneud safiad i ymgyrchu ym mha bynnag ffordd y gallaf ar gyfer sicrhau hawliau teg i bobl LHDTC+. Mae hawliau’r gymuned hon dan fygythiad parhaol hyd heddiw sy’n cael effaith uniongyrchol ar safon fy mywyd i a’r gymdeithas rwyf yn byw ynddi. Heb os, mae byd y celfyddydau yn fyd ansicr iawn. A yw’r ansicrwydd yma yn dod â rhyw wefr ichi ac yn eich gorfodi i flaengynllunio ar gyfer y dyfodol? Mae ansicrwydd gyrfa yn y byd creadigol yn bendant yn tanio yr awydd ynof i lwyddo ac i fynd ati i dderbyn gwaith cyson. Ond gall yr ansicrwydd hwn effeithio ar hyder ac iechyd meddwl unigolyn os yw’n parhau yn ansefydlog am gyfnod hir. Alla i ddim dychmygu unrhyw yrfa wahanol i mi gan ei bod hi mor hwyliog ac amrywiol, ond mi fuaswn i’n rhoi gair o gyngor i unrhyw un sy’n ystyried yr un trywydd sef bod angen bod yn barod am lawer o waith caled a chyfnodau ansicr iawn! |