Salm 77:20
|
Hirfaith haint a heriodd wlad
yn flwyddyn fu’n amddifad. Ond nawr mae bloedd y llengoedd croch, yn atsain hyd ein tiroedd. Disgyblion yr Iesu; y gwŷr mewn crys coch, i’r ffâu yr ânt hwythau, i ganol gelyn. Ein gwrol ryfelwyr, a’r ddraig ar eu bron, Yn gryfach ’da’n gilydd, mewn gormes yr awron. Joseff ac Aaron: yn y beibl mae sôn, dros Gymru yn brwydro mae’r rhain yn y bôn. Yn arwain eu pobl fel Moses gynt, Dros gae neu fôr yn goch ar eu hynt. Mor braf fydd dychwelyd i’r Canton yn ôl, i ganu ein clodydd yn falch yn ein brol. Ysgwydd yn ysgwydd fe safwn yn dal, wedi blwyddyn o aros rhaid ailgodi’r wal. I ni mae crefydd yn gêm ynddi ei hun, yn bêl ac yn gae ac yn unarddeg dyn. I’r teras yn haid, addoldy pob Cymro, a’r ddinas yn fwrlwm, i gymun awn yno. |