Ymson 2020
|
Hunllef hir. Dyna sut y byswn i’n disgrifio’r teimlad o gaethiwed mewn tŷ oherwydd y feirws. Yndw. ’Dwi’n deall bod sefyllfaoedd gwaeth i’w cael. Yndw. ’Dwi yn deall bod yn rhaid imi werthfawrogi fy mod i’n iach, a bod rhaid byw fesul diwrnod yn ddiolchgar. Ond, er gwaethaf hyn i gyd, mae’n rhaid cofio ein bod ni gyd mewn sefyllfa fregus iawn ar y funud, ac er fy mod i’n iach ac yn obeithiol, mae’r ‘be’ os’ a’r ‘pwy a wŷr’ yn eiriau sydd yn cael eu defnyddio fel rhegfeydd ar gaeau ysgol erbyn hyn.
Rhyddid. Byw bywyd. Rhedeg drwy’r caeau fel ceffyl gwyllt. Fy ngwallt yn un rhuban hir y tu ôl i mi. Mi wnes i ei gymryd o mor ganiataol. Rŵan, ’dwi’n byw mewn byd llawn rheolau; un tro'r diwrnod; dim trafeilio oni bai bod rhaid; aros o leiaf ddau fetr oddi wrth unrhyw un sydd ddim yn rhannu tŷ gyda chi, ac yn y blaen ac yn y blaen. Sut? Pan ’dwi’n meddwl am y peth, dwn i ddim beth i’w wneud, crio ynteu chwerthin. Ar un llaw, oherwydd fy mod i mewn anghrediniaeth lwyr, ’dwi ’sho chwerthin. Chwerthin llond fy mol. Chwerthin oherwydd mae’r sefylla yn swnio’n un mor hurt, mor anghredadwy ac mor afreal, dim ond chwerthin am ei phen hi fedra i ei wneud. Ond eto, ’dwi ’sho crio. Crio oherwydd bod pobl yn marw. Crio oherwydd bod popeth mor aneglur. Crio oherwydd dwn i ddim pryd y daw hyn i gyd i ben. Mi fydda i’n dychmygu weithiau fy mod i mewn ffilm. Fel, pan es i â’r cacennau bach i Nain a Taid drws nesaf ddoe. Troedio’n droednoeth ar y concrit, gan deimlo’r cerrig bach yn brathu fy nhraed fesul un. Yna rhedeg tuag at y drws, i lawr y dreif; gosod y cacennau lliwgar ar y stepan drws; canu’r gloch; brysio yn ôl, o leiaf ddau fetr; a disgwyl. Disgwyl i gael gweld wynebau annwyl a chroesawgar Nain a Taid, disgwyl i weld wynebau rhai ’dwi’n eu caru ond eto ddim yn cael eu cofleidio. Artaith. Un goflaid sydyn, dyna i gyd ’dwi’n ei ofyn. Ydy hynny’n ormod? Siawns y byddai’n ormod gofyn os gall hyn i gyd ddiflannu dros. Dim gofyn am un cofleidiad. Pryd? Dyna sy’n anodd. Gwybod pryd y daw hyn i gyd i ben. Mi fasa gwybod y byddwn ni i gyd yn cael bod yn rhydd mewn mis, neu hyd yn oed chwe mis yn well na pheidio gwybod. Cael rhyw fath o syniad pryd y byddwn ni’n cael mynd ’nôl i gael nosweithiau têc awê gyda’r teulu, partïon di-ri ar y traeth gyda ffrindiau, neu bethau symlach fel mynd i nofio neu gerdded mynydd eto. Ond dyna ni, fel ’na mae hi, a does dim dianc. Yr hunllef hir sydd yn parhau … |