Colli Ffydd
|
Mi ro’n ni’n arfer credu,
Pan oedd y byd yn fach, Fod cysur yn eingeiriau I’m cadw rhag pob strach, Bod sŵn yn eu sillafau I leddfu twrw’r byd, A bod eu dweud yn dawel Yn gwneud pob dim yn glyd. Ond aeth y geiriau’n garbwl, Fel cyfarth gorffwyll cŵn, Heb neges yn eu hidiom Nac ystyr yn eu sŵn. |