Sgwrs â chyn Uwch-arolygydd Heddlu Dyfed-Powys Arfon Jones
|
Cyn Uwch-arolygydd Heddlu Dyfed Powys yw Arfon Jones. Fe’i magwyd ym Mhentre-cwrt, Sir Gaerfyrddin, mynychodd Ysgol Gynradd Bryn Saron ac Ysgol Ramadeg Llandysul ac yna ymunodd â Heddlu Dyfed Powys. Gweithiodd i’r heddlu am 33 mlynedd a mwynhaodd yrfa amrywiol. Wrth iddo esgyn drwy’r rhengau o gadet i heddwas i ringyll i Arolygydd i Brif Arolygydd i Uwch-arolygydd, gwasanaethodd bobl yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Siroedd Ceredigion a Phowys. Fel Gorchmynnwr Rhanbarthol yng Ngheredigion, yr oedd ganddo ystod eang o gyfrifoldebau.
Beth a’ch denodd at weithio i’r Heddlu? Gweithiai fy rhieni mewn ffatri wlân ac roeddyn nhw’n awyddus imi gael gyrfa ddiogel mewn byd cyfnewidiol. Ar ôl cwrdd â dau heddwas ar hap pan oeddwn yn gweithio mewn siop yn ystod gwyliau’r haf, cawsom ymgom ddiddorol iawn ac fe’m denwyd gan y gwaith. Sut mae gwaith heddwas wedi newid ers ichi ymuno â’r Heddlu? Mae’r gwaith wedi newid gant y cant. Mae gwaith yr heddlu’n adlewyrchu newidiadau pellgyrhaeddol yn ein cymdeithas. Er enghraifft, mae llai o barch a disgyblaeth y dyddiau hyn ac mae pobl yn ymddwyn yn wahanol iawn yn eu perthnas â’i gilydd. Ymddengys fod rhai pobl yn fwy parod i feirniadu eraill ac i ffraeo yn hytrach na siarad a chymodi â’i gilydd. Mae’n drist, ond rwy’n teimlo bod llai o ymddiriedaeth ymhlith pobl yn cael ei hadlewyrchu yn y berthynas rhyngddyn nhw a’r heddlu. Mae technoleg wedi newid; mae troseddau ar gyfryngau cymdeithasol ac mae seiberneteg wedi creu heriau ychwanegol. Mae cyffuriau’n creu problemau mawr, gall unigolion farw, sy’n ofnadwy iddyn nhw a’u teuluoedd a’u cyfeillion, ond yn y cyfamser mae’r ddibyniaeth yn arwain at droseddau yn ogystal â chynyddu’r arian. Gallai’r arian gael ei wario ar anghenion eraill. Beth oedd y peth mwyaf anodd yr ymdriniasoch ag ef yn eich gwaith? Rhywbeth syml, a dweud y gwir. Roedd dweud wrth rywun bod ei ferch neu fab wedi marw mewn damwain yn anodd imi. Gallwn ymdopi â chanlyniad damweiniau, gweld cyrff a’u trin, ond roedd trosglwyddo negeseuon yn emosiynol iawn. Rwy’n cofio achlysur pan gafodd merch ifanc ei llofruddio gan ddyn â phroblemau meddyliol. Roedd y dyn yn mynd o le i le yn chwilio am rywun i’w saethu. Collodd y ferch ei bywyd a chollodd ei rhieni eu merch ond collodd y teulu arall eu mab mewn ffordd. Aeth ef i’r carchar. Beth roes y boddhad mwyaf i chi? Am ryw reswm cefais fy anfon i swyddfeydd anhrefnus ar adegau. I mi, mae synnwyr cyffredin yn uniongyrchol. Os oedd problem, y dasg oedd deall y broblem, ystyried yr opsiynau gwahanol a gweithio gyda’r tîm i’w datrys. Ambell waith golygai hynny newid y tîm. Rwy’n cofio’r Prif Gwnstabl ar achlysur fy nyrchafiad yn Uwch-arolygydd yn gofyn imi gefnogi pobl eraill a’u cynorthwyo i wella eu perfformiad. Roedd hi’n bleser mawr cael gweld gwelliannau mewn canlyniadau perfformiad, ond yn fwyfwy pan oedd pawb yn fwy dedwydd yn eu gwaith ac, yn bwysicaf oll, ynddyn nhw eu hunain. Y cyngor gorau a gefais erioed oedd defnyddio fy mhrofiad i gefnogi pobl eraill i wella pethau. Mae’n afresymol disgwyl a gobeithio bod pawb yn eich hoffi chi ond y mae’n bosib ichi gael eich parchu. Os ydych chi’n deg ac yn glir, daw’r parch. Ydych chi’n credu y bydd yr heddlu’n cario drylliau yn y dyfodol? Yn bendant, er fy mod i’n casáu meddwl hynny. Dw i ddim yn cefnogi’r syniad oherwydd ei fod yn erbyn ein traddodiad. Mae tasers wedi dod i mewn ond byddai’n gam arall i hyfforddi’r heddlu i ddefnyddio drylliau. Ar adegau, mae pob heddwas yn ymdrin â digwyddiadau heriol ac anodd ac mae’n rhaid ymatal rhag y temtasiwn i hyrddio i mewn, yn enwedig mewn ffrae neu rywbeth tebyg. Gall taser atal rhywun ond gallai dryll ei ladd. Mae’r gwahaniaeth yn amlwg ac rwy’n gobeithio bod y dydd yn y dyfodol pell. Byddai cario drylliau yn newid agwedd y cyhoedd tuag at yr heddlu am byth a byddai’r effaith negyddol yn anghildroadwy. Pe gallech chi ddewis gyrfa heddiw, beth fyddech chi’n ei ddewis? Byddwn i’n dewis yr un yrfa. Mae rhai pobl yn cael nifer o wahanol yrfaoedd y dyddiau hyn ond yn yr heddlu mae amrywiaeth cyfoethog yn bodoli’n barod. Gweithiais i mewn trefi, pentrefi, porthladdoedd, adrannau archwiliadau troseddol a chwynion. Ymdriniais i â phethau da a phethau drwg fel llofruddiaeth. Teithiais i wledydd eraill a chwrddais ag ystod eang o bobl o bob rhan o’r gymdeithas. Cefais i brofiadau heb eu hail ac rwy’n ddiolchgar amdanyn nhw. Beth oedd y peth mwyaf doniol a ddigwyddodd ichi? Rwy’n cofio un achlysur yn y porthladd yn Abergwaun pan ddaeth menyw oddi ar y llong. Gofynnwyd iddi ddangos dull adnabod ffotograffig. Tynnodd hi lun allan o’i phoced. Llun o’i theulu a hithau’n sefyll yn eu plith nhw. Pwyntiodd ati hi ei hun yn y llun a chyhoeddodd, ‘Dyna fi, y fenyw yn y canol’! Rwy’n cofio achlysur arall pan oeddwn i mewn cyfarfod â nifer o heddweision eraill. Mae pawb wedi clywed storïau am bobl sy’n cwympo i gysgu mewn cyfarfodydd ond y tro hwn y dyn a oedd yn siarad a gwympodd i gysgu! Pwy yw eich eilun a pham? Heb os nac oni bai, Syr Alex Ferguson, cyn-reolwr clwb pêl-droed Manchester United. Nid yn unig am ei lwyddiant ar y maes chwarae ond am y ffordd yr ymdriniai â phobl â disgyblaeth ac arweinyddiaeth ysbrydoledig. Rwy’n cofio cwrdd ag ef ym Manceinion a dywedodd ei staff wrthyf na fyddai llawer o amser ganddo fe ac na ddylwn ei gadw’n rhy hir. Pan sylweddolodd mai Cymro Cymraeg oeddwn i, datganodd iddo gwrdd â nifer o bêl-droedwyr Cymraeg a’u teuluoedd ac roedd e wrth ei fodd yn gwrando arnyn nhw’n siarad yr iaith. Gofynnais i am ffotograff a chytunodd e ar unwaith. Treuliodd e lawer o amser gyda fi. Y peth pwysicaf i mi yw ei fod wedi dod o wreiddiau gostyngedig, ac er ei lwyddiant, doedd e ddim yn rhy grand i dreulio amser gyda fi. Rwy’n ei edmygu e’n fawr iawn. Heb fod yn rhodresgar, yn fy ffordd fy hun rwy’n teimlo fy mod yn debyg iddo. Des i o bentref bach distadl, o wreiddiau gostyngedig a myfi yw unig gadet Dyfed Powys erioed sydd wedi’i ddyrchafu yn Uwch-arolygydd. |