Glas
|
Wrth i’r dydd lasu roedd y muriau mynyddog
yn moesymgrymu i’r A487 gul, fel petai’r arweiniad wedi bod yno erioed. Gadawsom ein diogel wraidd, ein gwythiennau’n berwi a’n glasfeddyliau’n ysu am bennod newydd. Drwy’r Bala a Brithdir a Bwlch Tal-y-llyn, dros Ddyfi, a’i seiliau’n gorlenwi, heibio’r cloc a’i fygwth di-baid, drwy Dre’r Ddôl a Thre Taliesin a Thal-y-bont. Y muriau’n pylu i ymestyn gorwelion i’r unwaith fannau anghysbell wrth eu cyrraedd. – Ac yno – Ar frig y bryn cyn llithro ac ymgolli yn niwydrwydd y dref, gwêl y glesni. Gwêl y môr yn sisial sgwrs groesawgar, yn ei holl ysblander goleulas, ei ddisgleirdeb glas yn wincio’n annwyl ar ein dyfodiad. Gwêl y gleision yn ffinio, awyr a môr yn cydio’n dynn, gan ddatguddio’r llinell derfyn. Dringa fry i Ben Dinas i brofi’r tywyllwch yn ildio i frwydr y wawr. Ymgolla yn nhwrw byddarol y Llew Du, a thyrd o hyd i gyfeillgarwch bythol oherwydd yma yn dy lasoed y blaguri’n rhan o wyrddlesni’r fro. – Ond O – Glas fydd fy hiraeth innau hefyd wrth i’r gigfran amgyffred y gwir. Mae’n bryd; mae’n amser, gollynga fy llaw. Ildiaf i’r ddirnadaeth drom o golli dwy chwaer. Rhoddaf iti lesni fy Aber i. Ein Aber ni. |