Tonnau
|
Yn ôl ac ymlaen, yn ôl ac ymlaen, yn ôl ac ymlaen. Fel tragwyddoldeb. Mae’n gas gen i’r syniad o dragwyddoldeb. Diddiwedd, diddarfod, diderfyn, di-dor, di-ri, di-ben-draw. Yr un diwethaf yna ydi’r gwaethaf. Di-ben-draw. Mor annheg. Lle, pryd, sut mae o’n gorffen? Lle mae’r pen draw? Daw’r ateb syml – does ’na ddim. Dim pen draw. Dim gorffwys i’r môr. Dim ond yn ôl ac ymlaen, yn ôl ac ymlaen.
Rydw i wedi bod yma ers oriau, efallai blynyddoedd hyd yn oed, ac mae hi wedi tywyllu. Mae’r awel fain yn fy mhigo, yn lliwio fy mochau, ac rydw i’n dal fy mreichiau amdanaf yn dynn, yn trio cynnal gwres fy nghorff, neu efallai yn trio cysuro fy hun yn wyneb y tywyllwch digroeso. Dim ond gweddillion y gwyll ar y gorwel pell sy’n goleuo’r byd. Ond fedra i ddim cofio, ai gwargred machlud neu wawr sydd ar y gweill? Ydw i’n edrych i grombil noson hir, dywyll, neu ydi’r noson honno ar fin dod i ben? Cyfddydd neu gyfnos? Un peth alla’ i weld yn glir yw’r ewyn, y gwyn yn sefyll allan yn y du, yn arwydd bod ton arall ar ei ffordd, yn rasio i gwrdd â’r lan. Ond ar ôl chwalu’n dymhestlog ar y creigiau, mae’r don, a oedd mor fawr a chryf eiliadau yn ôl, bob tro’n rhuthro yn ôl i’r môr mawr. Fel byddin yn encilio i noddfa i ailymgynnull, cyn ymosod o’r newydd. Neu fel plentyn bach yn mentro o ddiogelwch breichiau ei mam i weld y byd mawr, ac yna, wrth i ryw sŵn mawr godi ofn arni, yn rhedeg yn ôl i gysur y goflaid, i’r breichiau sydd ar led, yn barod i’w chroesawu yn ôl i’r lloches dyner. Ond ble mae’r breichiau, y noddfa, y lloches heddiw? Beth ddigwyddodd i’r addewid? Efallai mai dyna pam yr ydw i yma rŵan, yn chwilio am gysur yng nghanol y storm. Neu efallai mai dim ond osgoi ydw i’n ei wneud yma, osgoi’r cyfrifoldeb o fod yn lloches i rywun arall. Rhywun bach sy’n rhedeg yn ôl yn chwilio am gysur yn llawn hyder ac yn gweld … neb. Mae cydnabod hyn fel ergyd, yn dwyn yr anadl o fy mron. Ceisiaf ddal fy ngwynt yn ôl ataf ond rŵan dw i’n eu gweld nhw. Dau lygad glas yn rhythu trwy’r tywyllwch, mae fel petai hi yma wrth fy ymyl. Mae hi’n dalach nag ydw i’n ei chofio, ei hwyneb bach yn fain ac yn welw, olion y dagrau ar ei gruddiau yn disgleirio yn y golau gwan. Er holl sŵn y tonnau, mae ei llais yn gwbl glir. “Mi wnest ti addo dod yn ôl.” “Dw i’n gwybod”. Mae hi’n syllu i fyw fy llygaid ond alla’ i ddim edrych arni hi. Gormod o gywilydd. Dw i’n gwybod dylwn i fod efo rhywbeth arall i’w ddweud. Mae hi’n aros, yn aros am esboniad, am reswm. Ond rydw i’n waglaw. “Alla’ i ddim ei wneud o.” Mae’r llygaid gleision yn llawn cyhuddiad didosturi a dw i’n gwingo dan y chwyddwydr. Yn sydyn reit, dw i ’nôl yno. Yn yr ystafell fyw, y balŵns dros y nenfwd, yn bedair blwydd oed yn gwylio’r tonnau bychain yn arwyneb y te wrth i’r mỳg grynu yn ei llaw. Yn gwrthod edrych arna’i. A minnau yn syllu’n llawn hyder i’r wyneb a oedd mor gyfarwydd i mi â fy wyneb fy hun. Yr wyneb a oedd yn dynodi cysur a diogelwch. Cysur a diogelwch a ddiflannodd gyda hi’r diwrnod wnes i droi’n bedair. Dyna’r diwrnod y chwalodd fy myd. Dw i’n ei gofio fo’n iawn. Newydd orffen agor yr anrhegion. Newydd ganu. Aros i Nain ddŵad i de i gael bach o gacen. Cael chwarae hefo fy mhensiliau lliw newydd cyn clywed sŵn clic clic yr oeddwn i’n nabod yn iawn. Sŵn Mam yn rhoid ’i sgidia ’mlaen. “Mam, lle wyt ti’n mynd?” “Dim ond i weld y tonnau ’nghariad i.” “Wnei di ddŵad yn ôl?” “Gwnaf siŵr.” Rhyw dyndra yn ei llais yn gwneud i mi ofyn, “Gaddo?” Daeth yr ateb yn llon heb droi’n ôl, “Gaddo.” Ugain mlynedd wedyn o geisio dad-wneud y gair yna. Ceisio dad-wneud y gobaith a oedd ynghlwm â’r addewid. Dod at y môr i ofyn fy nghwestiynau. Ceisio deall pam. Erbyn hyn, dw i’n deall pam. Pam roedd rhaid dianc i’r môr. Neu efallai dim ond hanner deall. Achos mae’r hogan fach yn dal i fethu’n lân â deall pam roedd aros mor anodd, methu deall pam doedd hi ddim yn ddigon. Dyna pam mae’n rhaid i mi rŵan droi cefn ar y môr, y tonnau gwyllt, yr ewyn hallt, y dyfodol annelwig, di-ben-draw. Rhaid cadw meddwl ar y nawr, ar heddiw. Gall yfory a thragwyddoldeb aros. Wedi’r cwbl, mae’r wawr ar dorri a wnes i addo dod yn ôl. |