Sut i ddechrau band
|
Rhagymadrodd
Mae pob unigolyn cŵl yn hanes Cymru wedi bod yn aelod o fand. Mae’r rhestr anrhydeddus yn cynnwys enwau megis Osian Candelas, Rhys Mwyn, Dai Sgaffalde ac Owain Glyndŵr. Mae’r canllaw hwn, a ysgrifennwyd gan Gymdeithas Bandiau Cyfoes Cymraeg Cenedlaethol Cymru, yn bodoli er mwyn cynorthwyo ei ddarllenydd i sefydlu band cyfoes Cymraeg a sicrhau bod ei enw yn ymuno a’r rhestr anrhydeddus uchod. Felly, dechreuwn gyda’r peth pwysicaf i bob band ei gael, yr enw. Enw’r band Yn gyntaf, rhaid dewis enw. Y gyfrinach fawr wrth ddewis enw yw cynnwys y fannod. Hynny yw, rhaid i enw’r band ddilyn y fformat hwn: “y” / “yr” + rhyw air heb unrhyw ystyr. Wrth ddewis y gair heb unrhyw ystyr, enwau cyffredin yw’r trywydd hawsaf i’w ddilyn. Mae termau daearyddol yn aml yn gweithio’n dda, gan eu bod yn bethau oesol. Dylid osgoi enwau cyffredin pethau sy’n perthyn i oes benodol, yn arbennig yr oes bresennol. Er enghraifft, mae “Y Corwynt” yn enw da, ond nid felly “Y Llungopïwr”. Mae modd peidio dilyn y fformat hwn wrth gwrs, ac mae nifer o enghreifftiau o hyn. Fodd bynnag, nid yw’r bandiau gydag enwau o’r fath yn tueddu i lwyddo cystal â’r bandiau sydd yn dilyn y patrwm. Cymerwch Edward H. Dafis, Candelas a Swnami fel enghreifftiau, byddent wedi cyflawni cymaint yn fwy pe fyddai ganddynt y fannod yn eu henwau. Ar y llaw arall, mae bandiau megis Y Chwedlau, Y Beatles, ac Y ws Gwynedd wedi bod yn llawer mwy llwyddiannus, am iddynt gynnwys y fannod yn eu henwau. Yr unig dro y dylid gwneud eithriad i’r cyfarwyddyd hwn yw pan mae gan y prif leisydd ddau enw Cymraeg a Chymreig, ac yn yr achos hwnnw, gellir enwi’r band gydag enw’r prif leisydd. Enghreifftiau cyfoes o hyn yw Dafydd Iwan a Tecwyn Ifan. Os oes gan y prif leisydd dri enw Cymraeg, megis yn achos Gwilym Bowen Rhys, ni ddylid ystyried unrhyw enw oni bai am enw’r prif leisydd fel enw’r band oherwydd bod cymaint o fanteision i hyn. Aelodau Mewn band da, mae angen tua pedwar i bump o aelodau. Mae bandiau llwyddiannus y gorffennol yn aml wedi bod yn fandiau o ffrindiau ysgol, neu gyn-ffrindiau ysgol. Mae’r cyfryngau yn arbennig o hoff o fandiau sydd â’u holl aelodau wedi dod o’r un ysgol, ond nid yw hyn yn angenrheidiol chwaith. Mae rhestr isod o ganllawiau bras ar sut i fynd ati i ddewis aelodau. Y prif leisydd – Mae angen i’r prif leisydd fod yn gymeriad cryf gyda llawer o hyder. Nid oes rhaid iddo nag unrhyw dalent cerddorol, dim ond llais swnllyd. Dylai afael mewn gitâr ac esgus ei chwarae o dro i dro, ond nid oes rhaid iddo fedru chwarae’r gitâr er mwyn gwneud hyn. Dylai hefyd hoffi yfed yn drwm. Y gitarydd – Dyma’r aelod sydd angen y mwyaf o ofal i’w ddewis, yn y ffaith bod yn rhaid i’r gitarydd fod yn dalentog. Dylai gael gallu i chwarae’r cordiau i gyd, yn ogystal â riffs ac alawon, ac mae’n hynod ei bwysig ei fod yn gymeriad sydd eisiau dysgu mwy ac eisiau ymarfer trwy’r amser. Dylai’r gitarydd allu canu harmonïau gyda’r prif leisydd. Ni ddylai hoffi yfed yn drwm, gan ei fod yn allweddol ei fod yn aros yn sobr ar y llwyfan. Y basydd – Mae angen i’r basydd fod yn dwp. Y gyfrinach i fod yn fasydd mewn band da yw bod yn dwp. Eto, nis oes angen gallu cerddorol, oherwydd gellir dysgu sut i chwarae’r gitâr fas mewn deng munud. Os, yn yr ymarfer cyntaf, nad yw’r basydd yn gofyn cwestiynau hurt, dylid cael gwared arno yn syth. Dylai hefyd hoffi yfed yn drwm. Y drymiwr – Mae’n rhaid i’r drymiwr gael hunan-hyder digyfnewid. Mae’n rhaid iddo fod yn gymeriad swnllyd a gwyllt. Dylai’r drymiwr edrych fel “tipyn o bishyn”, ef ddylai fod y person delaf yn y band. Dylai hefyd hoffi yfed yn drwm. Chwaraewr allweddell / ail gitarydd (opsiynol) – Mae pedwar aelod yn hen ddigon, ond gellir cael pump. Oherwydd bod eisoes gennych bedwar aelod da, gan i chi ddarllen ac ufuddhau i’r cyfarwyddiadau uchod, nid oes cymaint o bwysau arnoch i ddewis y pumed aelod mor ofalus. Mae rhai bandiau yn dewis pumed aelod ar sail eu doniau ymarferol, er enghraifft byddai person cryf er mwyn cario offer yn ddefnyddiol neu byddai gwneuthurwr paneidiau da yn ddefnyddiol mewn ymarferion. Fodd bynnag, os ydych yn dewis cael chwaraewr allweddell, byddwch yn wyliadwrus nad oes gormod o ddylanwad jazz arno, rhag iddo ceisio gwthio jazz lawr gorn gyddfau gweddill y band a throi’r band yn fand jazz. Offer Dylai pob offerynnwr sicrhau bod ganddo ei offeryn ac amp ei hun. Am gyngor ar brynu’r offer hyn, gweler atodiad X. O ran system sain canolog, fy awgrym yw prynu un yn rhad. Pe prynwch system drud, bydd llawer o alw arnoch i ddod â’ch system i gigs ac nid yw hynny’n brofiad dymunol. Felly prynwch system rhad fel na fydd neb byth yn dymuno ei ddefnyddio, ac ni ddylech fyth orfod ei ddefnyddio. Dylid hyfforddi’r gitarydd i reoli’r system sain, mae technoleg sain yn llawer rhy gymhleth i unrhyw aelod arall o’r band. Un darn o offer sydd cyn bwysiced ag unrhyw un arall i fand yw’r fan. Rhaid i bob band gael fan, a honno’n un go fawr. Y gitarydd ddylai yrru’r fan, gan mai ef fydd yr un sobr mewn gigs. Dylid rhoi enw ar y fan, fel y gwnaeth y Bandana gyda'r Fan-da-‘na a Phatrobas gyda’r Patro-bws. Pan y prynir fan, dylid ei llenwi gyda sbwriel o siopau kebab a cheblau wedi torri, er mwyn creu’r argraff eich bod wedi bod ar sawl taith lwyddiannus gyda’r band, bydd hyn yn cynyddu eich enw da. Y Cyfryngau Cymdeithasol Mae’n hynod o bwysig i bob band gael presenoldeb cryf ar y cyfryngau cymdeithasol. Dylid defnyddio gwefannau megis Facebook ac Instagram i ddangos lluniau meddw o ymarferion, lluniau meddw o gigs a rhannu storïau meddw, cywilyddus am aelodau’r band. Yn atodiad X, fe welwch fy mod yn dweud mai dim ond un gitâr neis sydd arni ei angen ar bob band, felly sicrhewch bod hon mewn cymaint o luniau â phosibl ar y cyfryngau cymdeithasol. Hefyd, benthycwch offerynnau bandiau eraill o dro i dro er mwyn rhoi lluniau o’r rheini ar y we, er mwyn creu’r argraff bod gennych fwy o offerynnau drud nag sydd gennych mewn gwirionedd. Caneuon Canwch am gariad ac am yr iaith Gymraeg. Dylai rhwng 65% a 75% o’ch caneuon fod am gariad, a dylai rhwng 25% a 35% o’ch caneuon fod am yr iaith Gymraeg. Rhaid i’r caneuon am gariad fod yn sôn yn uniongyrchol am gariad, ond nid oes yn rhaid i’r caneuon am yr iaith sôn am yr iaith yn uniongyrchol. Er enghraifft, gallwch ganu am Ethiopia a dweud eich bod yn ceisio achub yr iaith a bydd hynny’n ddigonol. Mae werth cael rhai geiriau yn eich cof sy’n odli â’i gilydd megis “tân”, “cân” ac “ar wahân”, a “ti”, “fi” a “ni”. Bydd cael stôr o’r fath yn hynod o effeithiol ac mae rhestr hirach yn Atodiad XVII. Rhai geiriau a fydd yn ddefnyddiol i chi wrth lenwi bylchau o fewn a rhwng eich penillion fydd “www”, “ooo” ac “aaa”. Nid oes rhaid na geirfa eang na gramadeg gadarn i ysgrifennu caneuon, ond awen a theimlad o ryddid wrth gyfansoddi, a bydd hynny’n sicrhau mai chi fydd awduron anthemau’r dyfodol. Er enghraifft, mae “rhedeg i Berlin” yn berffaith gywir, nid oes angen treiglo enwau lleoedd mewn caneuon; ac mae “byth di bod i Korea” yn hen ddigon safonol fel cymal negyddol. Dyna ni! Mae gennych yn awr fand Cymraeg, llongyfarchiadau! Gobeithio y cewch lwyddiant gyda’r band a chofiwch droi at Gymdeithas Bandiau Cyfoes Cymraeg Cenedlaethol Cymru am gyngor mewn unrhyw argyfwng! Atodiadau X. Un aelod o’r band yn unig sydd arno angen am gitâr ddrud. Yna gallwch roi pen a logo’r gitâr hon ar y teledu pan gewch gyfle ac ar eich cyfryngau cymdeithasol. Nid oes taten o ots am safon gweddill yr offerynnau. Dylai pob aelod sydd angen amp fynd i’r ganolfan ailgylchu leol a chasglu hen focs sy’n edrych fel y gallai fod yn amp. Dylid mynd â’r rhain i bob gig, a dylid ymddwyn fel petaech wedi eich syfrdanu pan nad yw’r “amp” yn gweithio. Yna, bydd y bandiau eraill a fydd yno ar y noson yn cydymdeimlo â chi ac fe gewch fenthyg eu hoffer nhw yn rhad ac am ddim. Gallwch roi hen sticer brown gydag enw eich taid ar y bocsys hyn hefyd er mwyn gwneud iddynt edrych fel petaent yn hen bethau gwerthfawr. XVII. Mae’n ddefnyddiol cael rhai geiriau sy’n odli wrth gefn ar gyfer o broses o ysgrifennu geiriau caneuon. Dyma rai geiriau a geiriau eraill sy’n partneru â hwy. tân cân ar wahân -âd câd gwlad rhad -âf braf caf haf -ân cân tân ar wahân -awr cawr gwawr mawr -i fi ni ti -iad cariad wastad -ôl ffôl yn ôl -on calon gobeithion -ôr côr môr -ru caru galaru -ŵl ffŵl cŵl Ysgrifennwyd gan Gymdeithas Bandiau Cyfoes Cymraeg Cenedlaethol Cymru yn 1639. www.cbcccc.co.org.cymru Cymdeithas Bandiau Cyfoes Cymraeg Cenedlaethol Cymru, Y Cwt, Yr Heol, Y Dref, Y Sir, YC0 905T. |