Crwydro
|
Byw gydag agoraffobia (yr ofn o adael y tŷ)
Wyt ti ofn agor y drws? Wyt ti? Welaist di mo’r haul mawr melyn yn ei grandrwydd y tu hwnt i’r pelydryn bach hwnnw a dasga ar sil dy ffenest? Chlywaist di mo’r adar yn trydar na chwyrnu blin y can mil olwyn ar eu hynt wyllt wallgo ar waelod dy ardd? Theimlaist di ’mo frathiad Sioni Rhew ar dy foch Na choflaid gynnes ym mynwes dy fam-gu? Flasaist ti mo’ halen hallt heli’r môr na’r finegr yn gic yn dy geg, cegaid wrth gegaid o’r papur yn yr awyr iach? Phrofaist di ’mo arogl persawr neb yn y parti Na’r biniau gorlawn drennydd wedi eu llenwi? Agora dy ddrws, cama’, blasa’, arogla’, teimla’ dy fywyd … mae e yno, yn aros … Agora … Chwala’r ffobia. |