T. Llew Jones
|
Roedd ’na un aderyn du
unwaith, a fynnai ganu ei gân ar lwyfan o lwyn yn gynnar yn y gwanwyn. Hwn â’i bib a’n dwg ni bant hyd lonydd o adloniant. A ni heno yn unig heb ei hwyl, heb swyn ei big yn y cwm, a’r gaea’n cau i hualu’n meddyliau, pwy ddaw i byncio’r stori ac i leihau’n hofnau ni? Ond mae ei awen heno yn canu cainc yn y co’ a thrwy nodau dechrau’r daith awn ’nôl yn blant yr eilwaith i’r unfan, lle cawn ganu gyda’r un aderyn du. |