Ar lannau'r Fenai
|
Roedd ei llygaid hi wastad yn fy atgoffa o’r Fenai ar fore oer a chlir o Dachwedd. Rhyw fath o las oeraidd, lletglir. Y math o las sy’n edrych fel haen o wydr bregus. Y math o lygaid sy’n pefrio’n ddiddiwedd. Ond tu hwnt i’r glas iraidd ac arwynebol, pyllau nefi dyfn oeddynt, yn mynd yn dywyllach wrth fynd yn ddyfnach, yn cuddio pob mathau o straeon a chyfrinachau – fel y Fenai.
Mae pawb yn dweud mai pan oedd hi’n chwerthin oedden nhw ar eu gorau. Pan ymddangosai’r llinellau cywrain, disylw yng nghorneli ei llygaid mawr, crwn. Dyna pryd y taniai’r sbarc yn y glas tryloyw, medden nhw. Ond dim ond disgyn i’r hen arfer o ramantu mae’r bobl hyn, a gorliwio’u hatgofion o’r meirw. Nid swynol oedd ei chwerthin mwyn, yn wahanol i’r hyn a ganai Mam iddi pan oedden ni’n fychan. Doedd ei chwerthin hi ddim yn garedig. Nid anwylder oedd tu ôl iddo o gwbl. I’r gwrthwyneb – roedd sŵn aflafar yn ei chwerthin atgas. Dydw i ddim wedi cael fy nallu i’r gwir, dyw’r galar ddim wedi newid fy atgofion amdani. Dydw i ddim am fod yn ffals a dweud bod gen i hiraeth am glywed rhyw dinc llon yn ei chwerthiniad unwaith yn rhagor. Roedd o’n anfon ias i lawr fy nghefn i. Mae pawb yn disgwyl i mi ddweud mai ei chwerthiniad siriol hi oedd trac sain fy mhlentyndod hapus, ond y gwir amdani yw mai atgof sydd gen i am chwerthiniad annifyr o ddichellgar. A phan fyddaf yn cofio ei llygaid glas claer, eu cofio nhw’n fy nghellwair yn finiog a wnaf. Eu cofio nhw’n rowlio chwerthin am fy mhen, heb i hithau orfod yngan gair. Eu cofio nhw’n saethu drwof i fel pâr o bibonwy rhewllyd. Er cymaint yr hoffwn ddweud fod hiraeth gen i am fy chwaer, celwydd fyddai hynny. Ar ôl iddi fynd, roeddwn i wedi meddwl y byddai sŵn ei chwerthin hi’n fud. Ond bob tro rwy’n cerdded ger y Fenai, rwy’n clywed ei chwerthiniad, ac yn gweld ei llygaid yn rowlio chwerthin yn yr ewyn. Dyw ei llygaid hi ddim yn dal cyfrinachau fel y Fenai mwyach, ond dyfn a thywyll yw fy llygaid brown i, fel y tir lleidiog wrth y dŵr, lle mae’r tonnau’n taro’n dragwyddol. |