Claf ym Mharis
|
Ymateb i 'Claf ym Mharis' gan Lucian Freud.
Yng ngwyn y gwely diarth Y gorweddai, Yn llonydd, Yn fud o’r byd a holl swyn y stryd. – ‘Ça va, mon amour?’ – Trwy ei distawrwydd beichus Mae sŵn ei gofid yn eglur Ac yno y cefais fy ateb. Wedi serio ar ei llygaid gwag Mae gwyn y rhosyn byw Yn marw. I guriad ei chalon fregus. Yn glaf ac yn garcharor Wedi ei rhwymo wrth gadwynau godidog y rheilings glân. Does Dim Dianc Y tro hwn. Ei gobeithion a’i chalon yn pylu Wrth i felfed ei hwyneb gwelw wynnu. Carwch heddiw, Carwch nawr, Yfory, gallai fod yn rhy hwyr. |
‘Herwgipio’r gwaith y mae rhywun. Mae’n debyg y gellid ei alw’n llun-ladrad.’ Dyma sut y gwnaeth meistres y cerddi ecffrastig, Christine James, ddisgrifio’r broses o farddoni yn ei chyfrol o farddoniaeth, 'Rhwng y Llinellau' (2013, td. 3). Yn wir, nid yn unig yr wyf yn teimlo fy mod wedi herwgipio gwaith yr artist Lucian Freud yn y gerdd hon, ond hefyd fflach o’i fywyd personol. Ar ôl ymchwilio i hanes bywyd yr artist a’i wraig, dysgais eu bod yn bâr priod llewyrchus a thalentog dros ben. Yn sgil llwyddiant y ddau (roedd hi'n nofelydd), daeth cryn dipyn o gyfoeth i'w rhan ac, felly, roedd mynd ar drip i Baris yn ddigwyddiad rheolaidd yn eu bywyd priodasol. Ceisiais gyfuno hynny â’r grefft o ‘Awgrymu yn hytrach na dweud’, yng ngeiriau Christine James.
|