Y Fedal Gelf
|
Dychwelyd yw teitl y darn terfynol yn y portffolio a roddais i gystadleuaeth y Fedal Gelf yn yr Eisteddfod Ryng-golegol eleni, a hynny am fod y ‘trywydd’ o amgylch y llun yn cychwyn hefo’r soned enwog gan T. H Parry Williams. Fy syniad oedd creu rhyw fath o gofnod o hanes Cymru yn yr ugeinfed ganrif, a hynny drwy ddefnyddio llinellau gan rai o feirdd mwyaf adnabyddus y ganrif honno, megis Gerallt Lloyd Owen, Waldo Williams, Iwan Llwyd, Hedd Wyn, Bryan Martin Davies, ac eraill. Mae swyddogaeth y bardd fel sylwebydd yn bwysig iawn, ac felly dyma stori’r ganrif yn eu geiriau nhw.
Roedd y darn yma yn gyfle i mi gyfuno fy niddordebau mewn barddoniaeth, hanes a chelf er mwyn creu rhywbeth o’r newydd. Defnyddiais amryw o gyfryngau yn y darn: inc, paent acrylic, a chollage yn bennaf. Bûm yn ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth er mwyn astudio rhai o lawysgrifau gwreiddiol Cyfreithiau Hywel Dda. Mae’r rhain yn cynnwys rhai o’r enghreifftiau cynharaf o gelf y gellir eu priodoli yn sicr i Gymry, a chymerais lawer o’r dylanwad ar gyfer arddull Dychwelyd o’r lluniau yn y llawysgrif. Fy syniad oedd y byddai’r darn wedyn yn atgoffa rhywun o lawysgrif ganoloesol, ac felly nid yn unig hanes canrif ddiweddar sydd yma, ond rhywbeth sydd yn clymu holl hanes Cymru ynghyd yn sail i ganrif newydd.
|