Ystafell 63
|
Cyrhaeddais. Cerddais i mewn i’r ystafell. Ystafell 63. Anelais yn syth at y ffenestr a rhyfeddu at yr olygfa. Yr olygfa a fyddai’n fy nghyfarch bob diwrnod am flwyddyn wrth imi agor y llenni cochion. Yr olygfa y byddwn yn ffarwelio â hi wrth noswylio bob noson. Wrth i bopeth arall newid, byddai’r olygfa hon yn aros.
Am fisoedd bûm yn ysu, ac yn ofni, y diwrnod hwn. Y diwrnod mawr. Diwrnod y symud. Amsugnais yr olygfa, gan wenu wrth sylweddoli bod y môr o fewn fy ngolwg. Siglai’r flanced sidan wrth gofleidio’r traeth. Syllais drwy’r ffrâm bren wen, yn methu â chredu fy lwc o gael y fath olygfa ysblennydd. Tu allan i dawelwch unig yr ystafell, clywais fagiau yn cael eu tynnu ar hyd y coridor. Eu holwynion yn sglefrio dros y llawr pren, laminedig. Sŵn llestri bregus yn crynu mewn bocsys cardbord wrth gael eu cludo i fyny’r grisiau niferus. Tarfwyd ar fy synfyfyrio gan sgrech. Wrth i’m calon lamu mewn braw, sylwais ar yr wylan wen yn cylchu’r awyr y tu allan, gan fy atgoffa o agosrwydd y môr. Sylweddolais pa mor denau oedd y waliau wrth glywed cynnwrf a chyffro fy nghymdogion newydd. Criw o gyd-breswylwyr yn cyfarfod. Gwe o dafodieithoedd yn plethu’n un sgwrs. A’r sgwrs gyntaf hon yn treiddio trwy’r waliau ac yn fy anesmwytho. A oeddwn i’n ddigon dewr i ymuno â nhw? Daeth ton o hiraeth trosof wrth imi gofio fy mod ar fy mhen fy hun. Yn wahanol i ddechrau yn yr ysgol uwchradd pan ddychwelwn adref ar ddiwedd y dydd, ni fyddwn yn dychwelyd i gysur cartref am wythnosau yma. Cawn, o’r diwedd, yr annibyniaeth y bûm yn ysu ac yn dyheu amdani ers misoedd. Bellach, nid oeddwn yn siŵr a oeddwn i’n barod i dderbyn y cyfrifoldeb a ddaw ynghlwm wrth fyw yn annibynnol. Canai’r gwynt drwy’r hollt yn ffrâm y ffenestr. Yr hollt a oedd yn brawf o henaint y neuadd. Croesawodd y muriau hyn gannoedd o fyfyrwyr am ddegawdau. Tystient i’r partïon gwyllt, i’r cyfrinachau a rannwyd, i’r straeon a adroddwyd, ac i’r brwydrau a enillwyd. Byddant yn noddfa i filoedd yn rhagor dros y blynyddoedd a ddaw. Gobeithio. Clywn arogl unigryw'r adeilad yn llenwi fy ffroenau. Arogl adeilad hen, ond eiconig. Teimlwn fy nghorff yn simsan gan gryfder fy emosiynau. Hiraeth. Cyffro. Ofn. Gobaith. Wedi brwydro yn erbyn y ffenestr fregus, llwyddais i’w hagor. Llanwyd fy ysgyfaint â’r llonyddwch, a theimlais yr awel yn gostegu fy meddwl. Trois fy ngolygon oddi ar yr olygfa tuag at fy ystafell. ‘Fy’ ystafell? Ystafell ddieithr oedd hon. Teimlais yn unig, heb ddim ond bocsys a bagiau llawn yn gwmni. Ceisiais fy nghysuro fy hun. Cawn feddiannu’r ystafell, a’i chreu yn gartref imi. Gorchuddiaf y waliau noethion â phosteri a llanwaf y silffoedd gweigion â’m trugareddau. A oeddwn yn edrych ymlaen? Oeddwn, wrth gwrs. Yn edrych ymlaen at gamu i fyd gorlawn o bosibiliadau a chyfleoedd. Roedd yr haul yn bygwth machlud ar y dref, a’r noson yn fy nghroesawu i bennod nesaf fy mywyd. |