Sgwrs â'r cyflwynydd radio Dylan Jones
|
Ganwyd Dylan Jones ym mhentref Capel Garmon ger Llanrwst, Dyffryn Conwy. Ar ôl graddio mewn Gwleidyddiaeth o Brifysgol Aberystwyth aeth ymlaen i ddysgu Hanes a Gwleidyddiaeth yn Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug ac yna yn Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Llanelwy. Dechreuodd weithio i Adran Newyddion y BBC fel gohebydd radio a theledu yn 1990. Mae’n un o leisiau mwyaf cyfarwydd y radio erbyn hyn ac yn dal i ddiddanu’r genedl wedi bron i 30 mlynedd yn y swydd.
Rydym wedi hen arfer â chlywed eich llais ar raglen ‘Ar y Marc’ bob bore Sadwrn, ond pwy yw’r dyn y tu ôl i’r llais a beth yw ei hanes? Ble cawsoch eich magu a sut ieuenctid gawsoch? Cefais fy magu ar fferm laeth fechan ym mhentre’ Capel Garmon, ger Llanrwst yn Nyffryn Conwy gyda fy mrawd mawr Irfon. Roedd gennym rownd laeth hefyd, a ’dwi’n siŵr fod mynd ar y rownd wedi bod yn help mawr imi siarad a holi pobl yn ddiweddarach yn fy ngwaith fel darlledwr. Es i i ysgol gynradd y pentre’ lle cafodd y pennaeth, y diweddar Mr Brian Morris ddylanwad mawr arnaf, yn fy nysgu i ysgrifennu’n greadigol a bod yn wreiddiol. Cefais fy addysg uwchradd yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst, ac roedd fy ieuenctid yn un hapus iawn. Beth yw eich diddordebau? Pa fath o bethau y byddwch yn mwynhau eu gwneud pan fydd gennych ychydig o amser rhydd? Gwyddom eich bod yn ddilynwr mawr o Glwb Pêl-droed Leeds Utd, o ble daeth hyn? Pêl-droed yw fy mhrif ddiddordeb ac mi fydda i wrth fy modd yn mynd i Elland Road i wylio Leeds yn chwarae. Rwy’n mwynhau gwylio ffilmiau, a choginio hefyd. Tra oeddwn yn fyfyriwr Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, roeddwn yn gweithio ym mwyty Wimpey, Betws-y-coed bob gwyliau Pasg a Haf. Rwy’n cefnogi Leeds Utd ers 1970, a dechreuais eu cefnogi ar ôl gweld llun gan artist o golwr Cymru a Leeds, Gary Sprake, yng nghychgrawn Goal ym Mis Mawrth y flwyddyn honno. Mae’r gweddill yn hanes! Ymunoch chi ag Adran Newyddion y BBC fel gohebydd radio a theledu yn 1990. Sut gawsoch chi’r swydd hon ac oeddech chi wedi dychmygu mai dyma y byddech chi’n ei wneud fel swydd? Ydych chi’n mwynhau eich swydd? Roeddwn wastad eisiau bod yn sylwebydd pêl-droed gan ddynwared sylwebwyr fel Peter Jones, David Coleman a Kenneth Wolstenholme pan oeddwn yn blentyn. Cefais y cyfle i sylwebu ar gemau pêl-droed i Radio Cymru o 1986 ymlaen tra oeddwn yn athro Hanes a Gwleidyddiaeth yn Ysgol Maes Garmon yr Wyddgrug i ddechrau, ac yna yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy. Ym mis Ebrill 1989 roeddwn yn sylwebu ar gêm rownd gynderfynol Cwpan yr FA rhwng Lerpwl a Nottingham Forest yn Hillsborough pan drodd yr achlysur yn drychineb. Wedi hyn cefais wahoddiad gan y BBC i fod yn ohebydd newyddion dros Ogledd Ddwyrain Cymru. Gwaith gwnes i ei fwynhau yn arw cyn troi at gyflwyno yn llawn amser yn 2002. Beth yw trefn diwrnod arferol ym mywyd Dylan Jones? Sut fath o bethau mae angen i chi eu gwneud yn eich swydd? Ydi hi’n swydd anodd? Pan oeddwn yn cyflwyno’r ‘Post Cyntaf’ o Fangor cyn y cyfnod clo, roeddwn yn codi am 3.30 y bore gan ddechrau paratoi’r rhaglen yn y swyddfa ym Mryn Meirion am 4.30. Erbyn hyn rwy’n cyflwyno o fy nghartre yn Ninbych, felly ’dwi’n codi am 4.15 am! Mae paratoi ar gyfer y rhaglen fyw rhwng 7.00 a 9.00 yn golygu ysgrifennu lincs neu gyflwyniadau i storïau yn ogystal â chwestiynau ar gyfer y cyfweliadau. ‘Os ydych yn methu paratoi, paratowch i fethu.’ Mae yna ambell gyfarfod wedi’r rhaglen. Wedyn ychydig o gwsg ar ôl cinio a gwely cynnar yn ddiweddarach! Ac wrth gwrs meddwl am ‘Ar y Marc’ o bryd i’w gilydd drwy’r wythnos! Ble ydych yn eich gweld eich hun mewn ychydig o flynyddoedd? Oes breuddwyd fawr arall yr hoffech ei dilyn neu ydych chi’n ddigon hapus yn y byd darlledu? Ddiwedd Ionawr mi fydda i’n gadael ‘Y Post Cyntaf’ ac yn dechrau cyflwyno’r ‘Post Prynhawn’ gan barhau i gyflwyno ‘Ar y Marc’ bob bore Sadwrn. Mae hynny’n golygu y bydda i wedi cyflawni’r Gamp Lawn o ran cyflwyno rhaglenni newyddion – ‘Y Post Cyntaf’, ‘Taro’r Post’, ‘Post Prynhawn’ a ‘Newyddion S4C’! Fel y gallwch ddychmygu, rwyf yn ddigon hapus yn y byd darlledu, i be’ ’na’i ddechrau gweithio yn fy oed i?! Beth yw’r cyngor gorau y gallwch ei roi i unigolyn sy’n gobeithio dilyn llwybr o fewn byd y cyfryngau? Gwyliwch raglenni teledu, darllenwch erthyglau a gwrandewch ar raglenni radio a cheisiwch ddysgu ohonynt - yr ysgrifennu, y cynhyrchu, y cyfarwyddo a’r cyflwyno. Byddwch yn chi eich hun; byddwch yn naturiol; cofiwch bob amser am y gwrandäwr neu’r gwyliwr gartref, a pharatowch yn drylwyr. |