Pennod Newydd
|
Ar ôl straffaglu stwffio’r bocs olaf yng nghwt y car rhedodd i fyny’r grisiau pren i’w hystafell. Edrychodd i mewn i’r ystafell a oedd wedi bod yn fan cysur yn ogystal â man crio iddi am flynyddoedd. Roedd lliw’r waliau wedi gwanhau o fod yn binc lliwgar i binc-gwyn. Nid oedd newid yn y dodrefn; yr un gwely â ffrâm cadarn, gwyn, yr un cwpwrdd dillad, yr un ddesg weithio a’r un llenni pinc-gwyn llawn pili pala a oedd yn cyd-fynd â’r gorchudd golau.
Un o’r pethau nad oedd wedi newid o gwbl oedd y llanast. Roedd ei llyfrau TGAU a’i ffeiliau Lefel A yn parhau’n bentwr ar ei desg, a degau, os nad cannoedd, o’i llyfrau darllen a adlewyrchai bro ei mebyd yn fynyddoedd o gwmpas y lle. Er iddi fyw deunaw mlynedd, roedd ei hen deganau’n dal i orwedd ar ei gwely, rhai wedi’u gwisgo gan henaint ac eraill yn parhau mewn cyflwr da. Yng nghornel yr ystafell roedd stand cerddoriaeth, ffliwt mewn cês a chasgliad o gerddoriaeth mewn bocs, o Mozart a Debussy i garolau Nadolig o’r adeg pan gychwynnodd chwarae’r ffliwt. O’r ystafell hon am flynyddoedd roedd cerddoriaeth amrywiol wedi llenwi’r tŷ, yn cynnwys canu pop a yrrai ei mam yn wyllt bost! Heb os nac oni bai, cafodd fwynhad a rhwystredigaeth wrth chwarae’r offeryn, ac er ei bod yn casáu ymarfer ei scales a’i harpeggios, carai chwarae jazz, yr hen glasuron a’r carolau Nadolig a chwaraeai yn flynyddol ym mhlygain yr eglwys ar fore Nadolig. Roedd ei chwpwrdd dillad mahogani bellach dri chwarter gwag, a’r dillad a fu yno mewn cesys yn y car. Roedd rhannau o’r cwpwrdd wedi heneiddio’n frown golau ac yn dyst i’w thantryms arddegol wedi blynyddoedd o guddio’i phoen a achoswyd gan ddisgyblion yr ysgol. Ar ei waelod roedd hen ddillad ei phlentyndod; dillad yr oedd hi a’i mam yn dymuno’u cadw i gofio am flynyddoedd hapus ei gorffennol, o gôt goch felfedaidd ei Nadolig cyntaf i ffrog hir wen llawn patrymau addurnwe ei bedyddio. Prif atyniad yr ystafell oedd map o’r byd a oedd, drwy ryw ryfedd wyrth, yn dal ei dir ar y wal drwy gymorth blue tack. Yn bymtheg oed, casglodd binnau bawd a phinio llefydd ar y map y dymunai ymweld â hwy, o Baris i Berlin ac o Nicaragua i Naples. Bum mlynedd yn ddiweddarach, rhwygwyd Seland Newydd gan grafangau’r gath ac roedd yr ymylon yn dechrau plygu ond roedd ambell bìn gwyrdd fel petai’n rhoi tic mewn blwch, ar ôl bod ar dripiau ysgol. Estynnodd y ferch, a oedd nawr yn ddynes ifanc, am ddwrn y drws a’i gau. Edrychodd arno a gweld yr hen sticeri tywysogesau a’r sticeri canmoliaeth o’r ysgol a oedd bellach yn dechrau plisgo a’u lliwiau’n pylu. Gwelodd dyllau a’i hatgoffodd o’r cyfnod pan roddai restrau o ddyfyniadau i’w hysgogi ac amserlenni arholiadau i fyny â phinnau. Rhedodd ei bysedd dros y blociau llythrennau a oedd yn sillafu ei henw, pob llythyren â phatrwm a lliw gwahanol. Gwelodd olion ei bywyd arno, drws a oedd ar hyd y blynyddoedd wedi’i adael yn agored am sgwrs neu gwtch, ar gau am sgwrs ffôn neu wedi’i gau yn glep ar ôl ffrae neu ddiwrnod gwael yn yr ysgol. Cerddodd yn araf i lawr y grisiau cyn troi at yr ystafell fyw. Yno, gwelodd ei chath ddu a gwyn yn eistedd ar y soffa â’i phen i’r ochr yn edrych arni mewn penbleth, cystal â dweud ‘Lle ti’n mynd? Be’ sy’n digwydd?’ Estynnodd ei llaw ati a’i mwytho gan dderbyn cân grwndi llon yn syth bìn. Edrychodd o amgylch yr ystafell fyw, y carped oren-frown â phatrymau Tibetaidd o anturiaethau’i mam na welodd hi mewn unrhyw dŷ arall, y soffa goch felfedaidd a oedd yn dal sawl atgof o funudau na wastraffwyd yn hel mwythau â’i mam ar Noswyl Nadolig, Nos Galan a phenblwyddi, a’r pentan lle roedd ei chardiau pen-blwydd yn ddeunaw. Trodd tuag at y drws ffrynt, gweld ei mam a’i chofleidio’n syth. Oedd, roedd am ddychwelyd i’w chartref yn ddigon buan, ac oedd, roedd ei hystafell am aros yr un fath am flynyddoedd eto, ond nid dychwelyd fel plentyn o’r ysgol a fyddai bellach ond fel oedolyn o brifysgol a oedd ddwy awr i ffwrdd. Roedd ganddi bennod newydd o’i blaen; anturiaethau, drama, ffrindiau, gwaith a diwylliannau newydd. Teimlai’n frawychus a chyffrous ond roedd ganddi’r cysur nad oedd ei chartref na’i hatgofion cynnar am ddiflannu. Caeodd y drws ffrynt gan ffarwelio â’r gath, eistedd yn un o seddi’r car ac ochneidio. Dyma hi’n mynd. |