Yr Arwr
|
Cerdd deyrnged i Dr Donald Henderson, y gwyddonydd a fu’n gyfrifol am waredu’r frech wen. Lladdwyd dros dri chan miliwn o bobl gan yr afiechyd yn yr ugeinfed ganrif. Bu farw Dr Henderson ym mis Awst 2016.
‘I wagedd ac oferedd y byd’ – Siôn Cent Yn oes mawrygu’r detholedig sêr A throi llygad ddall rhag ein daear flêr, Fe brofodd y flwyddyn golledion lu, A chriasom oll dros y dyddiau du. Mae’r sêr yn syrthio! A phwy ni wêl Hi’n Ddydd y Farn ar ein planed gêl? Wynebau’r llwyfan, wynebau’r sgrîn, Dim ond rhai o’r eneidiau a aeth dros y ffin. Cantorion, enwogion a chewri y maes, A’u holl etifeddiaeth yn sicr barhaus, Gadawsant. Gadawyd yr yrfa gyffrous, Ystyriwch yn hyn anwadalwch ein hoes. Ystyriwch o ddifri, oes yna i ni Ychwaneg na chanlyn enwogrwydd di-ri? Pe edrychet, pe craffet ar fywyd seléb, Sylweddolet nad ydynt yn androso neb O ryw bwys amhrisadwy i ni nac i’r byd, Ond troi a throi a wna’r cylch o hyd. Pa obaith a ddeil y gymdeithas hon A’i phobl mor gaeth ar yr olwyn gron? Yn fy myw, ni welaf i mai iach Ydyw addoli y dethol grach. A beth ydyn ni ond taeog a gwas I’r hwylus drefn a’i harferion cas? ‘Hwyrach y bydd eleni’n un well’, Ond hwyrach bod ‘hwyrach’ yn obaith pell Ar y gorwel ac, fel y gwnaethom o’r blaen, Fe ddaliwn a daliwn i yrru ymlaen Fel march unllygeidiog a’i gamau yn fras Yn rhedeg a rhedeg at ddiwedd y ras. Wrth lafoerio dros sêr y rhestr wâdd, Anwybyddwn yr hiliaeth a’r erlid a’r lladd, ‘Dio’m yn digwydd i ni, fydd popeth yn iawn,’ Yw’r cysur hunanol a’n boliau ni’n llawn. Fe glywsom sôn am un Donald, do, A esgynnodd â synnwyr cyffredin ar ffo, Do, y llynedd, mewn byd nad yw’n hanner call Fe enillwyd un ac fe gollwyd y llall. Collwyd hwnnw a aeth ati’n ei waith I wyntyllu dirgelwch y gwyddorau maith. Diolchwn i’r doctor – ef oedd yn ben Ar y mudiad a drechodd y frech wen. Dyn go syml, tua hanner cant oed, A’r afiechyd cyntaf a waredwyd erioed. Salwch a laddodd ddiniweidion di-rif, A’r gwyddonydd a stopiodd ei erchyll lif. Heb ei athrylith, heb y gwaith ar ei ran, Fe fyddai’n dynolryw o Sbaen i Iran Yn ysgafnach, yn wanach o dipyn o beth, Na’r ddynoliaeth a ganlyn yn sgil y dreth. A’r enwogion hynny, meddyliaf o hyd, Efallai na fyddent yn bod yn y byd Oni bai am wyddonydd o flaenaf sgil A weithiodd dros werth a chyfoeth ein hil. Ddynolryw oll, onid ydym gytûn Y dylid ymdrechu i gofio’r dyn? *** Gweinaist dy feddyginiaeth, Ninnau’n bell, er gwell, er gwaeth, O’th anian anhunanol, Yn bell o’r tân yn y bol. Rywfodd od, yn rhyfedd aeth Y ddawn yn dy wyddoniaeth Yn angof, fel mai ofer, Nid maith, oedd hirwaith dy her. Rhai byddar yw rhai arwyr, Byddar am na gâr y gwŷr Y sylw a breswylia O gadw oed â’r ’chydig da. Y mae’n boen i rai mewn byd I ŵr adael heb gredyd, Byw ei oes a mynd i’r bedd, Byw i farw heb fawredd. Gwn na fydd dy ganfyddiad Ar glyw nac ar loriau gwlad, A chyfrinach drwy’r achau Yw’r chwedl, a’r stori iacháu. Buost arwr a gŵr gwych A oedd unwaith wyddonwych, Ac est ledled y gwledydd Heb ysig i’th ffyrnig ffydd. Athrylith yr arolwg, Ôl ei waith sy’n dyst i’w lw, Gŵr a fu’n ŵr gorau’i faes, Rhodd enfawr i’w wyddonfaes. Fe fu’i ymdrech dros iechyd Yn bur arloesol i’r byd A’i swydd yn y sialens hon Yn ei alw o’i galon. Rhôi ei waith i’r ddaear hon, Donald, ofalwr dynion; Dyna ddawn y dyn a ddaeth I anwylo’n dynoliaeth. Heddiw, mae ei gyrhaeddiad A’i ffydd yn haeddu coffâd. Rhôi a rhôi i sicrhau Olyniaeth i filiynau. |
|