Cymro?
|
Yn Gymry, yn genedl,
yn gyswllt, yn gariad, yn gangen, yn gryfder, yn gadwyn, yn gaer. Yn gainc, yn gân, yn gerdd, yn gynghanedd, yn grefydd, yn geinder, yn gelf, yn genhedlaeth. Saunders, Becca, Caio, Llywelyn, T.Llew a Waldo – oll yn gewri diflino; tywysogion aberth a mentro. Ond y mae’r sawl amhur hwnnw a eilw ei hun yn Gymro, Yn gachgi, yn gablydd – dy gydwybod; dy gywilydd. |