Copr
|
Eistedda’r ferch â’r gwallt enfys yng nghanol y criw, ei chwerthin heintus yn wenwyn ac yn falm yr un pryd. Mae holl liwiau’r enfys yn ei gwallt, ac yn ei gwên. Mae’r glas yn llifo i’r piws sy’n llifo i’r pinc, yn un gymysgfa hardd, ddryslyd. Adlewyrcha’r lliwiau o’i hamgylch, a phaentio’r byd o’i chwmpas yn llachar, hapus. Yr un fath â hi. Tybia’r byd fod y ferch hon yn lliwiau o hyd, tybiant mai hi yw’r seren ddisgleiriaf, ei bod hi’n haul o hyd. Ond, o dan donnau artiffisial y cydynnau amryliw mae’r copr. Pan ymwthia gwallt newydd o’i wraidd a’r brown diflas yn codi’i ben eto, rhuthra’r ferch i’w guddio. Ni ŵyr y byd am y copr, y copr sy’n llechu y tu mewn iddi, na ddaw i’r golwg ond pan lifa’r lliwiau yn un pwll ar y llawr.
Af eto i Fynydd Parys. Af yno undydd haf, pan fyddaf yn rhydd o gaethiwed fy nghae sgwâr ar ward o chwech. Pan af yno mi welaf y ferch fu yno gyda mi, un tro. Cofiaf ei gwên, a minnau’n cael fy hudo i gopa’r Mynydd ar ei hôl. Dilynais y ferch â’r gwefusau coch. Dilynais hi, y gwynt yn ei gwallt yn creu llinyn i mi i’w ddilyn. Mi ddilynaf ei gwallt eto, a gobeithio cael teimlo cynhesrwydd ei llaw yn f’un i, wrth iddi fy llusgo tua’r gloddfa. Gallaf ei gweld hi’n fy hebrwng i orwedd gyda hi yn y grug, lle nad oedd neb ond ni. Heddiw, wrth orwedd ar wely caled dan oleuadau gwyn gwneud, gwelaf ferch gwefusau coch yn dyfod tuag ataf. Cymer fy llaw, a’m hebrwng i ffwrdd. Gwifren yn mynd mewn, gwifren yn dod allan. Gwifrau’n croesi ei gilydd fel un cawlach blêr, a chdithau’n ddim ond pum pwys mewn bocs gwydr. Mae dy gorff brau yn gwegian wrth i’r peiriant gynorthwyo dy anadlu. Dyheaf am gael dy gyffwrdd, am ddal yn dy gorff pum niwrnod oed a throsglwyddo mymryn o’m gwres i ti. Ti’n beth bach del, cofia. Mae fy nwylo’n ysu am gael dal yn dy rai di, a theimlo dy fysedd bach yn gafael yn dynn amdanaf. Dwi eisiau gwrando arnat yn crio tan oriau mân y bore, oherwydd dyna beth mae mam i fod i’w wneud. Ond, yn hytrach, eisteddaf yn fud, yn gwylio nyrsys mewn dilladau pob lliw yn addasu dy wifrau copr. Disgynnodd John i lawr ochrau’r chwarel gopr, i ffwrdd rhag golau dydd, wedi’i gau yno am y diwrnod i wneud ei waith yn tyllu’r graig. Ni feddyliodd mai dyma’r tro olaf y byddai’n gweld golau dydd. Dim mwy o deimlo’r haul yn boeth ar ei wâr, dim llygedyn arall o olau. Dim byd. Dim ond pydew, a thywyllwch, a llwch. Y llwch melltigedig sy’n ei gwneud hi mor anodd anadlu, yn creithio’r ysgyfaint. A’r tamprwydd, yn oeri y tu mewn iddo. Ac i’r dim byd hynny, sydd byth yn ddim byd mewn gwirionedd, y daeth John i ddiwedd ei oes. Gwêl Deio'r tyrrau concrid yn esgyn o’r ddaear, a’r mwg fel rhaeadr yn tasgu ohonynt yn pardduo’r wybren. Try’r awyr a oedd gynt yn balet o liwiau’r machlud yn gymysgedd o ddu myglyd, y pinc tyner a lifai i’r môr y tu hwnt i weithiau copr Abertawe yn anoddach i’w weld o beth dipyn. Saif Deio a gwylio’r mwg yn cilio tra bod y machlud yn parhau i waedu, a chysgodion diwydiannol y dur yn flaenlun i’r harddwch y tu cefn iddo. Estynna am ei ffôn a thynnu llun. Er gwaethaf hagrwch y diwydiant, fe gaiff o leiaf ddeugain ‘like’ ar Instagram am y llun. Roedd yn ddigon i Deio ddiolch am yr hyllbethau. |