Coelcerth
|
Maneg am faneg, dônt gan grensian
eu chwerthin yn gamau mân, dônt yn fintai o fochau cochion ac ymgasglu ger y tân i weld rocedi’n ffrwydro’n frychni a chwalu’n deilchion dros y dref, tra bo gewin lleuad lonydd yn tynnu i’r byw yng nghlyw pob llef, pob ymbil, pob ochenaid dawel, pob ing sy’n creithio’r co’ a phob llaw fach sy’n sgubo’r lludw o’n llygaid ni a’n byd ar ffo’. |