Traddodiad
|
Yn oer, fel adnabod neb,
‘Na’, eto – dyna’i ateb; myn y gair fel min y gwynt estyn ei lwydrew drostynt. Â’r dalar yn galaru, yntau’r tad sy’n troi o’r tŷ. Wrth y bwrdd mae gwerth y byd; mae ei fab, ac mae’i febyd ei hun yn eistedd yno. Yn lle hyn, am na all o wynebu ei adnabod yn ei boen - nid ydyw’n bod. |