Sgwrs â'r prif lenor, Sonia Edwards
|
Awdures a bardd o Fôn yw Sonia Edwards, sydd yn adnabyddus am ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Môn gyda’i chyfrol Rhwng Noson Wen a Phlygain yn 1999. Mae ei chyflawniadau eraill yn cynnwys ennill Gwobr Tir Na n-Og yn 2003 gyda Byd Llawn Hud, dod yn ail yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 2001 gyda Y Goeden Wen, ac roedd ei llyfr Merch Noeth ar rest hir Llyfr y Flwyddyn yn 2004. Yn fwy diweddar, cafodd ei nofel Mynd Adra’n Droednoeth ei henwi fel Llyfr yr Wythnos ar Radio Cymru yng nghanol mis Ionawr eleni. Bellach, mae hi’n athrawes Gymraeg yn Ysgol Gyfun Llangefni. Dyma gyfweliad byr ac ysgafn gyda hi.
Yn gyntaf, ga i eich llongyfarch chi ar eich nofel Mynd Adra’n Droednoeth yn cael ei henwi fel Llyfr yr Wythnos ar Radio Cymru yr wythnos yma? Diolch yn fawr. Rydych chi wedi cyflawni lot yn eich gyrfa, ond beth ydych chi fwyaf balch ohono? Rydw i’n meddwl mai’r uchafbwynt oedd ennill y Fedal Ryddiaith yn y Genedlaethol, mae’n rhaid i mi ddweud. Yn bendant, rydw i’n meddwl mai hynny ydy’r prif beth. Ond roedd dechrau ysgrifennu hefyd yn wefr, gweld fy ngwaith mewn print am y tro cyntaf. Mae yna rywbeth o hyd, fel rŵan, cael clywed Nia Williams yn darllen fy ngwaith i ar y radio, mae hynny’n rhywbeth newydd eto. Lot o ryw bethau gwahanol. Ond yn bendant, pinacl y peth oedd ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol. A ydy bod yn athrawes yn eich helpu chi i ysgrifennu i blant? Ydy, mae o mae’n siŵr, achos mae yna rai pethau rydw i wedi ysgrifennu o brofiad, pethau mae plant yn eu dweud ac yn eu gwneud. Mae yna rai pethau fedrwch chi ddim rhoi pris arnyn nhw: pethau hollol wirion yn cael eu dweud, ac felly ysbrydoliaeth weithiau ar gyfer rhai cymeriadau. A oes well gennych ysgrifennu i blant nag i oedolion? Mae’r ddau beth yn hollol wahanol a dweud y gwir. Roeddwn i’n ffeindio, i ddechrau, pan oeddwn i’n ysgrifennu i blant, a hwythau yn rhoi ymateb, eu bod nhw’n onest iawn yn y pethau roedden nhw’n eu dweud, ac yn annwyl iawn. Mae adolygiadau oedolion, wel mae’r rhai hynny yn medru bod ychydig bach yn fwy, wn i ddim sut i egluro... wel mae yna wahaniaeth yn yr ymateb, dywedwn i fel yna. Ond rydw i’n meddwl bod well gen i ysgrifennu i oedolion yn y pen draw. Mae rhywun yn gorfod addasu, a meddwl a fydd yr oedran penodol yma yn deall; nid oes angen meddwl gymaint hefo oedolion. Ond wedi dweud hynny, mae angen gwylio weithiau. Mae rhai o fy llyfrau i oedolion i yn llyfrgell yr ysgol, ac mae angen gwylio pa oedran sy’n eu pigo nhw i ddarllen, achos mae yna ambell i beth sydd ddim yn addas i rai oedrannau; fel yr addasiad ar y radio yma. Roedd rhaid tynnu ambell i reg, nid bod fy llyfrau i’n frith o regfeydd ychwaith, ond roedd rhaid gwylio hefo adeg y dydd. Rydych chi’n ysgrifennu lot o bethau gwahanol, nofelau, straeon byrion, a chyfansoddi cerddi hefyd. Beth sydd orau gennych chi ei wneud? Taset ti wedi gofyn hynny i mi flynyddoedd yn ôl, buaswn i wedi dweud y stori fer, achos ei bod hi yn rhyw gyfrwng bach byr, ac yn debyg iawn i gerdd, ond rydw i’n meddwl rŵan fy mod i, gan fy mod i wedi ymarfer mwy ar y grefft o ymestyn pethau ac ati, rydw i’n meddwl mai nofel rŵan ydy fy mhrif gyfrwng i. Pa un o’ch nofelau chi ydy’ch hoff un? O, nofel y Fedal, yn bendant. A hon rŵan, Mynd Adra’n Droednoeth; mae hon yn agos iawn at fy nghalon i. O ble ’rydych chi’n cael eich ysbrydoliaeth? O, fywyd. Ond mewn gwirionedd, efallai o ryw bethau fel rhaglenni teledu, ffilmiau, unrhyw beth a dweud y gwir. Mae’n anodd iawn ateb hwn yn bendant. Hefo Mynd Adra’n Droednoeth, roeddwn i’n edrych allan drwy’r ffenest, a gweld yr awyr a rhyw goeden, a mi gychwynodd y nofel felly, o un disgrifiad mewn gwirionedd. A oes gennych chi unrhyw beth arall ar y gweill i ni yn fuan? Oes, mae gen i ddilyniant i Mynd Adra’n Droednoeth, fel mae hi’n digwydd. Ond mae hi’n araf iawn yn siapio ar hyn o bryd, achos bod yna gymaint o bethau eraill ymlaen hefyd. Ond ie, honno ydi’r peth nesaf. Rydw i’n gobeithio mai Hydref eleni fydd hi, dyna beth ydy’r deadline cyhoeddi, felly cadwa dy lygad allan! Byddaf i’n siŵr o wneud hynny. Diolch o galon am y sgwrs; mae hi wedi bod yn ddifyr. Croeso siŵr, unrhyw bryd, a diolch i ti hefyd. |