Clymau
|
Y syniad gwreiddiol oedd aros yn nhŷ ei rhieni, ond wedi wythnos o swnian tragwyddol ei thad teimlai fel petai hi’n clywed y geiriau, “Sgen ti gynllun o gwbl ta Lleucs?” a “Fedri di ddim aros yn fan hyn am ddim am byth,” yn ei chwsg. Roedd ei ffrindiau ysgol wedi clywed ei bod hi yn ôl yn y dref hefyd, ac wedi un pryd annioddefol yn eu cwmni doedd ganddi ddim dewis ond pacio’i bag unwaith eto. Dim nad oedd hi’n eu hoffi nhw; yn aml iawn roedden nhw’n lot o hwyl, ond roedden nhw i gyd mor gall a’u bywydau nhw i gyd mewn trefn. Roedd un yn briod a’r ddwy arall mewn perthnynas a doedden nhw ddim yn brin o gwestiynau fel, “pryd fydd dy dro di, Lleucs?” Meddyliodd mor braf fuasai cael un sgwrs a oedd ddim amdani hi ond chwaith ddim am eu cariadon perffaith. Roedd hi wedi bwriadu mynd i weld ei nain beth bynnag, ond dros frecwast y bore hwnnw cafodd syniad; beth am symud ati hi? Allai hi ddim meddwl am unrhyw reswm dros beidio! Roedd ei nain yn byw mewn pentref bach ym Mhen Llŷn, a phob wythnos pan fyddai Lleucu yn ei ffonio roedd hi’n cael ei llenwi â chenfigen o fywyd hamddenol ei nain, i’r graddau fod ymddeol a heneiddio wedi datblygu i fod yn bethau yr oedd yn edrych ymlaen atynt. Rhedodd i fyny’r grisiau a phacio’i bag, tanio’r rhacsyn car bach y dysgodd hi a’i brodyr a’i chwiorydd ddreifio ynddo a gyrru i gyfeiriad Llŷn. Pan gyrhaeddodd roedd ei nain wrthi’n hwylio cinio, sef brechdanau caws a thomato, creision plaen ac afal yr un. Cymerodd sedd wrth y bwrdd a dweud wrthi am ei chynllun mawr. “Ma’ gynnoch chi ddwy ’stafell sbâr fan hyn rŵan does Nain?” gofynnodd, gan wybod yn iawn mai oes oedd yr ateb. “Oes tad, pam, meddwl aros heno wyt ti? Pastai Bugail sgen i heno, digonadd i ti os leici di aros?” atebodd ei nain yn reit ddidaro. “Wel rhyw feddwl oeddwn i, y buaswn i’n aros fan hyn am sbel fach?” Daeth pwl o nerfusrwydd drosti wrth iddi ddisgwyl am ateb. “Dros y penwythnos?” gofynnodd ei nain yn ddryslyd. “Naci Nain, sbel dipyn hirach na hynny ella? Rhyw fis?” Roedd ei dwylo’n crynu o dan y bwrdd. Beth petai ei nain yn gwrthod? Doedd hi heb ystyried hynny am eiliad. “I be fasat ti eisiau gwneud peth felly, Lleucu fach, byw efo hen wreigan fel fi yn bell oddi wrth bawb a phopeth.” Roedd gan ei nain bwynt, roedd y peth yn wallgo’, dynes yn ei hugeiniau canol yn symud at ei nain i ben draw Llŷn. “Achos,” oedodd Lleucu, a meddwl o ddifrif. “Dw i bron â thorri ’mol isio bod yn bell oddi wrth bawb a phopeth Nain, isio datod bob cwlwm rhwng Llundain a fi a dw i’n gwybod ’mod i ddim isio clymu fy hun i ryw swydd ceiniog a dima’ yn dre’ chwaith, a dyna ddigwyddith os arosa i adra. Ma’ gen i fymryn o gelc wedi’i safio felly mi dala i am fy mwyd ac am gael aros os leiciwch chi. Plîs Nain, dw i’n desberyt.” “Wrth gwrs Lleucu fach, dwyt ti’m hanner call a dw i’n siŵr fyddi di wedi diflasu yma erbyn diwedd wthnos, ond mi fydd yn braf i mi gael ’chydig o gwmni rownd lle ’ma, ac esgus i gael gneud pwdin eto. Peth digalon ydi coginio i un, yn enwedig crymbls a phwdin reis. Mi fydda dy daid yn eu bwyta’n syth a fydden nhw ddim yn y fridge am fwy na diwrnod cyn iddo fwyta llond desgil gyfan – tasa fo wedi cael ei ffordd mi fasa fo’n bwyta siâr teulu ar unwaith!” Gwenodd yn hiraethus, cyn codi ar ei thraed; “mwy o de?” ***
Deffrodd Lleucu i sŵn adar bach, ac am y tro cyntaf ers blynyddoedd, adar go iawn oedd yn canu – nid rhyw alaw wichlyd o’i ffôn. Cododd yn hamddenol o’i gwely a gwneud ei ffordd i’r gegin lle’r oedd ei nain yn eistedd yn sipian ei the. “Bore pawb pan godo” meddai’n bryfoclyd. Roedd hi’n naw o’r gloch, ond roedd ei Nain wedi deffro ers cyn saith. “Wedi blino ar ôl y Cylch Llenyddol wyt ti?” Chwarddodd Lleucu. Ers iddi gyrraedd roedd ei nain wedi bod yn ei hannog i ymuno â’r holl glybiau yr oedd hi’n rhan ohonynt. Doedd Lleucu ddim yn siŵr i ddechrau, roedd y syniad o symud at ei nain ac ymuno â Merched y Wawr yn swnio fel plot rhyw ffilm ddoniol a oedd â merch ifanc hollol wallgo’n brif gymeriad. Ond pan soniodd ei nain am y Cylch Llenyddol gwyddai na allai wrthod; ei chyn-ddarlithydd Cymraeg oedd y siaradwr gwâdd, ac er ei bod wedi colli pob diddordeb yn ei chwrs prifysgol yn Llundain, teimlodd ryw awydd mawr i fynd. Roedd y ddarlith yn trafod cyfrol newydd o farddoniaeth ac ar ôl brecwast roedd am fynd ar ei hunion yn ei char bach i’r dref i’w phrynu. Teimlai gywilydd mawr ei bod wedi gadael i bethau, a oedd yn arfer bod mor bwysig iddi, lithro o’i gafael. “Oedd hi’n braf gweld dy ddarlithydd, Lleucs?” holodd ei Nain. Rhoddodd Lleucu’r ateb cryno, “Oedd”. Doedd hi ddim eisiau cydymdeimlad ei nain ond y gwir oedd ei bod wedi gobeithio na fyddai wedi’i hadnabod. Teimlodd hi erioed y fath gywilydd a phan ofynnodd iddi beth oedd ei swydd, gorfu iddi egluro ei bod hi, dros bedair blynedd ar ôl graddio, bellach yn ddi-waith. “Ddaru ti wneud y Cwrs Meistr ym Mangor yn y diwedd?” Dyna ofynnodd iddi, a chludwyd Lleucu yn ôl yn syth i benbleth fawr haf 2016. Roedd wedi ymgeisio am le ar gwrs Meistr Cymraeg ym Mangor, ond gwnaeth benderfyniad byrbwyll munud olaf ei bod wedi cael llond bol ar addysg ac ar Gymru ac eisiau ennill cyflog. Doedd hi heb feddwl am hynny ers blynyddoedd, ond chysgodd hi ddim neithiwr gan fod ganddi deimlad ofnadwy ym mherfedd ei stumog; yr un teimlad ag yr arferai ei gael pan oedd hi’n poeni am arholiadau yn yr ysgol – pili palas drwg roedd hi’n eu galw nhw. Bu’n troi a throsi trwy’r nos yn trio dianc rhag ei meddyliau ond gyda phob troad roedd “be os” arall yn dod i’w meddwl; a’r peth gwaethaf oedd fod pob bywyd posib y gallai hi ei ddychmygu iddi’i hun yn well na’i bywyd go iawn. “Ti am ddod i Ferched y Wawr heno ta?” Tarfodd Nain ar ei meddyliau. “O dwn i ddim Nain, ydw i ddim braidd yn ifanc?” Teimlai Lleucu rhyw fymryn yn ddigywilydd yn dweud hynny. “Twt lol! Rhy ifanc wir, ychydig o hwyl ydi o, nid cartref henoed!” Dwrdiodd ei Nain. “Bydd Casi’n dod i nôl ni am bump, felly gwna’n siŵr y byddi di’n barod a dy fod wedi dewis tri dilledyn sbâr i ddod efo ti!” “Tri dilledyn?” holodd Lleucu wedi drysu braidd. “Ia rydan ni’n cael clothes swap, trendi te!” datganodd ei nain yn falch. Ar ôl cinio aeth Lleucu i’w llofft i edrych trwy ei bag. Roedd ganddi drywsusau a chrysau gwaith ynddo nad oedd wedi trafferthu eu dadbacio, ond roedd arni ofn cael gwared arnynt; beth petai hi’n cael swydd mewn swyddfa eto? Ar ôl awr gyfan, roedd hi wedi gwahanu ei dillad yn dri phentwr, pentwr cadw, pentwr taflu, a phentwr rhoi i Ferched y Wawr. Yn y pentwr cadw roedd siwmperi, parau o jîns, a hen ddillad gwaith; yn y pentwr Merched y Wawr roedd hen bâr o legins brau; yn y pentwr taflu roedd y jîns du a wisgodd ar y dêt hwnnw efo David. “Nain!” Gwaeddodd o dop y grisiau. Dim ateb. “Naa-aaain!” Llafarganodd y tro hwn ac ymhen dim daeth ei nain i mewn o’r ardd gefn. “Sgen i ddim byd i roi i’r swap dillad ’ma! Be wna i Nain?!” Roedd hi wedi cynhyrfu, ond sylweddolodd wrth ddisgwyl am ateb peth mor wirion oedd mynd i stêm dros Clothes Swap Merched y Wawr. “Dim byd i’w roi wir,” dwrdiodd ei nain. “Ma’ gen ti fwy wedi’i stwffio i’r cesyn bach yna na ’nghwpwrdd dillad cyfan i!”. Aeth y ddwy fyny i’r ystafell a chododd Nain yr hen bâr o legins dros ei phen a’u harchwilio. Roedd golwg wedi dychryn arni. “Alli di ddim rhoi’r rhain iddyn nhw Lleucu fach! Maen nhw’n dyllau byw!” “Ond Nain. Does gen i ddim byd arall!” Ysgwydodd ei Nain ei phen mewn anghrediniaeth cyn datgan gydag argyhoeddiad, “Reit, wel, well i ti ddod efo fi felly!” Dilynodd Lleucu hi lawr y grisiau i’r ystafell fyw. Estynnodd ei nain fag mawr o wlân, gweill, nodwyddau ac ati o’r dresal ym mhen pella’r ystafell. “Well i mi drwsio amball i dwll yn y trywsus ’ma! A mi gei ditha’ weu rhyw sgarff plentyn i’w roi – alli di ddim mynd yno’n waglaw. Os dw i’n cofio’n iawn, roeddat ti’n arfar bod wrth dy fodd yn gweu erstalwm.” Treuliodd Lleucu y ddwy awr nesaf yn gwrando’n astud ar gyfarwyddiadau’i nain, ac erbyn i Casi gyrraedd am bump a chanu corn ei sports car coch roedd hi wedi creu rhyw fath o sgarff. Doedd y pwythau ddim yn berffaith ac er bod yr ochrau rhyw fymryn yn gam roedd Lleucu wedi gwirioni. Soniodd neb wrthi fod camerâu Heno yn darlledu’n fyw o’r digwyddiad, a chan ei bod hi bron i ddeugain mlynedd yn iau nag unrhyw un arall yno llwyddodd i ddal sylw’r cynhyrchydd yn syth. Gwrthododd Lleucu wneud cyfweliad i ddechrau ond llwyddodd ei nain i’w pherswadio gan erfyn arni gan fod y cynhyrchydd wedi addo galw’r eitem yn ‘Nain a’i hwyres’. Ymhen hanner awr roedd ei ffôn yn llawn negeseuon gan ffrindiau coleg, hen gariadon, a ffrindiau ysgol; “Chdi oedd honna ar Heno?” “Ti ’rioed wedi ymaelodi â Merched y Wawr?” “On i’n meddwl mod i’n sad yn gwylio Heno ar nos Wener ond blydi hel Lleucs, ti’n oce?” Doedd ganddi ddim digon o signal i’w hateb, ac a dweud y gwir roedd Lleucu’n reit falch o hynny! Ar ddiwedd y noson roedd y reliau dillad yn wag, ac roedd hyd yn oed y legins blêr wedi mynd, ond wrth adael gwelodd Lleucu ei sgarff bach yn hongian yn flêr ar yr hanger wrth y drws. Cydiodd ynddo a’i stwffio i waelod ei bag. Gorweddodd yn y gwely’r noson honno’n edmygu’r clymau a’r pwythau bach. Estynnodd am ei ffôn ac ateb ei ffrindiau. “Ia, fi oedd hi.”
|