Sut des i i sgwennu hyn yn Gymraeg
|
Ar ddechrau mis Awst 2015 digwyddodd dau beth arbennig iawn imi. Yn gyntaf, cafodd fy nith gyntaf ei geni. Mi wnes i gwrdd â hi yn y bore pan oedd hi wedi bod yn y byd ers chwe awr. Yn Epsom, Surrey oedd hynny yn Nwyrain Lloegr. Trwy gydol gweddill y dydd mi deithiais mewn llinell i orllewin y Deyrnas Unedig i gyrraedd Aberystwyth gyda’r nos. Wrth deithio trwy’r mynyddoedd nid oeddwn i’n sicr a oedd Cymru’n wlad ar wahân i Loegr neu beidio, ond gellid gweld ei bod hi’n fyd gwahanol. Trannoeth cynhaliwyd fy nosbarth Cymraeg cyntaf fel rhan o’r cwrs haf ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Ar y pryd yr oedd fy mrwdfrydedd tuag at y Gymraeg wedi bod yn tyfu ers sbel. Mae gen i ochr y teulu sy’n siarad yr iaith. Felly mewn partis teulu yr oedd yr iaith yn bresennol. Yr oedd ‘nheulu yn byw tu allan i Fryste; nid oeddwn yn gweld hi’n berthnasol i’m bywyd. Mae’n anodd cofio yn union sut datblygodd pethe - mae pethe fel ‘na yn digwydd yn araf dros amser a hefyd yr oeddwn i, fel person oedd newydd dyfu’n wraig, yn newid yn gyflym dros y cyfnod hwn. Digon i ddweud yr oeddwn yn cael fy nhynnu at Gymru...gan rywbeth. Unwaith, mi wnes i gyfrif faint o amser fy mod i wedi treulio yng Nghymru-ar wyliau ac aros gyda’r teulu-yn ystod fy mhlentyndod. Rhywbeth yn debyg i ddwy flynedd! Yr oeddwn i wedi penderfynu y dylwn i ddysgu iaith arall gan ystyried yr oedolion a oedd yn fy ysbrydoli mwyaf ac yn sylweddoli yr oedd y mwyafrif ohonynt yn amlieithog. Felly, mi wnes i ddod i gasgliad bod nabod ieithoedd a diwylliannau gwahanol yn cael effaith ar bobl a sut maen nhw’n meddwl ac yn ymdeimlo â’r byd. Nawr, mae atgofio’r proses dysgu yn teimlo fel breuddwyd. Yn bendant beth oedd yn cyfrannu mwyaf oedd y bobl mor garedig yr oedd yn barod sgwrsio dros baned ar ôl paned er mwyn i mi gael ymarfer. Bron i dair blynedd yn ddiweddarach, mae fy Nghymraeg yr un oed â fy nith. Mae hi wedi treblu mewn maint o leiaf. Mae fy Nghymraeg wedi tyfu o ddyrnaid o eiriau a’r a medr gwneud yr acen i allu mynegi fy hun yn fanwl. Erbyn hyn mae fy nith hefyd yn gallu cyfathrebu ac yn datblygu personoliaeth. Mae ganddi chwaer fach ac rydw i wedi dechrau dysgu’r Tsieinëeg! |