Ffoadur
|
Medi 2015
Yn fwndel bach fe ddaethost ’nôl i’r lan; i’th orffwys olaf ar y graean llaith – Mor frau, a’r môr yn llarpio’r breichiau gwan sy’n llonydd yn y dŵr – yn wyn, heb graith yn dyst i’th derfyn didrugaredd di; Dy freuddwyd olaf nawr dan glo yng nghell y dwfr; yn gaeth yng ngharchar oer y lli, a’th wyneb gwag yn gwylio’r gorwel pell – y llinell las fu’n destun hiraeth hud i ti, o straeon gwych dy Dad – fan draw roedd croeso, cyfarch – gwên a gwres y byd yn aros i dy warchod di rhag braw; A glywaist dwyll y geiriau melys hyn wrth suddo’n swp o dan yr ewyn gwyn? |