Sgwrs â'r diddanwr Lloyd Davies
|
Cyn Simon Cowell a’r X Factor, yn yr 80au roedd sioe dalent lwyddiannus o’r enw ‘Bob Says Opportunity Knocks’, a oedd yn rhaglen boblogaidd iawn. Roedd Lloyd Davies yn aelod o’r ddeuawd gomedi, Rosser and Davies. Enillodd y ddeuawd o Gymru wythnos ar ôl wythnos yn ystod y gystadleuaeth. Ac yna enillodd Rosser and Davies y sioe gyflawn yn y rownd derfynol ym Mhaladiwm Llundain. Enillasant gyda dros ddwbl yn fwy o bleidleisiau na’r cystadleuwyr a daeth yn ail.
Ers hynny, mae Lloyd Davies wedi cael gyrfa hynod o ddiddorol a llwyddiannus ym myd adloniant. Mae wedi ymddangos ar lawer o raglenni ar y teledu, gan gynnwys ei sioe ei hun ar HTV Cymru yn ogystal â rhywfaint o deledu Cymraeg gyda Caryl Parry Jones. Tua adeg y Nadolig mae’n hoff o berfformio mewn amrywiaeth o bantomeimiau. Cyhoeddodd lyfr barddoniaeth yn ystod y cyfnod clo, Words of a Neath Boy. Llynedd ysgrifennodd gân lwyddiannus o’r enw ‘Forever in Wales’ sy’n cael ei chanu gan Mike Doyle ac sy’n cael ei chwarae’n aml yn y stadiwm yn ystod gemau rygbi Cymru. Ar y trydydd o Ragfyr 2022, rhyddhaodd ei albwm newydd, ‘Paper Clown’, sef albwm llawn caneuon gwreiddiol, doniol a difrifol. Ar hyn o bryd, mae Lloyd yn gweithio fel diddanwr comedi ar longau mordaith ac yn teithio ledled y byd yn perfformio. Yn y cyfweliad hwn, down i wybod mwy am ei yrfa ym myd adloniant. O ble ydych chi’n dod a sut ddaethoch chi i ddysgu Cymraeg? Rwy’n dod o Gastell-nedd yn Ne Cymru. Cefais fy ngeni yno ar Hydref 12, 1967. Dysgais y Gymraeg oherwydd teimlaf ei bod yn bwysig cadw fy nhreftadaeth Gymraeg i fynd. Mae teulu fy nhad yn siarad Cymraeg ond es i i ysgol Saesneg. Roeddwn i’n rhugl yn yr iaith erbyn i mi droi’n 16 mlwydd oed. Beth wnaeth i chi benderfynu ysgrifennu caneuon comedi? Rydw i wedi ysgrifennu comedi a chaneuon ers i mi fod yn fach iawn. Roeddwn i’n gallu ei wneud bob amser! Yn fy nheulu rydyn ni i gyd yn gerddorol ac yn ysgrifennu. Fy nghyfyrder oedd Ivor Novello, y cyfansoddwr enwog. Rydych chi wedi rhyddhau sawl albwm. A yw’n well gennych chi ysgrifennu a chanu caneuon comedi a doniol ynteu caneuon mwy difrifol? Rydw i wedi rhyddhau nifer o albymau. Rwyf wrth fy modd yn ysgrifennu a pherfformio comedi a chaneuon difrifol yn gyfartal. Mae fy albwm diweddaraf yn gymysgedd o’r ddau. O bob cân rydych wedi’i hysgrifennu dros y blynyddoedd, beth yw eich hoff un i berfformio? Rydw i wedi ysgrifennu llawer o ganeuon ac mae’n anodd dewis ffefryn. Mwy na thebyg ‘Forever in Wales’ sydd wedi ei recordio gan Mike Doyle gyda Valley Rock Voices. Mae wedi cael ei chwarae dros 200,000 o weithiau eisoes ar Facebook ac iTunes ac Amazon Music. Pam wnaethoch chi ddewis yr enw ‘Paper Clown’ fel teitl eich albwm diweddaraf? Dewisais i ‘Paper Clown’ fel teitl fy albwm diweddaraf oherwydd mae’n crynhoi fy mywyd fel digrifwr. Mae clown yn gallu ymddangos yn gryf ond hefyd yn gallu bod yn frau iawn. Mae’n debyg ein bod ni gyd yn ychydig fel ’na, dyna’r neges. A allwch chi ddweud wrthym am eich recordiad diweddar gyda Mike Doyle? Clywodd Mike Doyle fy nghân ‘Forever in Wales’ ac roedd eisiau ei recordio yn syth bìn. Yna gwnaethom ni ychwanegu côr merched i’r gân i’w gwneud yn wahanol ac yn fodern. Steffan Morris gyfarwyddodd y fideo ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae wedi cael ei chwarae yn Stadiwm Principality cyn gemau rygbi Cymru. Mae’r gân wedi cael ei chwarae ar draws y byd, yn Awstralia, Seland Newydd ac America. Cymeroch ran yn sioe dalent ITV, ‘Opportunity Knocks’ ym 1987 fel hanner y ddeuawd, ‘Rosser and Davies.’ Sut newidiodd eich bywyd ar ôl ennill y gystadleuaeth? Newidiodd fy mywyd yn aruthrol ar ôl ennill ‘Opportunity Knocks’. Deuthum yn enwog iawn dros nos ac roedd yn brofiad anhygoel. Ble bynnag awn i, roedd pobl yn fy adnabod ac yn gofyn am fy llofnod neu an lun. Agorodd lawer o ddrysau i mi fel perfformiwr ac awdur. Rwyf wedi bod ar y teledu a’r radio ers hynny. Rydych chi wedi gweithio gydag amrywiaeth fawr o bobl anhygoel a diddorol dros y blynyddoedd ond pwy yw’r bobl fwyaf cofiadwy i chi gwrdd â nhw yn y busnes a pham? Y ddau berson mwyaf cofiadwy rydw i wedi cyfarfod â nhw yn y busnes yw Bob Monkhouse a Ken Dodd. Roedd y ddau yn ddigrifwyr anhygoel. Roedd Bob yn dechnegydd jôcs anhygoel ac roedd Ken yn glown gwych. Dysgais gymaint gan y ddau ohonyn nhw ac rydw i’n hynod o falch o ddweud fy mod i wedi ysgrifennu ar gyfer y ddau ohonyn nhw. Roedden nhw’n bobl hyfryd. Rydych wedi gwneud pethau diddorol a gwahanol dros y blynyddoedd fel ysgrifennu barddoniaeth a pherfformio mewn pantomeimiau. Pa gyfleoedd eraill ydych chi wedi’u cael i fentro i feysydd eraill? Rwyf wedi cael y cyfle i weithio llawer ym myd teledu. Dw i wedi bod mewn llawer o sioeau fel actor, fel ‘Pobol y Cwm’, ‘Food for the Ravens’, ‘Hotel Eddie’ a ‘The Lloyd George Story’. Rwyf hyd yn oed wedi cael y cyfle i gyflwyno’r snwcer ar BBC 2 o’r Crucible yn Sheffield. Rydw i’n cofio eich gweld mewn nifer o bantomeimiau fel plentyn. Ydych chi’n mwynhau perfformio mewn pantomeimiau? Pa bantomeimiau ydych chi wedi bod ynddynt? A pha gymeriadau cofiadwy ydych chi wedi eu chwarae? Rydw i wrth fy modd yn perfformio mewn pantomeimiau. Rydw i wedi bod mewn dros 25 ohonynt. Roeddwn i wrth fy modd chwarae ‘Silly Billy’ yn ‘Dick Whittington’ ac rwyf wrth fy modd fel ‘Dame’ yn awr. Rydw i newydd chwarae rhan ‘Dame Trott’ yn ‘Jack and the Beanstalk’ yng Ngholisëwm Aberdâr. Mae’n llawer o hwyl oherwydd fi yw’r cymeriad ‘da’ ac mae’r gynulleidfa yn fy ngharu i! Ar hyn o bryd rydych chi yn gweithio ar long. Sut beth yw bywyd fel diddanwr ar long fordaith yn teithio ar draws y byd? A beth yw cynnwys eich sioe ar y llongau mordaith? Mae’n llawer o hwyl bod yn ddigrifwr yn teithio’r byd ar longau mordaith. Rydw i wedi bod o gwmpas y byd lawer o weithiau ac wedi ymweld â chymaint o leoedd. Rydw i wrth fy modd yn gwneud i bobl chwerthin ac mae’n hyfryd bod yn rhan o’u gwyliau. Rydw i’n gweithio mewn theatrau enfawr i gynulleidfaoedd llawn dop. Rydw i’n gweithio gyda cherddorion anhygoel. Rydw i’n perfformio fy nghomedi stand-up ac yn chwarae fy nghaneuon doniol a difrifol yn fy sioeau. Rydw i hefyd yn perfformio fy marddoniaeth gomedi. Ac yn olaf, fel Cymro balch, beth mae Cymru yn ei olygu i chi? Ac a ydych chi erioed wedi recordio yn Gymraeg? Rydw i wedi recordio yn y Gymraeg ond dim ond ar y teledu. Rydw i wedi perfformio mewn sawl sioe ar S4C. Rydw i mor falch o fod yn Gymro. Cymru yw popeth i mi. Mae gennym ni angerdd Celtaidd a hanes anhygoel. Mae Cymru yn llawn cerddoriaeth, barddoniaeth a thân. Rydw i’n caru ein hiaith a’n traddodiadau hynafol. |