Ar gyfer heddiw'r bore
|
Mi fuodd hi’n noson hegar, do, ac mae’r dre’n dioddef. Cymylau hungover yn llusgo’u hunain i fewn o’r bae a’r môr yn sbiwio’i gyts wrth draed y pier – hwnnw fel dynes sy’n dal i fod yn ei sodlau ers neithiwr, a’i bysedd yn tynnu ei sgert yn ffwdanus yn is, yn boenus o ymwybodol fod llygaid y prom arni.
Ond dros y stryd o’m ffenest i, mae ’na un sy’n ffrind da i mi yn sleifio o’r tŷ. Yn sbïo’n sydyn o ochr i ochr ar hyd y stryd dawel cyn cau’r drws melyn yn glep ar ei ôl. Cerdda’n sydyn, a’i fop o wallt yn hongian yn is na’r arfer. Chwys y clwb nos yn dal i lynnu’n annifyr. Rydw i’n gwbod ble buodd o. A phan wela’ i o pnawn ’ma dros All Day Brunch yn Wetherspoons, mi siaradwn ni fel yr ydan ni bob pnawn dydd Sul – am fiwsig ac am farddoniaeth, am faint o afiach ydi’r cwrw Export rhad, ac am ferched, ond bydd ’na enw mor, mor absennol. |